Datganiad Llythrennedd Gwybodaeth i Brifysgol Aberystwyth
Nod: Cyflawni arlwy cyson a theg o gyfleoedd dysgu Llythrennedd Gwybodaeth i holl fyfyrwyr PA ar gyrsiau a addysgir a chyflawni graddedigion llythrennog o ran gwybodaeth.
Cyd-destun: Mae gweithgaredd cydweithredol gwerthfawr eisoes ar waith yn llwyddiannus rhwng staff addysgu a llyfrgellwyr pwnc ar draws llawer o’r Brifysgol. Mae angen i ni adeiladu ar yr ymarfer da presennol hwn i fodloni holl anghenion llythrennedd y myfyrwyr a addysgir.
Pam
I fyfyrwyr
- Dangoswyd bod sgiliau llythrennedd yn gwella gradd academaidd y myfyriwr unigol[i]
- Gall sgiliau llythrennedd gwybodaeth wella boddhad y myfyriwr gydag adnoddau llyfrgell
- Dangoswyd bod sgiliau llythrennedd yn cyfrannu at ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy a gaiff eu hystyried yn werthfawr gan gyflogwyr[ii]
- Gall sgiliau llythrennedd baratoi myfyrwyr ar gyfer ymgymryd â graddau uwch ac ymchwil[iii]
- Datblygu sgiliau bywyd: mae’r ffrydiau academaidd o lythrennedd gwybodaeth yn rhan o set sgiliau fwy o faint e.e. rheoli eich ôl troed digidol, osgoi twyll ar-lein, adnabod newyddion ffug a defnyddio’r rhyngrwyd yn effeithiol i arbed amser ac arian.
- Gall cynyddu hyder i ddefnyddio adnoddau llyfrgell gynorthwyo gyda chadw myfyrwyr[iv]
I staff addysgu
- Cyfrannu at lefelau cadw gwell drwy helpu myfyrwyr newydd i bontio at addysg uwch drwy ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddefnyddio adnoddau gwybodaeth PA
- Elwa o allu manteisio ar gronfa gwybodaeth leol o lyfrgellwyr pwnc i gynghori ac ymdrin ag ymholiadau ar ganfod gwybodaeth
- Gall sesiynau ar lên-ladrad leihau’r nifer o achosion o ymarfer academaidd annerbyniol sydd i’w hymchwilio a’u trin.
- Bodloni meini prawf dilysu cyrff proffesiynol e.e. Cymdeithas y Gyfraith / Rheoleiddio Cyfreithwyr
- Bodloni Meincnodau Pwnc Gradd Anrhydedd yr ASA[v]
- Helpu i fodloni blaenoriaethau’r TEF e.e. Llythrennedd gwybodaeth yw un o amrywiaeth o ‘sgiliau meddal’ a gydnabyddir yn y TEF fel rhan o addysgu da[vi]
- Gwell ystadegau dangosyddion perfformiad allweddol, gan gynnwys dosbarth y radd, a all helpu gyda recriwtio
I’r llyfrgell
- Sicrhau bod adnoddau’r llyfrgell yn cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn effeithlon
- Cynyddu defnydd o adnoddau llyfrgell, yn enwedig adnoddau electronig, a thrwy hynny wella gwerth am arian
- Manteisio ar arbenigedd llyfrgellwyr pwnc sydd â gwybodaeth fanwl am adnoddau gwybodaeth eu maes a sut i chwilio amdanynt yn effeithiol
- Gwella effaith y llyfrgell ym mhrofiad y myfyriwr
Sut
Llyfrgellwyr pwnc
- Trwy ymgynghori ag adrannau academaidd yn flynyddol i ddysgu am y ddarpariaeth llythrennedd gwybodaeth sy’n bodoli eisoes mewn adran, nodi unrhyw fylchau y gallai llyfrgellydd pwnc eu cau’n llwyddiannus, a llunio cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r bylchau hynny ac unrhyw gwestiynau o ran adnoddau ar gyfer y sesiwn sydd ar ddod.
- Trwy gynnig o leiaf un gweithgaredd dysgu llythrennedd gwybodaeth ar gyfer yr holl fyfyrwyr israddedig ym mhob blwyddyn ar eu cwrs ac ar gyfer yr holl fyfyrwyr uwchraddedig a addysgir yn ystod blwyddyn gyntaf eu cwrs.
- Trwy wneud cyflwyniad croeso i’r Gwasanaethau Gwybodaeth i fyfyrwyr israddedig newydd ym mhob adran academaidd ar ddechrau’r cwrs
- (lle bydd y llyfrgellydd pwnc yn addysgu llythrennedd gwybodaeth) Trwy baratoi a chyflwyno’r sesiwn addysgu a chofnodi ac uwchlwytho i Panopto fel y bo’n briodol, ac uwchlwytho unrhyw ddeunyddiau dosbarth eraill gan gynnwys fideo wedi’i baratoi o flaen llaw i Blackboard.
