Trefn Gwyno Gwasanaethau Gwybodaeth

Mae'r drefn hon ar gyfer staff y Brifysgol, ymwelwyr ac aelodau o'r cyhoedd YN UNIG.

Fe ddylai myfyrwyr ddilyn drefn gwyno y Brifysgol sydd ar gael ar http://www.aber.ac.uk/cy/regulations/complaints/

Os ydych yn anhapus â’r gwasanaeth a ddarperir gan Gwasanaethau Gwybodaeth, neu os nad ydym wedi gwneud rhywbeth rydym wedi addo ei wneud, y ffordd orau i ni allu gwneud gwelliannau yw clywed oddi wrthych chi. Mae eich barn yn bwysig i ni.

Gwneud cwyn

Cam 1

Cysylltwch â Rheolwr y gwasanaeth rydych am gwyno amdano mor fuan â phosibl a, lle bo hynny’n bosib, rhoddir pethau’n iawn yn syth. Os nad yw’n bosib mynd i’r afael â’r mater fel y byddech yn dymuno, fe wnaiff y Rheolwr esbonio’r rhesymau.

Cam 2

Os ydych yn dal yn anfodlon, neu os hoffech gwyno’n ysgrifenedig, cyfeiriwch eich cwyn at y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid, Gwasanaethau Gwybodaeth. Efallai caiff eich cwyn ei thrin yn uniongyrchol gan y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid neu gan Reolwr y maes sy’n berthnasol i’ch cwyn. Byddant yn ymchwilio ac yn adrodd yn ôl i chi yn ysgrifenedig o fewn 5 diwrnod gwaith. Bydd yr ymateb yn disgrifio canlyniadau’r ymchwiliad a’r camau arfaethedig neu’n nodi pryd y bydd yr wybodaeth ar gael.

Manylion cyswllt:

Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid,
Ebost: eak@aber.ac.uk (Elizabeth Kensler) neu nrj@aber.ac.uk
Ffôn: (caiff galwadau eu trin yn y lle cyntaf gan y Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid)
(01970) 622400 Mewnol: 2400.

Cyfeiriad Post:
Gwasanaethau Gwybodaeth
Adeilad Hugh Owen
Prifysgol Aberystwyth
Campws Penglais
Aberystwyth SY23 3DZ

Cam 3

Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd y cafodd eich cwyn ei thrin, neu os yw’r gŵyn o natur ddifrifol iawn, dylech gysylltu â Chyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth. Rhoddir sylw llawn i’ch sylwadau ac anfonir ateb ysgrifenedig atoch o fewn 5 diwrnod gwaith.

Manylion cyswllt:

Tim Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth
Ebost: tid@aber.ac.uk
Ffôn: (caiff galwadau eu trin yn y lle cyntaf gan y Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid)
(01970) 622400 Mewnol: 2400.

Cyfeiriad Post: fel yr uchod

Cam 4

Os nad yw’r achwynydd yn fodlon â’r ymateb terfynol a gafwyd yn dilyn cam blaenorol y broses, gallant apelio a gofyn i’r ymateb gael ei adolygu ar lefel uwch o fewn y Brifysgol. Mewn amgylchiadau o’r fath, dylai’r achwynydd wneud cais ffurfiol am adolygiad o’r ymateb a gafwyd drwy:

  • e-bost i vice-chancellor@aber.ac.uk; neu
  • lythyr i Swyddfa’r Is-Ganghellor, Prifysgol Aberystwyth, y Ganolfan Ddelweddu, Penglais, Aberystwyth, SY23 3BF

Yr ydym yn gwerthfawrogi adborth ar ein drefn gwyno, a dylid cyfeirio unrhyw sylwadau at eak@aber.ac.uk (Elizabeth Kensler) neu nrj@aber.ac.uk

Fe fydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn sicrhau pan fydd cwyn yn cael ei gynnal, fe fyddwn yn sicrhau bod canlyniad y drefn gwyno yn foddhaol i'r un sy'n cwyno.

 

Mae'r Polisi hwn yn cael ei gynnal gan Gwasanaethau Gwybodaeth. Fe’i adolygwyd ddiwethaf ym mis Mawrth 2023 a bydd yn cael ei adolygu eto ym mis Mawrth 2025.