Aros yn Ddiogel Ar-lein: Heddlu Dyfed Powys & Phrifysgol Aberystwyth

Aros: Gallai aros a meddwl am eiliad cyn rhoi eich arian neu’ch manylion eich cadw chi’n ddiogel.

Her: Allai hyn fod yn ffug? Mae’n iawn gwrthod neu anwybyddu unrhyw geisiadau. Dim ond troseddwyr fydd yn ceisio eich rhuthro neu eich cynhyrfu.

Diogelu: Cysylltwch â’ch banc ar unwaith os ydych chi’n meddwl fod rhywun wedi eich twyllo a rhowch wybod i’r heddlu.

Adrodd: Medrwch adrodd am negeseuon e-bost amheus wrth: 01970622400/gg@aber.ac.ukreport@phishing.gov.uk

Medrwch adrodd am negeseuon testun amheus hefyd drwy anfon y neges wreiddiol ymlaen at 7726, sy’n sillafu ‘SPAM’ ar eich bysellfwrdd.

Cyfrineiriau

Cyfrineiriau yw’r allwedd i’ch drws ffrynt digidol. Dewiswch gyfrinair cryf a sicrhewch fod gan bob cyfrif ar-lein gyfrinair gwahanol. Os na fyddwch chi’n gwneud hyn, gallai troseddwyr gael mynediad i’ch cyfrifon ar-lein eraill os daw’ch cyfrinair yn hysbys.

Ystyriwch ddefnyddio ap ar gyfer rheoli cyfrineiriau er mwyn sicrhau eich bod chi’n medru cadw sawl cyfrinair cryf yn ddiogel.

Prawf Dilysu Dau Gam

Mae ychwanegu prawf dilysu dau gam yn ddatrysiad mwy diogel o lawer na dibynnu ar gyfrineiriau yn unig.

Mae’r prawf dilysu dau gam yn gweithio drwy fynnu dau ddull gwahanol er mwyn dilysu’ch hun – felly, os yw’ch cyfrinair yn cael ei gyfaddawdu, mae’ch cyfrif dal yn cael ei ddiogelu gan brawf dilysu dau gam.

Defnyddio Mulod Arian

Gallai troseddwyr gysylltu â chi wyneb yn wyneb neu drwy gyfryngau cymdeithasol. Byddant yn

gofyn ichi dderbyn arian i’ch cyfrif banc a’i drosglwyddo i gyfrif arall, gan ganiatáu ichi gadw rhywfaint

ohono i chi’ch hun. Os fyddwch chi’n gadael i hyn ddigwydd, rydych chi’n ful arian. Os ydych chi’n gysylltiedig â gwyngalchu arian, mae’n drosedd.

Twyll Rhamant

Mae hyn yn digwydd pan rydych chi’n credu’ch bod chi wedi cwrdd â’r partner perffaith drwy wefan neu ap canlyn ar-lein. Ond mae troseddwyr yn defnyddio proffil ffug er mwyn ffurfio perthynas gyda chi. Maen nhw’n ennyn eich ffydd ac yna’n gofyn ichi am arian neu ddigon o wybodaeth bersonol i ddwyn eich hunaniaeth.

Mae twyllwyr rhamant yn feistri ar gamddefnyddio, a byddant yn ymdrechu’n daer i greu realiti ffug lle mae unigolyn yn teimlo ei fod yn gwneud penderfyniadau rhesymol a chall.

Cribddeiliaeth Rywiol

Math o gamfanteisio yw cribddeiliaeth rywiol lle y defnyddir mathau o orfodi sydd ddim yn gorfforol er mwyn cribddeilio ffafrau rhywiol. Gan amlaf, defnyddir cyfryngau cymdeithasol a negeseuon testun. Mae’r cyswllt yn aml yn cychwyn ar safle rhwydweithio cymdeithasol.

Yna, anogir y dioddefydd i symud i lwyfan arall sy'n galluogi cyfleuster negeseua fideo.

Unwaith y mae’n defnyddio’r cyfleuster negeseua fideo, mae’r dioddefydd yn cael ei ddenu i gyflawni gweithred rywiol, yn aml mewn ymateb i rywbeth mae’r drwgdybyn yn dangos.

