Cyhoeddiadau swyddogol

Cyflwyniad

Mae gan y Llyfrgell ddaliadau helaeth o gyhoeddiadau swyddogol sy'n ffurfio'r Uned Cyhoeddiadau Swyddogol. Mae hwn yn gasgliad cyfeirio yn unig ac fe'i lleolir yn y Storfa Allanol.

Mae modd cael  mynediad i ddeunydd drwy osod cais ar Primo- Catalog y Llyfrgell.

Dylid nodi nad yw rhai cyhoeddiadau wedi'u cofnodi'n unigol ar Primo oherwydd eu bod yn rhan o gyfres fawr, megis Papurau Gorchymyn a Phapurau a Biliau Tŷ'r Cyffredin. Yn yr achos hwn, gellir olrahin cyhoeddiadau unigol drwy’r gwahanol restrau y manylir arnynt yn y daflen hon. Fodd bynnag, mae mwy a mwy o ddeunydd yn cael ei ychwanegu i Primo nawr a dylai papurau gorchymyn mwy diweddar fod wedi'u cofnodi bellach.

Cyhoeddiadau Llywodraeth Prydain

Cyhoeddiadau’r Llyfrfa.  Prif gyhoeddwr a dosbarthwr cyhoeddiadau llywodraeth Prydain yw’r Llyfrfa (gynt Llyfrfa Ei Mawrhydi). Mae bron yr holl ddeunydd sydd ar gael i’w werthu gan y Llyfrfa wedi’i restru yng Nghatalog Cyhoeddiadau’r Llywodraeth sy’n ymddangos yn flynyddol, ac a elwir bellach yn Gatalog Blynyddol y Llyfrfa (REF Z2009.G7). Mae daliadau’r Llyfrgell ohono yn dyddio’n ôl i 1894. Ceir catalogau dyddiol a misol yn atodiadau iddo fel y gellir cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer y flwyddyn gyfredol. Gellir dod o hyd i’r rhestr ddyddiol ar y we: http://www.tsoshop.co.uk/bookstore.asp?FO-38793

Mae canllawiau eraill ar gael i gyhoeddiadau’r Llyfrfa a gall staff roi cyngor ynghylch sut i’w defnyddio.

Cyhoeddiadau nad ydynt yn rhan o’r Llyfrfa. Dylid nodi bod canran uchel o gyhoeddiadau anllywodraethol yn cael eu cyhoeddi’n uniongyrchol gan Adran benodol o’r Llywodraeth, ac nad ydynt felly yn cael eu rhestru yng nghatalog y Llyfrfa. Mae ambell adran yn cyhoeddi eu catalog eu hunain, e.e. Rhestr Gyhoeddiadau Flynyddol Adran yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth (REF AS122.G7). Gellir olrhain y lleill drwy Gatalog Cyhoeddiadau Swyddogol Prydain NA chyhoeddir gan Lyfrfa Ei Mawrhydi (REF Z2009.C3). Ceir ynddo’r manylion cyswllt ar gyfer Adrannau’r Llywodraeth.

BOPCRIS (British Publications Collaborative Reader Information Service). Mae’n galluogi defnyddwyr a chwilio a phori drwy wybodaeth o Gyhoeddiadau Swyddogol Prydain yn ystod y cyfnod 1688-1995. Gall defnyddwyr hefyd ddarllen crynodebau a chael golwg ar fynegeion pwnc cyson a manwl o ddogfennau allweddol. Mae’r gwasanaeth ar gael ar: http://www.bopcris.ac.uk
Ceir dau ganllaw defnyddiol i wahanol gategorïau cyhoeddiadau llywodraeth Prydain: An introduction to British Government Publications, gan J.G. Olle a British Official Publications gan J. Pemberton.

Cyhoeddiadau Seneddol.  Gellir diffinio’r rhain yn fras fel y dogfennau hynny sydd eu hangen ar y Senedd wrth iddi weithredu ei busnes. Ceir tri phrif gategori o gyhoeddiadau o’r fath yn y llyfrgell:

Trafodaethau Seneddol. Hansard yw adroddiad swyddogol y trafodaethau yn y ddau Dŷ. Mae’r Uned Cyhoeddiadau Swyddogol yn cynnwys cyfres gymharol gyflawn o drafodaethau:

• Trafodaethau’r Tŷ Cyffredin ers 1918 
• Trafodaethau Tŷ’r Arglwyddi ers 1945 

Gellir gweld Trafodaethau Seneddol ers 1996 ar-lein:

Ceir mynediad ar-lein i Hansard ar: https://hansard.parliament.uk/

Ceir mynediad i Archifau Hansard Tŷ’r Cyffredin ar: http://www.parliament.uk/business/publications/hansard/commons/

