Croeso i Gwasanaethau Gwybodaeth (G.G.) - Myfyrwyr Dysgu o Bell

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu gwasanaethau TG a Llyfrgell i staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn amodol ar Reoliadau, Polisïau a Chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth.

Bydd arnoch angen cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth a Cherdyn Aber i fedru defnyddio ein hadnoddau.

 

Caiff eich Cerdyn Aber ei ddefnyddio at y dibenion canlynol:

  • yn gerdyn adnabod myfyriwr

a phan fyddwch yn ymweld â'r campws yn rhan o ysgol astudio neu ar gyfer gwaith ymchwil:

Unwaith y byddwch wedi actifadu eich cyfrif TG dylech wneud cais am eich Cerdyn Aber arlein fel ei fod yn barod ichi pan fyddwch yn cyrraedd y campws

Canllaw Llyfrgell a TG hanfodol ar gyfer myfyrwyr newydd

I wybod mwy am gyfleusterau Llyfrgell a ThG os gwelwch yn dda gweler ein Canllaw Llyfrgell a TG ar gyfer myfyrwyr newydd

Gwasanaethau ychwanegol

Gwybodaeth Pellach

  • Mae tudalennau'r Llyfrgell a'r adnoddau dysgu yn rhoi gwybodaeth i chi ar sut i wneud y defnydd gorau o lyfrgelloedd a chasgliadau'r Brifysgol
  • Mae Sgiliau Gwybodaeth yn rhoi awgrymiadau a chyngor i chi ar sut i ddarganfod a defnyddio adnoddau a gwella eich sgiliau llythrennedd gwybodaeth
  • Mae tudalennau Cwestiynau Cyffredin  yn rhoi cyfarwyddiadau a chyngor ar ddefnyddio ein cyfleusterau a'n gwasanaeth