Canllawiau Cymorth Addysgu gan Gymheiriaid

Diben

Ffordd i helpu staff i ddatblygu eu haddysgu mewn cydweithrediad â’u cydweithwyr yw cymorth addysgu gan gymheiriaid. Mae cyfranogwyr yn adfyfyrio ar ymarfer da ac yn nodi meysydd sydd angen eu datblygu. O ran datblygu proffesiynol parhaus (DPP), mae cymorth addysgu gan gymheiriaid:

  • yn broses ddwy ffordd lle mae’r cefnogwr a’r sawl a gefnogir yn dysgu oddi wrth ei gilydd, yn datblygu eu hymarfer ac yn cyfoethogi profiad dysgu’r myfyrwyr
  • yn ffordd o nodi a lledaenu ymarfer addysgu da
  • yn ffordd i staff adfyfyrio, datblygu a thystio eu sgiliau a’u harbenigedd

Er mwyn cynnal gwerth adfyfyrio ar gyfer datblygu, mae’n hanfodol fod cymorth addysgu gan gymheiriaid yn parhau’n annibynnol o unrhyw brosesau’n ymwneud ag arfarnu a dyrchafiad.

Sesiwn Cymorth gan Gymheiriaid

Rhaid cynnig sesiwn Cymorth gan Gymheiriaid i’r holl staff a thiwtoriaid uwchraddedig sy’n addysgu neu’n hyfforddi myfyrwyr ar unrhyw lefel o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn academaidd. Bydd y broses yn anfeirniadol a chaiff ei chynnal gydag urddas a chyd-barch.

Tra bydd y brifysgol yn gweithio dan reoliadau pellhau cymdeithasol, rydym ni’n argymell y modelau canlynol. Dylai staff ddewis y model sy’n fwyaf addas i’w dull addysgu:

  • Sgwrs am Weithgareddau a Deunyddiau Ar-lein
  • Arsylwi Dosbarth Ar-lein

Sgwrs am Weithgareddau a Deunyddiau Ar-lein

Mae hyn wedi’i gynllunio i helpu cydweithwyr i edrych ar gynllun a gweithrediad gweithgareddau a deunyddiau dysgu ar-lein. Bydd yn canolbwyntio ar sut mae gweithgareddau dysgu wedi’u cynllunio a sut maen nhw’n cyd-fynd â gweithgareddau eraill yn y cwrs.

Dylai cydweithwyr gyfarfod dros Teams (neu debyg) i drafod pa elfennau yn eu gweithgareddau dysgu ar-lein sydd i’w cynnwys. Gall hyn fod yn weithgareddau penodol (fel defnydd o drafodaeth ar-lein mewn modiwl) neu gynllun mwy cyffredinol y modiwl (e.e. defnyddio Blackboard i gynorthwyo dysgu myfyrwyr).

Cyn cynnal y sgwrs, dylai’r unigolyn sy’n cefnogi aelod o staff gael mynediad at Blackboard, Teams neu unrhyw amgylchedd arall a ddefnyddir. Hefyd dylai drafod pa elfennau i ganolbwyntio arnynt. Unwaith y bydd wedi cael cyfle i edrych ar yr adnoddau perthnasol, dylid trefnu cyfarfod dros Teams (neu debyg).

Dylai’r sgwrs hon ganolbwyntio ar y penderfyniadau ynghylch defnyddio’r gweithgaredd neu’r dull gweithredu, sut mae myfyrwyr yn ymgysylltu ac yn cael eu cefnogi ar-lein. Dylai’r cefnogwr ddarparu adborth, gan drafod meysydd i’w datblygu a meysydd sy’n dangos ymarfer da. Gallech ddymuno gwneud nodiadau ar y cyd yn ystod y sgwrs, gan ddefnyddio’r nodwedd rhannu dogfen yn Teams (neu drefniant tebyg). Mae’r unigolyn sy’n destun yr arsylwi yn cadw rheolaeth dros y sylwadau a gall benderfynu a gaiff elfennau o’r adolygiad eu lledaenu er budd cydweithwyr. Rhaid i bawb sy’n ymwneud â’r broses barchu cyfrinachedd yr wybodaeth a gesglir.

Arsylwi Dosbarth Ar-lein

Mae hyn yn debyg i arsylwi addysgu traddodiadol gan gymheiriaid yn y dosbarth, ond caiff ei gynnal ar-lein. Mae’r arsylwi’n cynnwys tri cham:

  1. Trafodaeth cyn yr arsylwi
  2. Arsylwi addysgu ar-lein
  3. Trafodaeth yn dilyn yr arsylwi

Yn y sesiwn cyn yr arsylwi, yr unigolyn sy’n cael ei arsylwi sy’n penderfynu pa agweddau ar yr addysgu fydd ffocws yr arsylwi. Gall ofyn am adborth ar unrhyw agwedd ar yr addysgu, fel deunyddiau addysgu, cynllun PowerPoint, amlinelliad neu lawlyfr y modiwl, trefniant y modiwl yn Blackboard, neu elfennau eraill fel y dymunir. Mae’r sawl sy’n arsylwi a’r unigolyn sy’n cael ei arsylwi’n trafod ac yn cytuno ar feini prawf ymarfer da. Dylai’r sawl sy’n arsylwi gael dolen at y cyfarfod ar-lein cyn y sesiwn.

