Rhwydweithio Preifat Rhithwir (VPN)

Mae Rhwydweithio Preifat Rhithwir (VPN) yn creu cysylltiad diogel rhwng eich cyfrifiadur chi a rhwydwaith y Brifysgol.

Mae hyn yn rhoi mynediad i chi i wefannau, systemau a chyfleusterau sydd wedi'u cyfyngu i ddefnyddwyr sydd ar rwydwaith y Brifysgol.

Mynediad i E-adnoddau

Gosod VPN

Defnyddio VPN

Os ydych chi eisiau cael mynediad i adnoddau Prifysgol Aberystwyth dylech:

  • gysylltu â’r Rhyngrwyd gan ddefnyddio eich darparwr arferol
  • agor VPN GlobalProtect
  • deipio eich enw defnyddiwr a chyfrinair PA
  • roi Cyfrinair Untro a fydd ar gael yn eich ap awdurdodi dewisol

Os ydych yn cysylltu â VPN gan ddefnyddio cyfrifiadur a reolir gan PA rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â VPN CYN mewngofnodi. Bydd storfa ffeiliau, gyriannau cyffredin ac argraffwyr yn cael eu mapio'n awtomatig wrth fewngofnodi.