Cefnogi eich dysgu

Mae’r wybodaeth hon ar gael hefyd yn y modiwl Cefnogi eich Dysgu ar Blackboard (o dan Fy Nghyfundrefnau).

 

 

 

Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi’n barod am y dysgu eleni, rydym ni wedi crynhoi gwybodaeth hanfodol sy'n rhoi sylw i'r gwahanol agweddau ar eich profiad fel myfyriwr.

P'un a ydych chi'n fyfyriwr newydd, neu'n dychwelyd i'r Brifysgol, mae'n bwysig eich bod yn rhoi'r amser i ddarllen yr adnodd cyfan - er y bydd rhywfaint o'r wybodaeth yn gyfarwydd i chi, mae'n debyg y bydd llawer o wybodaeth newydd ynglŷn â chymorth, adnoddau a dysgu.

I'ch helpu i gadw golwg ar yr holl wybodaeth dan sylw, lawrlwythwch y Rhestr Wirio Cefnogi eich Dysgu.

Dysgu ac Addysgu

Rheoli eich calendr

 

Dyma ambell awgrym ar gyfer paratoi yn ystod yr wythnos.

Paratoi ar gyfer sesiynau wyneb-yn-wyneb

  • Bydd sesiynau wyneb-yn-wyneb yn cael eu hamserlennu yn ystod yr wythnos
  • Edrychwch ar eich calendr Outlook i weld pryd mae’r dosbarthiadau a ble i fynd
  • Ewch â’ch CerdynAber gyda chi; peidiwch â rhoi benthyg eich cerdyn i neb na defnyddio cerdyn rhywun arall.
  • Mewngofnodwch i Blackboard er mwyn cael hyd i’r gwaith paratoi ar gyfer y dosbarth. Gall fod yn waith darllen, gwylio recordiadau darlithoedd etc
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer mynychu’r dosbarth
  • Peidiwch â gadael y gwaith paratoi tan yr unfed awr ar ddeg
  • Unrhyw broblemau? Cysylltwch â’ch darlithydd

 

Cymryd rhan mewn sesiynau Teams

  • Byddwch yn defnyddio Teams ar gyfer addysgu a chyfarfodydd ar lein (gweler Cymryd Rhan Mewn Darlithoedd Seminarau A Sesiynau Tiwtorial Ar Teams)
  • Er mwyn defnyddio Teams, bydd angen y canlynol arnoch:
    • Cyfrifiadur neu ddyfais symudol sydd wedi’i gysylltu â’r rhyngrwyd
    • Meicroffon a seinyddion, neu glustffonau. Rydym yn awgrymu clustffonau gan eu bod yn torri lawr ar sŵn yn y cefndir.
    • Gwe-gamera. Mae’r rhain yn aml wedi’u gosod ar liniadur neu ddyfais symudol. Os gallwch ddefnyddio gwe-gamera, bydd yn helpu eich darlithydd a’r myfyrwyr eraill, i’ch gweld chi
  • Gosod Teams ar eich cyfrifiadur. Gallwch wneud hyn yn rhad ac am ddim trwy ddilyn y cyfarwyddiadau yn Teams https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=2899
  • Gwnewch alwad brawf i wirio bod pob dim yn gweithio
  • Gwyliwch ein fideo ar ymuno â chyfarfod Teams
  • Unrhyw broblemau gyda Teams? Cysylltwch â gg@aber.ac.uk

 

Canllawiau i Fyfyrwyr ar Gyfarfodydd Ar-lein

 Er y gallai eich sesiwn fod yn digwydd ar-lein, dylid trin y sesiwn yr un fath â sesiwn ddysgu wyneb yn wyneb.

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymuno â'r cyfarfod gyda'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair PA. Os ydych chi'n defnyddio Teams, y ffordd hawsaf o wneud hyn yw mewngofnodi i outlook.aber.ac.uk cyn dilyn y ddolen gyswllt i'r cyfarfod.
  • Cyrhaeddwch i'ch cyfarfod ar amser
  • Gwisgwch fel y byddech chi'n gwisgo ar gyfer seminar wyneb yn wyneb
  • Defnyddiwch gefndir i’ch fideo os nad ydych am i’r lleill weld eich ystafell (https://faqs.aber.ac.uk/2952)
  • Os nad oes modd i chi ddefnyddio gwe-gamera, ychwanegwch lun proffil priodol yn Teams. Bydd hyn yn helpu eich cyd-fyfyrwyr a'ch athrawon wybod pwy ydych chi pan fo'r camera wedi ei ddiffodd.
  • Os ydych chi'n defnyddio enw gwahanol i'r enw ar gofnod y brifysgol, gallwch ddewis defnyddio'r enw hwnnw. Bydd hyn wedyn yn ymddangos wrth i chi fewngofnodi i Teams (https://faqs.aber.ac.uk/2831)
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi gwneud unrhyw waith paratoi y gofynnwyd i chi ei wneud, a bod yr holl ddeunyddiau angenrheidiol ar gael
  • Distewch eich meicroffon oni bai eich bod yn siarad
  • Triniwch bawb ag urddas a pharch – gwrandewch ar eich gilydd a pheidiwch â thorri ar draws unrhyw un; peidiwch â thynnu sgrinluniau na recordio eraill heb eu caniatâd.
  • Arhoswch yn y sesiwn ddysgu fyw – gall fod yn demtasiwn i agor porwyr ac edrych ar bethau eraill, ond canolbwyntiwch ar y sesiwn fyw
  • Cliciwch Codi Llaw/ Raise your Hand i roi gwybod i eraill eich bod eisiau siarad; bydd eich darlithydd yn helpu i gymedroli hyn (https://faqs.aber.ac.uk/3005)
  • Dim ond os bydd eich darlithydd yn gofyn i chi rannu eich sgrin / delweddau ac ati y dylid gwneud hynny
  • Defnyddiwch y blwch Sgwrsio/Chat yn ôl cyngor eich darlithydd gan aros ar y pwnc. Cofiwch fod unrhyw beth a rannwch yn y blwch Sgwrsio yn weladwy ar ôl y cyfarfod; nid dyma'r lle i rannu gwybodaeth bersonol (https://faqs.aber.ac.uk/3006)
  • Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau gyda’ch sain yn cael ei glywed, gallwch roi cynnig ar ddiffodd eich gwe-gamera.
  • Os cewch broblemau gyda'r lled band sy'n dod i mewn, gallwch ddiffodd y fideo sy'n dod i mewn, sy'n gadael i chi weld cyflwyniad ond nid gwe-gamerâu pobl eraill