Ceir mynediad i Archif Hansard Tŷ’r Arglwyddi ar: http://www.parliament.uk/business/publications/hansard/lords/

Ceir crynodeb defnyddiol o amserlen wythnosol Tŷ’r Cyffredin a chynnydd deddfwriaeth newydd ym Mwletin Gwybodaeth Wythnosol Tŷ’r Cyffredin. Gweler http://www.parliament.the-stationery-office.co.uk/pa/cm/cmwib.htm

Ceir cofnod ffurfiol o drafodaethau’r Tŷ yng Nghyfnodolion Tŷ’r Cyffredin (storfa allanol). Mae cofnodion y Llyfrgell yn dechrau yn 1547 ynghyd â nifer bychan o gyfrolau o Gyfnodolion Tŷ’r Arglwyddi.

Deddfwriaeth  Deddfau Seneddol. Mae’r rhain yn ymddangos mewn gwahanol gyfresi a gyhoeddir gan argraffwyr y llywodraeth, y Llyfrfa, a chyhoeddwyr masnachol eraill. Mae'r Storfa Allanol yn dal Deddfau Seneddol o 1225 hyd heddiw. Mae’r gyfres a elwir Statutes in Force (yn y storfa allanol) ac a gyhoeddir gan grwpiau y Llyfrfa yn gweithredu yn ôl pwnc ac ar ffurf dalennau rhydd. Ond mae Bas-data Cyfraith Statudol yn cymryd ei le ar hyn o bryd ac nid yw’r wybodaeth mor gyfredol ag y bu. Mae gan y Storfa Allanol gyfrolau blynyddol o Fesurau a Deddfau Cyffredinol Cyhoeddus o 1951 hyd heddiw. Mae’r rhain yn cynnwys testunau cyflawn Deddfau newydd sy’n cael eu pasio bob blwyddyn. Mae Deddfau’r flwyddyn gyfredol yn cael eu cadw ar ffurf pamffled, ac ers 1996, ar gael ar y we:
http://www.hmso.gov.uk/acts.htm
Mae Mesurau newydd Tŷ’r Cyffredin a thestunau cyflawn mesurau cyhoeddus sydd gerbron y Senedd ar hyn o bryd i’w gweld ar y we:
http://www.parliament-the-stationery-office.co.uk/pa/pabills.htm

Cyhoeddir Index to the Statutes (STA KD142.4.G7) yn flynyddol fel cynhorthwy i’r cyfresi swyddogol hyn. Mae’r mynegeion yn ôl penawdau pwnc manwl ar gyfer yr holl gyfraith statudol gyffredinol gyhoeddus sydd mewn grym hyd at ddiwedd y flwyddyn dan sylw. Cyhoeddir The Chronological Table of the Statutes (STA KD142.3.C5) hefyd yn flynyddol, gan restru’r holl Ddeddfau cyffredinol cyhoeddus rhwng 1235 a heddiw, fesul adran, a chan ddangos y rheiny a ddiddymwyd neu a ddiwygiwyd gan ddeddfwriaeth ddilynol.

Offerynnau Statudol.  Mae’n bosibl y bydd angen ichi gyfeirio at ddeunyddiau deddfwriaethol llai ar ffurf rheoliadau a elwir yn Offerynnau Statudol. Cyhoeddir y gyfres hon gan y Llyfrfa ac mae’n cynnwys testunau swyddogol y rheoliadau newydd a lunnir bob blwyddyn. Ers 1997, mae testun cyflawn y rhan fwyaf o Offerynnau Statudol ar gael ar y we: http://www.hmso.gov.uk/stat.htm

Gellir hefyd edrych ar ddeddfau a rheoliadau drwy gronfeydd data electronig fel LEXIS a Westlaw. Gellir cael at y ddwy gronfa drwy’r rhestr A-Y o Ffynonellau Gwybodaeth Electronig ar y wefan ganlynol:
http://www.inf.aber.ac.uk/elecinfo/

Holwch am fanylion pellach yn Llyfrgell y Gyfraith.

Papurau Seneddol. Cyhoeddir y rhain ar ffurf Papurau Gorchymyn a Phapurau Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Rhoddir yr enw Papurau Gorchymyn arnynt oherwydd mai ‘drwy orchymyn Ei Mawrhydi’ y’u cyflwynir i’r Senedd. Mae’r rhain yn ymwneud â materion y mae’n hanfodol i bob aelod wybod amdanynt, fel datganiadau polisi’r llywodraeth ac adroddiadau Comisiynau Brenhinol. Mae Papurau Gorchymyn yn diystyru Sesiynau Seneddol ac yn cael eu rhifo mewn cyfresi, a adwaenir drwy fyrfodd o’r gair ‘Command’:

1836-1869 1-4222
1870-1899 c 1-9550
1900-1918 cd 1-9239
1919-1956 Cmd 1-9889
1956-1986 Cmnd 1-9927
1986-  Cm 1-

Mae Papurau Tŷ’r Cyffredin yn cynnwys adroddiadau Pwyllgorau Dethol i’r Tŷ, ac amrywiol adroddiadau a chyfrifon y mae’n ofynnol iddynt, drwy statud, ddod gerbron y senedd. Fe’u rhifir yn ôl sesiwn a gellir eu hadnabod yn ôl y llythrennau HC cyn y rhif, e.e. mae 1997-98 H.C. 620 yn gopi o Ddatganiad Ariannol a Chyllideb Trysorlys Ei Mawrhydi.