- Trwy atgoffa adrannau academaidd eu bod yn hapus i ddarparu cyflwyniadau gloywi, gweithdai neu gyfarfodydd un i un ar lythrennedd gwybodaeth i staff ar eu cais.
- Trwy barhau i ddarparu cymorth un i un ar gais, yn ogystal ag adnoddau hunangymorth a hyfforddiant dewisol.
- Trwy fod yn barod i gyfrannu at ddatblygu modiwlau sgiliau academaidd mewn adrannau / athrofeydd
Diffiniad o Lythrennedd Gwybodaeth
Mae model Saith Piler Llythrennedd Gwybodaeth y Gymdeithas Llyfrgellwyr Coleg, Cenedlaethol a Phrifysgol (SCONUL) yn diffinio llythrennedd gwybodaeth fel y gallu i gasglu, defnyddio, rheoli, syntheseiddio a chreu gwybodaeth a data mewn modd moesegol[vii]. Mae’r model yn offeryn defnyddiol gan ei fod yn egluro’r amrywiaeth o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer llythrennedd gwybodaeth.
Atodiad: astudiaethau achos partneriaid addysgu Llythrennedd Gwybodaeth
1. Yr Ysgol Celf
Modiwl: Looking into Landscape (modiwl craidd blwyddyn gyntaf) (Harry Heuser)
Deunyddiau addysgu: Powerpoint, delwedd o Die einsame Baum [Y Goeden Unig] gan Caspar David Friedrich, 1822; blwch o ddeunyddiau llyfrgell (tua 20 o lyfrau).
Cefndir
Rwyf i’n cynnal sesiynau galw heibio rheolaidd yn yr Ysgol Celf ar brynhawniau Mawrth, gyda nifer dda yn mynychu. Yn ystod y sesiynau hyn mae myfyrwyr fel arfer yn gofyn cwestiynau ymarferol – sut i ddod o hyd i erthygl X, sut i ddechrau chwilio am wybodaeth ar bwnc newydd ac ati.
Yn flaenorol fe’m gwahoddwyd i’r Ysgol Celf yn ystod semester 1 i siarad am ddod o hyd i adnoddau llyfrgell fel rhan o un o’r modiwlau craidd oedd yn cynnwys myfyrwyr Celf Gain a Hanes Celf. Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar hanes celf tirlun ond mae hefyd yn gweithredu fel ‘modiwl sgiliau’: caiff gweithgareddau ac asesiadau eu seilio ar arsylwi’n ffurfiol ar weithiau celf, datblygu geirfa feirniadol, cyd-destunoli ac ati.
Yn hytrach na dod i un ddarlith i gyflwyno gwybodaeth ar sut i ddod o hyd i wybodaeth yn y llyfrgell, gofynnodd cynullydd y modiwl a allem ni gynnal sesiwn yn edrych ar werthuso testunau a gwybodaeth, ond yn benodol yng nghyd-destun y modiwl. Penderfynom ni ar drefn seminar gydag ymarferion a fyddai’n:
- canolbwyntio ar thema’r wythnos honno sef cyd-destunoli
- ystyried y gwahanol fathau o destunau y gallent eu defnyddio yn eu hymchwil fel rhan o’r modiwl
- cyflwyno cysyniad a thechnegau ar gyfer gwerthuso gwybodaeth a ffynonellau
Amlinelliad
Ailadroddwyd y seminar i bedwar grŵp yng nghanol mis Tachwedd. Roedd y seminarau’n ddwy awr o hyd. Roedd yr adran ar Lythrennedd Gwybodaeth yn llenwi tua hanner yr amser hwn – roedd y seminar hefyd yn cynnwys trafodaeth a chwestiynau’n ymwneud â’r darlithoedd blaenorol (Rhamantiaeth ym Mhrydain, America, yr Almaen ac ati). Roedd yr adran llyfrgell/gwybodaeth yn cael ei chyd-ddysgu/hwyluso gan y Llyfrgellydd Ymgysylltu Academaidd a chynullydd y modiwl.
