Paleograffeg

Mae Paleograffeg a Diplomatig yn cynnig yr arbenigedd angenrheidiol i astudio a dehongli dogfennau swyddogol. Y mae i Baleograffeg, fodd bynnag, arwyddocâd ehangach gan ei fod yn ymestyn y tu hwnt i ddogfennau swyddogol i gynnwys yr holl ystod o ddeunydd llawysgrifol sydd wedi goroesi o ganrifoedd cynharach, beth bynnag yw’r cyd-destun.

Paleograffeg yw’r astudiaeth o hen lawysgrifen, gyda’r bwriad o ddysgu sut i’w darllen, ond hefyd â dibenion ehangach fel y mynegwyd uchod.

Diplomatig yw’r astudiaeth o ffurf dogfennau swyddogol, gan ystyried nodweddion “allanol” a “mewnol”, yn arbennig y patrymau safonol sy’n gyffredin i gatagorïau penodol. Y prif bwrpas yw cael dehongliad cywir, ond fel gyda Phaleograffeg, mae Diplomatig yn cynnwys rhychwant o sgiliau.

Mae'r casgliad wedi'i leoli ar Lawr F Llyfrgell Hugh Owen.

Mae pob eitem yn cael ei hychwanegy at Primo- Catalog y Llyfrgell ac maent yn cynnwys y rhagddodiad PAL yn y nod dosbarth