Dogfennau Diplomyddol

Mae'r casgliad mawr hwn o ddeunydd sy'n ymwneud â Chysylltiadau Rhyngwladol wedi'i leoli yn y storfa Allanol. Lleolir y casgliad ar Lefel F wrth Risiau’r De. Ceir cyfresi helaeth o ddeunyddiau Cynghrair y Cenhedloedd a’r Cenhedloedd Unedig., gan gynnwys pob cyfres o Gynigion a basiwyd gan y Cynulliad Cyffredinol a’r Cyngor Diogelwch. Mae Blwyddlyfr y Cenhedloedd Unedig hefyd ar gael er 1946/47, gan roi gwybodaeth am y Cenhedloedd Unedig ac adroddiad o’i weithgareddau yn ystod y flwyddyn dan sylw.

Ceir llawer mwy o gyfrolau o ohebiaeth ddiplomyddol sy’n ymwneud yn benodol â’r cefndir i’r Ddau Ryfel Byd. Mae casgliad mawr o destunau prif gytundebau’r byd hefyd ar gael o’r Storfa Allanol.

Mae modd cael  mynediad i ddeunydd drwy osod cais ar Primo- Catalog y Llyfrgell.