Mae’r weithred hon yn cael ei recordio gan y drwgdybyn, sydd yna’n bygwth rhyddhau’r fideo heblaw bod arian yn cael ei dalu.

Mae’r drwgdybyn yn dweud y bydd y recordiad yn cael ei ryddhau ar YouTube neu i deulu a ffrindiau penodol ar restr ffrindiau’r dioddefydd ar gyfryngau cymdeithasol.

Y ffordd fwyaf diogel o osgoi cribddeiliaeth rywiol yw peidio byth â diosg eich dillad o flaen gwe-gamera.

Twyll Cryptoarian

Efallai bod Bitcoin, Ethereum, Doge, XRP a miloedd o fathau eraill o gryptoarian yn ymddangos fel ffordd hawdd o wneud arian yn gyflym, ond byddwch yn ofalus. Nid yw cryptoarian yn cael ei reoleiddio, ac os fyddwch chi’n colli arian drwy fuddsoddi drwy lwyfan ffug, neu’n colli mynediad i’ch waled breifat, ni fydd eich arian ar gael ichi. Mae cryptoarian dal yn dipyn o fenter, er ei fod yn cynyddu mewn poblogrwydd yn y cyfryngau prif ffrwd.

Twyll Buddsoddi

Os mae'n swnio'n rhy dda i fod yn wir, mae'n debygol ei fod e.

Os yw’r cyfle hwn mor dda, pam nad yw pawb arall yn buddsoddi ynddo?

Bydd twyllwyr bob amser yn defnyddio gwefannau sy’n edrych yn dda ac yn cynnig elw mawr am fuddsoddiadau bach i’ch hudo. Ceisiwch gyngor ariannol annibynnol bob amser a darllenwch y cyngor ar wefan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Diweddaru Dyfeisiau a Meddalwedd

Mae troseddwyr yn defnyddio gwendidau diogelwch hysbys mewn meddalwedd a chaledwedd. Mae gwneuthurwyr a datblygwyr apiau’n clytio eu meddalwedd ac yn cyhoeddi diweddariadau diogelwch er mwyn atal troseddwyr rhag manteisio ar y bylchau hyn. Os na fyddwch chi’n defnyddio fersiwn diweddaraf meddalwedd neu’r system weithredu ddiweddaraf, rydych chi’n rhoi’ch hun mewn perygl o gael eich cyfaddawdu.

Byddwch yn Ymwybodol - pan fyddwch chi’n clicio ar ddolenni sydd heb eu dilysu, neu’n lawrlwytho apiau amheus, rydych chi’n cynyddu’r perygl o ddod ar draws maleiswedd (meddalwedd maleisus / firysau).

Hidlyddion a Rheolau Gwebost

Os yw troseddwr yn cael mynediad i’ch cyfrif e-bost (drwy ddefnyddio cyfrinair sydd wedi’i ddatgelu neu ei hacio), yn aml, bydd yn defnyddio’r cyfleuster gwebost i gopïo cysylltiadau a data perthnasol mae’n medru defnyddio.

Mae’n medru anfon e-byst sy’n ymddangos yn ddilys oherwydd y wybodaeth fanwl a phenodol y mae wedi’i chael o’ch cyfrif. Dyma reswm arall pam y dylai cyfrineiriau fod yn gryf ac unigryw, a pham y dylid defnyddio prawf dilysu dau gam, oherwydd bydd hyn yn atal troseddwyr rhag cael mynediad i’ch cyfrif e-bost yn y lle cyntaf, hyd yn oed os yw’ch cyfrinair yn cael ei gyfaddawdu.

Twyll Anfonebau a Gorchmynion

Mae troseddwyr yn defnyddio cyfrifon ebost sydd wedi’u cyfaddawdu i anfon anfonebau sy’n ymddangos yn ddilys. (Er enghraifft, e-bost sy’n ymddangos fel pe bai wedi’i anfon gan y Brifysgol yn gofyn am arian ar gyfer ffioedd neu lety).

Nid yw’r derbynnydd yn sylweddoli bod rhif y cyfrif a’r rhif didoli wedi newid ac yn aml yn talu’r arian heb sylweddoli ei fod wedi anfon yr arian at gyfrif gwahanol. Efallai na fydd yn dod yn ymwybodol o hyn am sawl wythnos, pan fydd yr unigolyn neu’r cwmni mae’r arian yn ddyledus iddo’n cysylltu ag ef.