Yn ystod yr arsylwi, mae’r sawl sy’n arsylwi’n gwneud nodiadau manwl am yr hyn sy’n digwydd yn ystod y sesiwn, gan nodi’n arbennig unrhyw ryngweithio ac ymatebion gan y myfyrwyr i’r gweithgareddau addysgu. Er enghraifft, gallai dull yn seiliedig ar linell amser fod yn arbennig o ddefnyddiol (e.e. ‘10:10 y darlithydd yn dechrau darlithio gyda PowerPoint; 10:30 gweithgaredd meddwl-paru-rhannu, myfyrwyr yn taflu syniadau am sut mae cysyniad allweddol yn y darllen yn berthnasol i’r ddarlith, myfyrwyr yn ymgysylltu’n weithredol â’r gwaith paru a chyfrannodd 20% i’r drafodaeth dosbarth llawn; 10:40 dychwelodd y darlithydd at y dull darlithio’).

Nid yw’r sawl sy’n arsylwi yn cymryd rhan yn y sesiwn ar-lein a rhaid bod yn sensitif i’r perygl o dynnu sylw myfyrwyr mewn amgylchedd tiwtorial neu seminar lle mae cyfraniadau gan fyfyrwyr yn ofynnol.

O fewn wythnos i’r arsylwi, mae’r sawl sy’n arsylwi yn defnyddio’r Templed Adborth i rannu adborth gyda’r unigolyn sy’n destun yr arsylwi, gan drafod meysydd ar gyfer datblygu pellach ac enghreifftiau o ymarfer da. Mae’r unigolyn sy’n destun yr arsylwi yn cadw rheolaeth dros y sylwadau a gall benderfynu a gaiff elfennau o’r adolygiad eu lledaenu er budd cydweithwyr. Rhaid i bawb sy’n ymwneud â’r broses barchu cyfrinachedd yr wybodaeth a gesglir.

Adrodd

Mae aelod dynodedig o staff ym mhob adran academaidd yn cofnodi’r arsylwadau mewn system ar-lein ar draws y brifysgol. Gweler Cofnodi Sesiwn Cymorth Addysgu gan Gymheiriaid (DOC) / Cofnodi Sesiwn Cymorth Addysgu gan Gymheiriaid (PDF)

Mae’r wybodaeth a gofnodir yn cynnwys:

  • Enw’r person sy’n derbyn y gefnogaeth
  • Enw’r cefnogwr
  • Dyddiad y sesiwn arsylwi neu gefnogaeth
  • Cod y Modiwl
  • Math o sesiwn (e.e. darlith, seminar, sesiwn ymarferol ac ati)
  • Unrhyw nodiadau ynghylch ymarfer da

Bydd Cydlynydd Dysgu ac Addysgu’r Adran yn adrodd am unrhyw ymarfer da i Bwyllgor Dysgu ac Addysgu’r adran. Yn ogystal, mae’r brifysgol yn annog staff i rannu ymarfer da ar draws adrannau drwy unrhyw ddull priodol. Gall hyn gynnwys cyflwyno yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu, creu astudiaeth achos fideo i wefan y brifysgol, neu unrhyw lwyfan arall ar gyfer rhannu ymarfer da.

Adnoddau

Mae’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu’n cynnig ymgynghori a hyfforddiant ar arsylwi addysgu gan gymheiriaid. Cysylltwch â’r Darlithydd ar gyfer Dysgu ac Addysgu.

Gall staff lawrlwytho Templed adborth Cymorth Addysgu gan Gymheiriaid (DOC)

Fletcher, Jeffrey A., "Peer Observation of Teaching: A Practical Tool in Higher Education" (2017). Journal of Faculty Development. (32)1.  https://lib.dr.iastate.edu/fshn_hs_pubs/23 (cyrchwyd 19 Mai 2019)

University College of Dublin, ‘Peer Observation of Teaching’, Teaching and Learning,. https://www.ucd.ie/teaching/professionaldevelopment/peerobservationofteaching/ (cyrchwyd 29 Mai 2019). Ceir dogfennau cefndir defnyddiol ar y safle hwn am arsylwi addysgu gan gymheiriaid.

Diweddarwyd y canllawiau ddiwethaf ym mis Medi 2020