Casgliad Cyfeirlyfrau

Cyfeirlyfrau

Mae'r deunyddiau cyfeirio yn cynnwys gwyddoniaduron, geiriaduron, cyfeiriaduron, mynegeion ac ati. Mae'r eitemau hyn yn ddefnyddiol os hoffech ddod o hyd i wybodaeth benodol neu pan fyddwch yn dechrau chwilio am ddeunydd ar bwnc penodol.

Mae deunydd cyfeiriadol wedi ei osod ar y silffoedd fesul pwnc ac ni ellir ei gymryd allan o’r Llyfrgell. Ceir casgliad ar wahân o eiriaduron ar Lefel F

Bydd llyfryddiaethau a mynegeion o fewn y casgliadau cyfeirio o gymorth i chwilio am lyfrau neu erthyglau mewn cyfnodolion wrth ymchwilio i bwnc penodol. Bydd staff y llyfrgell yn eich helpu i ddefnyddio'r rhai a fydd yn berthnasol i chi, a byddant hefyd yn eich cyflwyno i'r nifer fawr o fynegeion a chronfeydd data electronic sydd ar gael i chi o unrhyw gyfrifiadur ar y rhwydwaith.

Mae pob eitem yn y casgliad yn cael ei hychwanegy at Primo- Catalog y Llyfrgell.