Erbyn hyn, mae’r arian wedi hen fynd ac nid oes modd ei olrhain na’i adennill. Dylech o hyd gwestiynu newid mewn manylion cyfrif, a gwirio bob amser drwy alw’r unigolyn neu’r cwmni (gan ddefnyddio rhif yr ydych yn ei adnabod, neu wedi ei gael drwy ddull dilys – cefn cerdyn banc ac ati).

Meddalwedd Wrthfirysau

Cofiwch – mae meddalwedd wrthfirysau ond yn dda os yw’n cael ei diweddaru. Ni fydd meddalwedd wrthfirysau’n eich gwarchod rhag eich gweithredoedd eich hun – felly meddyliwch cyn clicio bob amser!

Twyll Cardiau Anrheg

Mae’r twyll hwn yn cael ei gyflawni mewn sawl ffordd wahanol, ond fel arfer, bydd twyllwr naill ai’n dweud bod bil sydd angen ei dalu neu mae rhywun sydd eisiau ichi brynu cerdyn anrheg iddo mewn trafferth ac yn dweud y bydd yn eich talu’n ôl nes ymlaen.

Ni fyddai adran o’r llywodraeth neu gwmni dilys yn gwneud y math hwn o gais.

Gwiriwch gyda ffynhonnell y cais cyn prynu cerdyn anrheg – ffoniwch ef neu gofynnwch i ffrind iddo sy’n ddibynadwy – weithiau, mae cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn cael eu hacio er mwyn cyflawni twyll o’r fath, felly byddwch yn ofalus sut yr ydych yn cysylltu â’r unigolyn er mwyn gwirio dilysrwydd cais.

Twyll Cludwr

Mae’r troseddwr yn aml yn esgus ei fod yn gweithio i’r heddlu neu fanc ac yn dweud ei fod angen eich cymorth i ddal gweithiwr sy’n rhoi arian ffug i mewn i’r peiriant twll-yn-y-wal. Mae’n gofyn ichi dynnu arian allan ac yn dweud y bydd cludwr yn casglu’r arian a’ch cerdyn banc, ac y byddwch chi’n cael eich ad-dalu. Yn aml, mae’n parhau â’r twyll drwy ddweud bod eich cyfrif banc mewn perygl a bod angen ichi drosglwyddo’r holl arian i mewn i ‘gyfrif diogel’. Wrth gwrs, mae’r cyfrif newydd yn cael ei weithredu gan y twyllwyr, sydd yna’n dwyn yr arian sy’n weddill.

Ni fydd eich banc yn anfon cludwr i’ch cartref.

Ni fydd eich banc na’r heddlu byth yn casglu’ch cerdyn banc.

Ni fydd eich banc na’r heddlu byth yn gofyn am eich rhif PIN.

Os fyddwch chi’n derbyn un o’r galwadau hyn, gorffennwch yr alwad yn syth.

Gosodiadau Preifatrwydd

Gwiriwch y gosodiadau preifatrwydd ar eich rhaglenni bob amser – yn aml, mae’r datblygwr wedi eu gadael i rannu popeth yn ddiofyn, gan fod hyn o fudd iddo. Sicrhewch eich bod chi’n gwirio’r gosodiadau ar eich holl apiau er mwyn sicrhau nad ydych chi’n rhannu data heb yn wybod ichi.

Rhannu Gormod (Over Sharing)

Mae pob ap cyfryngau cymdeithasol yn gweithio drwy eich galluogi i lanlwytho lluniau a barn bersonol mewn ffordd ddidor/hawdd. Meddyliwch cyn postio.

Meddyliwch am eich diogelwch a diogelwch eich eiddo – mae troseddwyr yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel arf ymchwil!

Meddyliwch pwy sy’n medru’ch tagio mewn negeseuon a chanlyniadau posibl postio cynnwys enynnol neu chwithig – beth fyddai’n digwydd pe bai darpar gyflogwr yn ei weld wrth chwilio’ch proffil yn ystod cyfweliad am swydd?