Gwylio Recordiadau o Ddarlithoedd

  • Neilltuwch amser i wylio eich recordiadau a chymryd nodiadau
  • Bydd yr holl recordiadau ar safle Blackboard eich modiwl – edrychwch yn y Deunyddiau Dysgu.
  • Cliciwch ar y ddolen sy’n cysylltu â’r recordiad i’w agor
  • Unrhyw broblemau wrth ddefnyddio Panopto? Cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk

 

 Defnyddio Blackboard

Aseiniadau

Paratoi ar gyfer Aseiniadau

  • Ychwanegwch ddyddiadau cyflwyno eich aseiniadau at eich calendr – gallwch ddod o hyd i’r rhain ar Blackboard trwy’r ddolen Aseiniad ac Adborth
  • Edrychwch ar ein hadnoddau am ysgrifennu traethodau ac aseiniadau ar SgiliauAber
  • Arferion Academaidd Da
  • Dysgwch sut i gyfeirio’n gywir at y ffynonellau gwybodaeth a ddefnyddiwch yn eich aseiniadau trwy ddarllen y canllaw ar Ymwybyddiaeth ynglŷn â Chyfeirnodi a Llên-ladrad, a chymryd y cwis: https://libguides.aber.ac.uk/chyfeirnodi (mewngofnodwch i Blackboard i gymryd y cwis)
  • Fideo ar adnoddau sgiliau ysgrifennu, cyrsiau sydd ar gael

 

Cyflwyno eich Aseiniadau

Defnyddio Llynfrgelloedd ac Adnoddau Llyfrgell

Dod o hyd i adnoddau yn eich maes pwnc: rhestrau darllen a chanfod lleoliad llyfrau

 

Cael llyfrau print o lyfrgelloedd y Brifysgol

 

Archebu a defnyddio mannau astudio yn y llyfrgell

  • Bydd ardaloedd astudio personol a thawel ar gael yn y llyfrgell a rhaid eu harchebu ymlaen llaw.
  • I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth archebu sydd ar y gweill a defnyddio ardaloedd astudio ac oriau agor y llyfrgelloedd, gweler tudalennau gwe’r Gwasanaethau Llyfrgell https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/
  • Cofiwch ddod â’ch Cerdyn Aber gyda chi er mwyn dod i mewn i’r llyfrgell ar yr adeg a drefnwyd. Peidiwch â benthyca eich cerdyn i neb na defnyddio cerdyn rhywun arall.
  • Os cewch broblemau wrth archebu mannau astudio’r llyfrgell, cysylltwch â Gwasanaethau Gwybodaeth

Edrych ar ôl eich hun

Cymorth Llesiant

  • Gallwch gael cefnogaeth ar gyfer eich lles a’ch iechyd meddwl ar-lein, yn ddienw ac yn rhad ac am ddim, trwy Togetherall
  • Mae’r fideo byr hwn yn egluro’r hyn sydd gan Togetherall i’w gynnig: https://togetherall.com/en-gb/
  • Mae cymorth arall hefyd ar gael
  • Unrhyw gwestiwn? Cysylltwch â’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd: student-support@aber.ac.uk

 

Cymorth gan Gymheiriaid

  • Mae Cynorthwywyr Adrannol wrth law ym mhob adran academaidd i gynnig cymorth anffurfiol, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr newydd y flwyddyn gyntaf.
  • Bydd eich adran yn cysylltu â chi i roi gwybod sut i gysylltu â’ch Cynorthwyydd Adrannol.
  • Gallwch hefyd wneud cais am Fentor ‘Ffordd Hyn’ a fydd yn gallu cynnig cefnogaeth fwy strwythuredig i fyfyrwyr newydd ar bob agwedd ar fywyd y Brifysgol, yn cynnwys cynllunio academaidd, rheoli amser, trefnu, a chymhelliant.

 

Cymryd Seibiant

  • Mae’n bwysig eich bod yn cymryd seibiant yn ystod y diwrnod a’r wythnos.
  • Os byddwch yn ymweld â’n caffis neu gyfleusterau chwaraeon, cofiwch eich CerdynAber. Peidiwch â rhoi benthyg eich cerdyn i neb na defnyddio cerdyn rhywun arall.