Dechreuon ni gydag un darlun - Die einsame Baum gan Friedrich. Roedd yr artist hwn wedi’i drafod yn ystod y ddarlith, ond nid y paentiad arbennig hwn. Dangoswyd y ddelwedd heb gapsiwn i ddechrau, a gofynnwyd i’r grŵp drafod cynnwys y paentiaid ar lefel ffurfiol. Ar ôl hyn trafodon ni gyfyngiadau dealltwriaeth o waith celf ar sail arsylwi yn unig. Ychwanegwyd y capsiwn at y ddelwedd, a gofynnwyd i’r grŵp sut roedd ychwanegu’r darn bach hwn o wybodaeth yn darparu cyd-destun ac yn effeithio ar eu dealltwriaeth o’r gwaith (h.y. pryd y cafodd ei greu, ei fod yn artist o’r Almaen, ei fod yng nghasgliad yr Oriel Genedlaethol yn ninas Berlin), ac yna gofynnwyd iddynt ystyried y darlun mewn perthynas â themâu’r modiwl.
Ar ôl hyn, symudon ni ymlaen i’r ymarfer adnoddau llyfrgell. Roedd y cyfarwyddiadau fel a ganlyn:
Darperir detholiad o ddeunydd llyfrgell a allai helpu i ddeall cyd-destun paentiad. Porwch drwy’r deunydd a meddyliwch sut y gallent fod yn berthnasol i’r darlun dan sylw. Pawb i ddewis un testun (does dim ots pa un). Mewn parau/grwpiau o dri, trafodwch y testunau rydych chi wedi’u dewis mewn perthynas â’r cwestiynau canlynol:
- Sut fyddech chi’n disgrifio’r testun hwn? Pa fath o destun yw hwn?
- Pwy, gredwch chi, yw’r gynulleidfa darged? Sut gallwch chi ddweud?
- Ar wahân i ffeithiau a dehongliad hanesyddol (cynnwys), pa ddeunydd pwysig a defnyddiol arall mae testun fel hwn yn ei ddarparu?
- Sut fyddech chi’n disgrifio ac yn dosbarthu’r dogfennau hyn? Sut maen nhw’n wahanol i’w gilydd?
- Beth gallan nhw ei ddweud am bwy ysgrifennodd/gyhoeddodd y testun?
- Pryd cafodd ei gynhyrchu, a pha ystyriaethau ddylech chi eu gwneud wrth ei ddefnyddio?
Roedd y deunydd a gynhwyswyd yn fwriadol amrywiol i bwysleisio’r broses werthuso a thema cyd-destunoli. Roedd y detholiad yn cynnwys: catalogau arddangosfa am Friedrich, llyfrau ar Ramantiaeth yn yr Almaen a hanes celf yr Almaen, ond hefyd llyfrau am hanes yr Almaen, canllaw i adnabod coed; cyfrol o farddoniaeth Goethe; y Rough Guide to Germany; casgliadau o ysgrifau artistiaid ac ati.
Yn ystod y cyfnod adrodd/trafod, roedd y myfyrwyr yn canolbwyntio ar themâu gan gynnwys
- Y gwahaniaethau rhwng testunau academaidd a phoblogaidd
- Dilysrwydd a dibynadwyedd ffynonellau
Symudon ni ymlaen at ystyriaethau ymarferol, fel:
Gwybod a yw eitem yn fonograff, cyfnodolyn neu gatalog arddangosfa a dibenion y cyhoeddiadau hyn;
Defnyddio rhannau’r gyfrol - mynegai, coloffon, darluniau, a meddwl am gyfnod, dyddiad cyhoeddi a defnyddioldeb
- Sut mae canfod deunydd defnyddiol yn golygu mwy na chwilio am enw awdur, artist ac ati.
Canlyniadau
Natur fwy ymarferol i’r addysgu – ddim yn cael ei weld fel dangos technegau ymchwilio’n unig.
Dangos yr amrywiaeth o ddeunydd sydd ar gael, normaleiddio drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau
Sicrhau bod myfyrwyr yn gyfarwydd â’r Llyfrgellydd Ymgysylltu Academaidd a sut y gall helpu gyda sgiliau ymchwil/astudio (cynyddu traffig i’r sesiynau galw heibio).
Lloyd Roderick: Llyfrgellydd Ymgysylltu Academaidd
2. Seicoleg
Modiwl: PS31520 Adolygu Beirniadol
Cysylltodd James Greville â fi ynghylch cyd-addysgu’r modiwl Adolygu Beirniadol. Roedd e’n meddwl y byddai fy ngwybodaeth am strategaethau chwilio a rheoli gwybodaeth yn cyfrannu at ran hanfodol o’r modiwl. Bûm yn rhan o’r gwaith o’r dechrau yn y cyfnod cynllunio, lle buom ni’n trafod cynnwys y cwrs, ei strwythur a threfniadau ymarferol. Cytunais i ymgymryd â strategaethau chwilio, chwilio cronfeydd data a Primo, EndNote ac ymdrin â chanlyniadau chwilio.
