Y Llyfrgell ac Adnoddau Cyfrifiadurol

Fel y disgwylir gan Adran sydd â hanes hir, mae gennym Lyfrgell y Gyfraith aeddfed a hirsefydlog.

Mae’r llyfrgell yn darparu amrywiaeth sylweddol ac amrywiol o lyfrau, cyfnodolion ac adroddiadau cyfreithiol yn ogystal â’r adnoddau cyfreithiol ar-lein diweddaraf.

Cedwir deunyddiau llyfrgell yr adran yn Llyfrgell Hugh Owen, sydd drws nesaf i Adran y Gyfraith a Throseddeg ar Gampws Penglais, Aberystwyth ond bydd gennych fynediad i gasgliadau llyfrgell ac adnoddau electronig Prifysgol Aberystwyth.

Mae gan lyfrgelloedd y Brifysgol dros 845,000 o gyfrolau argraffedig, ac mae tua 42,000 ohonynt yn ymwneud â’r gyfraith a throseddeg. Fel defnyddiwr cofrestredig bydd gennych fynediad  i ystod eang o adnoddau ar-lein, gan gynnwys testun llawn ymchwil ysgolheigaidd sy’n ymdrin â phob pwnc mewn dros 40,000 o gyfnodolion electronig a chronfeydd data disgyblaeth-benodol, megis cronfeydd data cyfreithiol arbenigol, Lexis a Westlaw, caiff y ddau eu defnyddio’n fasnachol yn y galwedigaethau cyfreithiol ledled y byd a Heinonline, archif ar-lein o gyfnodolion cyfreithiol.

Mae gan Lyfrgell Hugh Owen gasgliadau mawr o ddeunyddiau cyfreithiol Prydeinig a daliadau sylweddol ym maes cyfraith ryngwladol yn ogystal â’r Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd. Mae ganddi ddesgiau ymholiadau llyfrgell a TGCh sy’n rhoi cyngor i staff a myfyrwyr am faterion yn ymwneud â’r llyfrgell a TGCh yn ogystal â Llyfrgellydd arbenigol yn y Gyfraith sy’n gweithio’n agos â staff a myfyrwyr.

Mae’r adnoddau yn Llyfrgell Hugh Owen yn cynnwys tua 200 o fannau astudio, ystafelloedd astudio i unigolion a grwpiau y gellir eu llogi, cyfrifiaduron a chysylltiad diwifr ym mhob man.

Caiff adnoddau gwybodaeth y Brifysgol eu hategu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n un o’r chwe llyfrgell hawlfraint yn y DU. 

Gwybodaeth bellach ynghylch adnoddau cyfreithiol ir gael.

 

Llyfrgell Cenedlaethol Cymru

Mae Aberystwyth yn ffodus iawn fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi’i lleoli gerllaw prif gampws y Brifysgol. Llyfrgell hawlfraint yw’r llyfrgell hon ac o’r herwydd mae’n derbyn copi o bob llyfr a gyhoeddir yn y DU. Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol gasgliad helaeth iawn o gyhoeddiadau eraill yn ogystal sy’n ychwanegu at adnoddau Llyfrgell y Gyfraith, gan sicrhau fod yma un o’r casgliadau gorau o lyfrau’r gyfraith y DU y tu allan i’r prif ddinasoedd.

Gall pob myfyriwr ddefnyddio adnoddau Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac mae’n adnodd amhirsiadwy ar gyfer cwblhau prosiectau ymchwil.                   

Adnoddau Cyfrifiadurol

Gall pob myfyriwr ddefnyddio ein cyfleusterau cyfrifiadurol a welir mewn ystafelloedd gweithfannau cyhoeddus ar y campws, mewn llyfrgelloedd ac mewn Neuaddau Preswyl. Ceir adnoddau ar gyfer e-bost a mynediad i’r we, yn ogystal â’r hawl i ddefnyddio ystod eang o raglenni meddalwedd eraill.

Lleolir y gweithfannau cyhoeddus mewn 26 gwahanol ardal. O blith y rhain, mae 13 ohonynt bob amser ar gael ar gyfer gwaith academaidd unigol, a 3 ardal yn cael eu neilltuo ar gyfer myfyrwyr sydd â gofynion mynediad penodol. Mae nifer y gweithfannau ym mhob ardal yn amrywio rhwng 10 a 101 a gellir gwneud defnydd o sawl ardal, yn enwedig yn y Neuaddau Preswyl, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae mynediad diwifr ar gael o rannau helaeth o gampws Prifysgol Aberystwyth, gan gynnwys yr holl adeiladau academaidd ac Undeb y Myfyrwyr. I gael mwy o wybodaeth ewch i wefan Gwasanaethau Gwybodaeth.