Ceir cyfresi helaeth o bapurau seneddol y 19eg, yr 20fed a’r 21fed ganrif yn y Llyfrgell. Mae bron pob un o’r Papurau Gorchymyn a Phapurau Tŷ’r Cyffredin ers 1801 ar gael ar ficroffurf ac mae copïau print o’r papurau pwysicaf yn aml ar gael. Gellir olrhain papurau seneddol drwy’r mynegeion i gatalogau blynyddol y Llyfrfa.

Mae peth deunydd seneddol cynnar hefyd ar gael. Byddai Journals of the House of Commons yn cynnwys nifer o adroddiadau hyd at y 18fed ganrif ac mae detholiad o adroddiadau o Bwyllgorau Tŷ’r Cyffredin 1715-1801 ar ficroffurf yn casglu deunyddiau arwyddocaol nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y Cyfnodolion. Ar gyfer y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae Gwasg Prifysgol Iwerddon wedi ailargraffu detholiad o'r Papurau Seneddol Prydeinig pwysicaf yn ôl pynciau ac mae'r Storfa Allanol yn dal tua hanner yr ailgraffiad hwn. Rhestrir y daliadau yn Checklist of British Parliamentary Papers 1801-1899 (REF Z2009.G76), ac mae Catalogue of British Parliamentary Papers 1801-1900 yn rhoi crynodeb o gynnwys pob cyfrol. Ceir crynodeb o bapurau arwyddocaol yn y gyfres Breviates of Parliamentary Papers gan P. a G. Ford (REF Z2009.F7). Mae’r rhain hefyd ar gael yn electronig drwy’r wefan British Official Publications Collaborative Reader Information Service (BOPCRIS) (http://www.bopcris.ac.uk). Gellir dod o hyd i Bapurau Seneddol y 18fed, y 19eg a’r 20fed ganrif ar-lein: http://www.inf.aber.ac.uk/elecinfo/ neu eLibrary sydd wedi’i ffeilio yn y brif gyfres o lyfrau. Dylid edrych yng nghatalog y llyfrgell o dan yr awdur personol perthnasol neu yn ôl adran y llywodraeth. Er hynny, cedwir nifer o gyhoeddiadau anseneddol hŷn yn yr Uned Cyhoeddiadau Swyddogol ac os nad oes cyhoeddiad yn ymddangos yng nghatalog y llyfrgell, holwch staff am gymorth.

Cyhoeddiadau Ystadegol

Mae casgliad o ddeunyddiau ystadegol, a gyhoeddir gan lywodraethau Prydain a thramor, cyrff rhynglywodraethol a chyhoeddwyr masnachol. Rhestrir y gwahanol gyfresi yng nghatalog y llyfrgell. Dosberthir pob cyhoeddiad yn ôl ei gwmpas daearyddol a’i bwnc. Felly, gellir dod o hyd i gyfrifiad Prydain yn STAT 41 (Prydain) /H (Demograffeg) a ffigyrau allforio Canada yn 71 (Canada) /B (Masnach Ryngwladol).

Dylech nodi mai yng nghyfres y Papurau Gorchymyn y cedwir yr ychydig gyfresi ystadegol Prydeinig, e.e. ystadegau troseddol, a gyhoeddir fel Papurau Gorchymyn.

Ceir sawl canllaw i ffynonellau ystadegol. Y canllaw mwyaf defnyddiol ar gyfer Prydain yw’r Guide to Official Statistics a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Ganolog (REF Z7554.G7.G7).

Ers 1996, mae nifer y cyfresi ystadeol wedi cynyddu'n sylweddol gyda dyfodiad y Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd, a gedwir yn y Llyfrgell Hugh Owen. Mae’r casgliad hwn yn cynnwys ystod eang o gyfresi ystadegol a gyhoeddir gan Eurstat, Swyddfa Ystadegau’r Cymunedau Ewropeaidd. Mae’n ymwneud â phynciau fel economi a chyllid, poblogaeth ac amgylchiadau cymdeithasol, masnach allanol, yr amgylchedd ac ymchwil a datblygu.

