Y Casgliad Ffuglen

Fe ddewch o hyd i nifer o lyfrau ffuglen gyfoes a chlasurol ym mhrif gasgliadau benthyca’r Brifysgol. At hyn, mae’r casgliadau ffuglen canlynol yn cael eu cadw ar wahân. Gellir chwilio amdanynt yng Nghatalog y Llyfrgell – Primo ac maent yn cynnwys y rhagddodiad FICTION yn y nod dosbarth.

Ffuglen Gyfoes

Mae’r Casgliad o Ffuglen Gyfoes yn cynnwys ymgeiswyr ac enillwyr gwobrau llenyddol cenedlaethol : e.e. Gwobr Man Booker, Orange Prize for Fiction, Costa (Whitbread) Book Awards a Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru. Gallwch ddefnyddio, Primo, catalog y llyfrgell i gael gafael ar y rhain.

Mae’r casgliad wedi’i leoli ar Lawr F yn Llyfrgell Hugh Owen.  Mae yna hefyd gasgliad bychan yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol.