Newyddion

Casgliadau Arolwg Defnyddwyr GG 2023

28/03/2024

Diolch i bawb a gymerodd amser i rannu ei farn yn ein Harolwg Defnyddwyr Gwasanaethau Gwybodaeth blynyddol fis Tachwedd diwethaf. 

Er bod nifer yr ymatebwyr i’r Arolwg 2023 yn is na'r flwyddyn flaenorol, mae eich sylwadau a'ch adborth wedi bod mor werthfawr ag erioed. Er inni geisio ein gorau glas, anodd yw gweld ein gwasanaethau a'n systemau o safbwynt defnyddiwr bob tro. Drwy rannu eich meddyliau a'ch profiadau gyda ni, rydych yn ein helpu i asesu, blaenoriaethu a datblygu ein gwasanaethau i ddiwallu eich anghenion yn well.

A llongyfarchiadau gwresog i Archie Freeman, myfyriwr Gwleidyddiaeth Ryngwladol, a enillodd y raffl i gael taleb gwerth £100. 

Cyfres o weminarau Vevox

12/03/2024

Mae Vevox yn cynnal dau weminar ar-lein i arddangos ffyrdd arloesol y gellir integreiddio Vevox i addysgu. 

I weld y sesiynau a chofrestru i gael lle, gweler ein blog diweddar.

Creu'r gweithle gorau

22/02/2024

Mae un o’n Pencampwyr Digidol Myfyrwyr wedi rhannu eu cyngor ar greu'r gweithle gorau.

Darllenwch eu blogbost yma: https://wordpress.aber.ac.uk/digital-capabilities/cy/2024/02/19/strategaethau-ar-gyfer-creur-gweithle-gorau/

Pam defnyddio SgiliauAber? Tip #3

13/02/2024

P'un a oes angen arweiniad ysgrifennu academaidd, cyngor gyrfa, llyfrgell, lles neu gymorth technegol arnoch (...a llawer mwy!) bydd gennych fynediad at gefnogaeth pwrpasol 1:1 i'ch helpu i gyrraedd eich potensial academaidd llawn.

Archwiliwch y rhestr o wasanaethau cymorth 1:1 yn SgiliauAber.

https://www.aber.ac.uk/cy/aberskills/one-to-one-appointments/

Diweddariad ynghylch ceisiadau digido ar gyfer rhestrau darllen yn Semester 2

10/01/2024

Efallai y bydd oedi wrth ddod o hyd i benodau ac erthyglau penodol nad ydynt ar gael ar hyn o bryd yng nghasgliadau ein llyfrgelloedd nac ar gael ar-lein. Mae'r sefyllfa hon y tu hwnt i'n rheolaeth ac yn deillio o ymosodiad seiber diweddar ar y Llyfrgell Brydeinig. Mae hyn wedi effeithio ar eu gwasanaethau a'u mynediad at amrywiaeth o ddeunyddiau. O ganlyniad, ni allwn wirio, caffael na phrynu eitemau penodol wedi'u digido o'u casgliadau drwy'r Gwasanaeth Cyflenwi Addysg Uwch Manylach. O ganlyniad, bydd cael deunyddiau neu adnoddau sy'n dibynnu ar y mynediad a'r gwasanaeth hwn yn golygu oedi nes bod y sefyllfa'n cael ei datrys. Os oes unrhyw broblemau gyda'ch ceisiadau digido ar gyfer eich rhestr ddarllen, bydd aelod o staff y llyfrgell yn cysylltu â chi. Rhagor o wybodaeth gan y Llyfrgell Brydeinig: https://www.bl.uk/