Gweler y wefan ganlynol am fanylion pellach:
http://inf.aber.ac.uk/collections/edc.asp

Cyhoeddiadau’r Undeb Ewropeaidd

Gan fod y Llyfrgell yn Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd benodedig, mae ganddi gasgliad helaeth o eitemau a gyhoeddir gan brif sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys testunau deddfwriaethol, adroddiadau ac ystadegau ar ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â’r Undeb Ewropeaidd. Nodwch y canlynol yn arbennig:

• Official Journal of the European Communities 
• Trafodaethau Senedd Ewrop - ar gael drwy wefan Senedd Ewrop (http://www.europarl.eu.int)
• Adroddiadau Senedd Ewrop - ar gael bellach ar y we drwy wefan Senedd Ewrop. Gweler uchod.
• Dogfennau COM  - ar gael drwy wefan Eur-Lex (http://eur-lex.europa.eu)

Y prif gyhoeddiad yw’r Official Journal. Mae gan y Llyfrgell gopi caled cyflawn ohono yn Ffrangeg hyd at 1973, ac yn Saesneg hyd at 2000. Mae ar gael wedi hynny ar ffurf electronig – CD-ROM neu wefan Eur-Lex (http://eurlex.europa.eu/en/index.htm). Gellir dod o hyd i’r holl eitemau hyn yng nghatalog y llyfrgell, Primo.

Mae testunau cyflawn cytundebau a deddfwriaethau Ewropeaidd, yn ogystal â manylion llyfryddiaethol dogfennau paratoadol (gan gynnwys dogfennau COM) a chwestiynau Senedd Ewrop bellach ar gael. Mae EU Infobase, y gellir cael ato drwy A-Y Ffynonellau Electronig (http://www.inf.aber.ac.uk/elecinfo) yn cynnwys manylion (ond nid testun cyflawn) deddfwriaeth arfaethedig, adroddiadau a dogfennau o sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd ac erthyglau o ryw 1500 o gyfnodolion ledled yr UE.

Mae gwefan yr Undeb Ewropeaidd, Europa, wedi datblygu’n gyflym ers iddi gael ei chreu yn 1995 ac yn cynnwys bellach destun cyflawn dogfennau polisi dethol, briffiadau newyddion dyddiol a llawer mwy. Gweler Europa: http://europa.eu

Gweler gwefan y Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd (http://www.inf.aber.ac.uk/collections/edc.asp) am fanylion ynghylch mwy o gyhoeddiadau a gwefannau sy’n gysylltiedig ag Ewrop.

Y Cenhedloedd Unedig

Ceir dau fath o gyhoeddiadau: cyfres y Dogfennau a chyfres y Gwerthiannau. Mae’r dogfennau yn uniongyrchol gysylltiedig â thrafodaethau prif gyrff y Cenhedloedd Unedig megis y Cynulliad Cyffredinol a’r Cyngor Diogelwch. Mae’r cyhoeddiadau canlynol ar gael yn y Llyfrgell:

• Cynulliad Cyffredinol ers 1947 – yn y Storfa Allanol
• Cyngor Diogelwch ers 1947 – yn y Storfa Allanol
• Cyngor Economaidd a Chymdeithasol ers 1947 – yn y Storfa Allanol

Y ffordd hawsaf o gael gafael ar ddogfennau pwysig y Cenhedloedd Unedig yw trwy Flwyddlyfr y Cenhedloedd Unedig (DIP JX1977.A1.YE) neu drwy wefan y Cenhedloedd Unedig (http://www.un.org/)

Cynghrair y Cenhedloedd

Mae gan y Llyfrgell gasgliad helaeth o gyhoeddiadau Cynghrair y Cenhedloedd. Rhestrir y deunyddiau sydd ar gael yn League of Nations Documents 1919-1946, gol. Edward A. Reno (Z6473.R4) ac yn A Repertoire of League of Nations Serial Documents 1919-1947, gol. By V.Y. a C. Ghebali (Z6473.G4)

Gwefannau Defnyddiol

Dyma faes sy’n datblygu’n gyflym. Ar hyn o bryd, mae’r gwefannau ar gael yn rhad ac am ddim, yn amodol ar gyfyngiadau hawlfraint. Rhestrir isod ambell un ohonynt i chi gael golwg arnynt:

• Pwyllgorau Dethol Tŷ’r Cyffredin
http://www.parliament.uk/commons/selcom/cmsel.htm
• Gwefan y Llywodraeth ar-lein
http://www.ukonline.gov.uk
• Gwe byd-eang y Swyddfa Gartref
http://www.homeoffice.gov.uk/index.htm
• Y Cenhedloedd Unedig
http://www.un.org/
• Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Ewropeaidd (OECD)
http://www.oecd.org/
• Senedd UDA
http://www.senate.gov
• Tŷ Cynrychiolwyr UDA
http://www.house.gov