Cylch Gorchwyl Cynrychiolwyr Llyfrgell yr Adrannau

Mae swyddogaeth hanfodol gan gynrychiolwyr llyfrgell yr adrannau wrth gyfathrebu rhwng y Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) ac adrannau Academaidd. Maen nhw’n fan cyswllt cyntaf ar faterion sy’n ymwneud â datblygu a chaffael adnoddau a hyfforddiant sgiliau gwybodaeth yn yr adran. Mae GG yn gofyn i bob adran enwebu aelod staff (gall fod yn aelod staff academaidd neu weinyddol) i fod yn gyswllt rhwng yr adran a’r llyfrgell. Mae dyletswyddau penodol y cynrychiolwyr hyn yn amrywio o adran i adran, ond yn gyffredinol maent yn cynnwys y canlynol:

Cyfathrebu  

1. Bod yn brif bwynt cyswllt rhwng yr adran a’r llyfrgell
2. Trosglwyddo gwybodaeth ynglŷn â’r llyfrgell i staff a myfyrwyr yn yr adran a vice versa, neu argymell rhywun arall i wneud hynny fel y bo’n briodol
3. Rhoi gwybodaeth i gydweithwyr newydd ar faterion sy’n berthnasol i’r llyfrgell, a threfnu cyflwyniad i’r llyfrgellydd pwnc yn y Tîm Ymgysylltu Academaidd
4. Cyfarfod yn rheolaidd â’r llyfrgellydd pwnc a datblygu deialog i gynorthwyo’r llyfrgellydd i gwrdd ag anghenion penodol yr adran o ran gwasanaeth llyfrgell a gwybodaeth yn y ffordd orau dros amser

Datblygu Casgliadau

5. Bod â chyfrifoldeb cyffredinol am gronfa lyfrau ddewisol yr adran a sicrhau ei bod yn cael ei chyflwyno’n amserol ar gyfer bob blwyddyn academaidd
6. Cadw cyswllt â’r llyfrgell er mwyn datblygu’r casgliad yn effeithiol ar lefel ddisgyblaethol
7. Cydlynu’r adolygiad blynyddol o danysgrifiadau’r adran i gyfnodolion a chronfeydd-data
8. Ar y cyd â’r Pennaeth Adran, bod yn gyswllt ynghylch ceisiadau newydd am gyfnodolion a ffynonellau gwybodaeth eraill rheolaidd

Hyfforddiant llythrennedd mewn adnoddau gwybodaeth  

9. Sicrhau bod yr holl fyfyrwyr newydd yn ymwybodol o’r teithiau cynefino / gweithgareddau cynefino eraill yn y llyfrgell, gan gynnwys ar-lein, a’u bod yn mynd iddynt
10. Gweithio gyda staff academaidd a staff y llyfrgell i ymgorffori hyfforddiant Llythrennedd Gwybodaeth o fewn i faes llafur yn yr adran
11. Hyrwyddo datblygu Llythrennedd Gwybodaeth yn yr adran 
12. Trefnu cyrsiau gloywi ynglŷn â’r llyfrgell fel bod staff yn ymwybodol o unrhyw newidiadau i’r gwasanaethau a’r adnoddau

Bodlonrwydd myfyrwyr

13. Bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Ymgynghorol Staff Myfyrwyr i fonitro bodlonrwydd myfyrwyr â gwasanaethau ac adnoddau’r llyfrgell, ac â’r camau a gymerir gan y llyfrgellydd pwnc yn sgil materion unigol a godir gan fyfyrwyr.
14. Trosglwyddo safbwyntiau a barn staff a myfyrwyr yr adran i’r llyfrgell er mwyn datblygu a gwella gwasanaethau llyfrgell effeithiol, i wella’r profiad dysgu i fyfyrwyr, a gwella gwasanaethau i staff yn yr adran.
15. Cadw golwg gyffredinol a chysylltu â’r llyfrgellydd pwnc ynghylch camau a gymerir yn deillio o weithgorau a arweinir gan fyfyrwyr yn yr adrannau.

Mae'r Polisi hwn yn cael ei gynnal gan Gwasanaethau Gwybodaeth. Fe’i adolygwyd ddiwethaf ym mis Mai 2023 a bydd yn cael ei adolygu eto ym mis Mai 2024.