Amserlen academaidd Semester 1 ar gael yn awr 2021-22

Gallwch weld eich amserlen academaidd bersonol ar gyfer 2021-2022 trwy fewngofnodi i https://ato.aber.ac.uk/ a dewis y tab Fy amserlen.

  • O’r wythnos yn dechrau Ddydd Llun 20 Medi byddwch hefyd yn gallu gweld eich amserlen trwy eich cofnod myfyriwr ar-lein ac ar eich calendr personol trwy Office 365: https://aber.ac.uk/cy/is/it-services/office365/
  • Sylwer na fydd rhai dosbarthiadau yn ymddangos ar eich amserlen hyd tua thri diwrnod gwaith wedi ichi gwblhau’r broses gofrestru, yn enwedig yn achos myfyrwyr y flwyddyn gyntaf.

Bydd rhai newidiadau i’r amserlen dros yr wythnosau nesaf tra bydd myfyrwyr yn cwblhau eu dewisiadau modiwl. Fe fyddwn yn ceisio newid cyn lleied â phosib ar yr amserlen, ond yr ydym yn argymell eich bod yn gwirio eich amserlen yn rheolaidd rhag ofn bod unrhyw newidiadau wedi’u gwneud. Bydd amserlen semester 1 yn setlo ar ôl wythnosau cyntaf y cyfnod dysgu.

  • Mae’r amserlen yn gywir ar sail ein cynlluniau cyfredol ar gyfer y tymor academaidd sydd i ddod. Ein blaenoriaeth yw sicrhau diogelwch a lles ein holl fyfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach. Fe fyddwn yn parhau i adolygu ein darpariaeth dysgu er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio o fewn rheolau a chanllawiau Llywodraeth Cymru ar COVID-19. Yn naturiol, os ceir unrhyw newidiadau sylweddol i gyngor iechyd y cyhoedd, byddwn yn rhoi gwybod ichi am unrhyw addasiadau pellach cyn gynted ag y gallwn.
  • Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich amserlen, bydd eich swyddog amserlen adrannol yn medru rhoi cyngor i chi: https://aber.ac.uk/cy/timetable/departmental-timetable-officers/