Roedd y sesiwn gyntaf yn drosolwg o’r modiwl gan James. Roedd hyn yn cynnwys mewnbwn gennyf i ar gronfeydd data perthnasol i’w chwilio. Yna es i ymlaen i ddarparu hyfforddiant ar EndNote a defnyddio’r meddalwedd ar gyfer meini prawf dethol ar sail eu protocolau ymchwil.
Cyn yr ail ddarlith, cwrddais â Zhimin He i drafod strategaethau chwilio, defnyddio cronfeydd data a chadw cofnodion. Rhoddais sleidiau fy nghyflwyniad iddi gan nad oeddwn i ar gael ar ddyddiad y sesiwn. Roedd hwn yn gyfarfod defnyddiol gan fod Zhimin yn eithaf newydd yn yr Adran felly roedd modd i ni drafod yr adnoddau sydd ar gael yn PA yn fwy manwl.
Nesaf cwrddais â myfyrwyr mewn sesiynau un i un. Edrychon ni ar strategaethau chwilio, dod o hyd i adnoddau priodol a defnyddio EndNote. Roedd cyfarfod â myfyrwyr yn unigol yn ffordd wirioneddol ddefnyddiol o ddatblygu eu strategaethau chwilio penodol ac ymateb i gwestiynau penodol roedden nhw’n eu hwynebu gyda’u hymchwil.
Roedd y sesiwn olaf yn cynnwys y tri aelod o staff ac roeddwn i ar gael i ateb ymholiadau myfyrwyr yn y sesiwn honno.
Cefais adborth cadarnhaol gan James ar ôl cwblhau’r modiwl. Roedd sylwadau HGM yn gadarnhaol iawn ac mae James yn gobeithio rhedeg y modiwl mewn modd tebyg y flwyddyn nesaf.
Sarah Gwenlan: Llyfrgellydd Ymgysylltu Academaidd
[i] Shao, & Purpur. (2016). Effects of Llythrennedd gwybodaeth Skills on Student Writing and Course Performance. The Journal of Academic Librarianship, 42(6), 670-678.
Chen, Y. (2015). Testing the impact of an llythrennedd gwybodaeth course: Undergraduates' perceptions and use of the university libraries' web portal. Library and Information Science Research, 37(3), 263.
Shreeve, S., & Chelin, J. (2014). Value and Impact of Librarians’ Interventions on Student Skills Development. New Review of Academic Librarianship, 00.
Deborah Goodall, & David Pattern. (2011). Academic library non/low use and undergraduate student achievement: A preliminary report of research in progress. Library Management, 32(3), 159-170.
[ii] Inskip, C. (2014). Llythrennedd gwybodaeth is for life, not just for a good degree: A literature review. (Llythrennedd gwybodaeth Project 26 ). Charted Institute of Library and Information Professionals (CILIP): London, (Llythrennedd gwybodaeth Project 26 ). Charted Institute of Library and Information Professionals (CILIP): London, UK.
[iii] Tîm Ymgysylltu Academaidd, y Gwasanaethau Gwybodaeth. "Prifysgol Aberystwyth - Gwasanaethau i Ymchwilwyr ". https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/academicstaff/researchers/ . N.p., 2017. Web. 28 Mar. 2017. https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/academicstaff/researchers/. N.p., 2017. Web. 28 Mar. 2017.
[iv] Mezick, Elizabeth M. (2014). Relationship of Library Assessment to Student Retention. The Journal of Academic Librarianship, 41(1), 31-36.
Haddow, G. (2013). Academic library use and student retention: A quantitative analysis. Library & Information Science Research, 35(2), 127-136.
[v] QAA. Subject Benchmark Statement: BioSciences. 2015. Ar-lein. Cyrchwyd: 18/08/16. Diweddariad diweddaraf: Tachwedd 2015. URL: https://www.qaa.ac.uk/docs/qaa/subject-benchmark-statements/sbs-biosciences-15.pdf
[vi] Department of Business, Innovation and Skills. Teaching Excellence, Social Mobility and Student Choice. 2016. Ar-lein. Cyrchwyd: 18/08/16. Diweddariad diweddaraf: Mai 2016. URL:
https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/523546/bis-16-265-success-as-a-knowledge-economy-web.pdf
[vii] SCONUL Working Group on Llythrennedd gwybodaeth. Seven pillars of Llythrennedd gwybodaeth core model. 2011. Ar-lein. Cyrchwyd: 23/08/16. Diweddariad diweddaraf: Ebrill 2011. URL: http://www.sconul.ac.uk/sites/default/files/documents/coremodel.pdf
Mae'r Polisi hwn yn cael ei gynnal gan Gwasanaethau Gwybodaeth. Fe’i adolygwyd ddiwethaf ym mis Mai 2021 a bydd yn cael ei adolygu eto ym mis Mai 2023.