Mae SCONUL yn gynllun benthyca dwyochrog sy'n galluogi defnyddwyr o lyfrgelloedd prifysgolion sy'n perthyn i'r cynllun fenthyg neu ddefnyddio llyfrau a chyfnodolion o lyfrgelloedd eraill . Mae'r cynllun yn cwmpasu'r rhan fwyaf  o lyfrgelloedd prifysgolion y DU ac Iwerddon.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn aelod o’r cynllun SCONUL ac yn croesawu ceisiadau o’r categorïau canlynol o sefydliadau cyfranogol eraill.

  • Staff (staff academaidd a staff cymorth) ar gontract tymor agored neu dymor penodol
  • Myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sydd wedi cofrestru ar gyfer PhD, Mphil neu gymhwyster tebyg
  • Myfyrwyr rhan-amser, dysgu o bell ac a'r leoliad
  • Ôl-raddedigion llawn amser
  • Myfyrwyr israddedig llawn amser (defnydd cyfeirio yn unig i lyfrgelloedd prifysgol Aberystwyth)

I wneud cais SCONUL i lyfrgell Prifysgol Aberystwyth dylech yn gyntaf lenwi Ffurflen Gais Cynllun SCONUL. Pan fydd eich cais wedi’i brosesu gan lyfrgell eich sefydliad cartref byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau a gallwch wedyn wneud cais am gyfrif Darllenydd SCONUL ym mhrifysgol Aberystwyth trwy ddefnyddio’r ffurflen yma.  Gellir dod o hyd i wybodaeth sydd ar gael i Ddarllenwyr SCONUL ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ein tudalen Croeso i Ddarllenwyr Cysylltiol (SCONUL) 

Cwblhewch y ffurflen hon cyn eich ymweliad.

Bydd angen i chi llwytho'r canlynol gyda’ch ffurflen:

  • Cerdyn Llyfrgell eich Sefydliad Cartref.
  • E-bost oddi wrth SCONUL yn cadarnhau eich bod wedi cael eich derbyn.

 

Band Sconul

Dewch â’ch cerdyn llyfrgell sefydliad cartref a dogfen i gadarnhau eich cyfeiriad cartref gyda chi fel prawf o hunaniaeth pan fyddwch yn ymweld â desg ymholiadau Llyfrgell Hugh Owen i gasglu eich Cerdyn Aber.