Mr Simon Marshall BA Hons (Cymru), PGCE (Oxon), AgilePM a PRINCE2 Ardystiedig Ymarferydd

Mr Simon Marshall

Veterans Legal Link Project Web Manager

Adran Y Gyfraith a Throseddeg

Dylunydd Amlgyfrwng

IBERS

Manylion Cyswllt

Proffil

Mae Simon yn gweithio fel y Rheolwr Prosiect ar gyfer Veterans Legal Link ac Auxilium Software

Mae Veterans Legal Link wedi’i leoli yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae’n darparu cyngor cyfreithiol a gwasanaethau cyfeirio am ddim i gyn-filwyr a’u teuluoedd. Am ragor o fanylion, neu i gyflwyno achos, ewch i’r wefan.

Llwyfan meddalwedd yw Auxilium, a ddatblygwyd gan Veterans Legal Link, ac mae bellach ar gael yn fasnachol fel gwasanaeth letyol. I gael rhagor o fanylion am Auxilium, neu i wneud ymholiad, ewch i wefan Auxilium

Yn rhinwedd y ddwy swyddogaeth hon, mae Simon yn gweithio yn Ystafell A5, Adeilad Hugh Owen ar Gampws Penglais (ffôn 01970 62 2732).

 --

Mae Simon hefyd yn aelod o dîm Dysgu o Bell IBERS, yn creu cynnwys amlgyfrwng ar gyfer y prosiect, at ddibenion addysg a hyrwyddo, gyda’r nod o ddarparu cyrsiau a modiwlau i bobl sy’n gweithio yn y diwydiannau ffermio, bwyd a biotechnoleg (am ragor o wybodaeth ewch i’r wefan). 

Fel Dylunydd Amlgyfrwng i dîm Dysgu o Bell IBERS, mae Simon yn gweithio yn Ystafell 2.12, Adeilad Stapleton ar Gampws Gogerddan (ffôn 01970 62 2282).

--

Mae gan Simon gefndir ym maes addysg a rheoli gwefannau, a dros 25 mlynedd o brofiad fel rheolwr TG. Y mae’n rheolwr prosiectau profiadol, ac arferai arbenigo ym maes cydymffurfiaeth ar-lein.

Cyhoeddiadau

Olusanya, O, Collier, W, Marshall, S, Knapp, VJ & Baldwin, A 2022, 'Access to Justice software development, Participatory Action Research Methods and Researching the Lived Experiences of British Military Veterans', Journal of Legal Research Methodology, vol. 2, no. 1. <https://www.northumbriajournals.co.uk/index.php/jlrm/article/view/1240>
Olusanya, O, Collier, W, Marshall, S, Knapp, VJ & Baldwin, A 2022, 'Enhancing Digitally-Mediated Human-Centred Design With Digitally-Mediated Community Based Participatory Research Approaches for the Development of a Digital Access-to-Justice Platform for Military Veterans and Their Families', Journal of Participatory Research Methods, vol. 3, no. 2. 10.35844/001c.37039
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil