Croeso i Gwasanaethau Gwybodaeth (G.G.) - Myfyrwyr Doethuriaeth Broffesiynol
Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu gwasanaethau TG a Llyfrgell i staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn amodol ar Reoliadau a Chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
Bydd arnoch angen cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth a Cherdyn Aber i fedru defnyddio ein hadnoddau.
Eich Cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth yn eich galluogi i:
- gael mynediad i’ch e-bost Prifysgol a’ch storfa ffeiliau
- cael mynediad i’ch cofnod myfyriwr
- cysylltu eich dyfeisiau eich hun â rhwydwaith y Brifysgol
- cael mynediad i gyfleusterau cyfrifiadurol ar y campws
- gwybodaeth ar eich pwnc astudio
- cael mynediad i Blackboard, amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol
- cael mynediad i’ch cyfrif llyfrgell i reoli eich benthyciadau
- cael mynediad i feddalwedd sy’n rhad ac am ddim i chi o dan drwydded y Brifysgol
Bydd modd i chi ysgogi eich cyfrif TG Prifysgol ar-lein yn fuan cyn i’ch cwrs ddechrau a chewch e-bost gyda chyfarwyddiadau ar gyfer gwneud hyn cyn gynted ag y bydd eich cyfrif yn barod.
Caiff eich Cerdyn Aber ei ddefnyddio at y dibenion canlynol:
- yn gerdyn adnabod myfyriwr
a phan fyddwch yn ymweld â'r campws yn rhan o ysgol astudio neu ar gyfer gwaith ymchwil:
- Prynu bwyd ym mannau bwyta’r Brifysgol
- Benthyca o’r llyfrgell gan gynnwys defnyddio’r peiriannau hunan-fenthyca
- Defnyddio’r ystafelloedd cyfrifiaduron 24 awr
- Defnyddio'r llyfrgell tu allan i oriau craidd (i ddod mewn neu i adael)
- Argraffu, llungopïo a sganio
- Eich cerdyn Undeb y Myfyrwyr
- Eich cerdyn i’r Ganolfan Chwaraeon
Ar ôl ichi roi eich cyfrif e-bost ar waith dylech wneud cais am eich cerdyn Aber fel y bydd yn barod ar eich cyfer pan gyrhaeddwch y campws.