Neidio i'r fersiwn testun

Cyfadran Gwyddorau Daear a Bywyd - Cynllun Gweithredu'r Llyfrgell 2021-22

Camau Gweithredu'r Llyfrgell

Adnoddau ar gyfer Ysgol Gwyddor Filfeddygol - Gan weithio gydag Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth, mae'r Llyfrgell yn darparu mynediad at 77 o werslyfrau newydd a nifer o gronfeydd data allweddol gan gynnwys Crynodebau CAB a Medline. Gwelwch fwy am yr adnoddau hyn ar y Canllaw Gwyddorau Bywyd & BVSc

Canllaw Traethawd Hir - Rydym wedi creu Canllaw Traethawd Hir newydd i helpu myfyrwyr i ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth, i'w defnyddio nhw ac i'w rheoli nhw ar gyfer eu prosiectau

Casgliad Lles Darllen yn Well - Rydym wedi llunio'r Rhestr Ddarllen Darllen yn Well. Casgliad o adnoddau sydd ar gael trwy'r Llyfrgell i gefnogi iechyd meddwl a lles ein defnyddwyr.

Adnewyddu Llyfrgell Hugh Owen - Rydym wedi bod wrthi'n casglu adborth gan ddefnyddwyr ar gyfer y gwaith arfaethedig o adnewyddu Lefelau E ac F. Darllenwch rai o'r awgrymiadau a rhannwch eich rhai chi yma

Hybiau Monitor - Rydym yn treialu hybiau monitor yn Llyfrgell Hugh Owen i helpu pobl i ddefnyddio'u gliniaduron mewn ffordd fwy ergonomig. Rhagor o wybodaeth yma.

Ymestyn oriau agor y Llyfrgell - Gwnaethom sicrhau bod y Llyfrgell ar agor gymaint â phosibl dros gyfnodau gwyliau gan gynnwys y Nadolig, y Flwyddyn Newydd a'r Pasg.

Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth i Gwsmeriaid - Enillodd Gwasanaethau Gwybodaeth safon Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid yn 2015 ac mae wedi cynnal y safon hon ac wedi ennill meysydd Compliance Plus, meysydd sy'n mynd y tu hwnt i ddarpariaeth gwasanaeth safonol, bob blwyddyn ers hynny. Darllenwch fwy yma 

Benthyciadau Post a Dychwelyd Rhadbost - Rydym yn parhau i gynnig gwasanaeth benthyciadau trwy'r post i fyfyrwyr dysgu o bell a myfyrwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Canllaw a Chwis Cyfeirnodi a Llên-ladrad - Ym mis Medi 2020 lansiodd y llyfrgell Ganllaw a Chwis Llyfrgell pwrpasol i godi ymwybyddiaeth o Gyfeirnodi a Llên-ladrad. Ers ei lansio, edrychwyd ar y canllaw100,273 o weithiau.

Lansiwyd fersiwn newydd o'r Canllaw a'r Cwis ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd 2022/2023 ac  mae 1293 o ymdrechion wedi'u gwneud ar y cwis newydd, gyda 552 yn sgorio'r marc pasio a argymhellir o 80 neu uwch.

Canlyniadau'r ACF 2022 

Aberystwyth yw’r brifysgol orau yng Nghymru am foddhad myfyrwyr yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) 2022

Mae ein Gwasanaethau Llyfrgell a TG hefyd yn parhau i berfformio'n well na chyfartaledd sector y DU o ran boddhad myfyrwyr

  • Gwasanaethau Llyfrgell - 87   8 pwynt canran yn uwch na 2021. Ar y brig yng Nghymru a 10fed yn y DU

  • Gwasanaethau TG - 86  6 phwynt canran yn uwch na 2021. Ar y brig yng Nghymru a 3ydd yn y DU 

Arolwg Defnyddwyr 2021

Rydym wedi bod yn gofyn i ddefnyddwyr lenwi'r Arolwg Defnyddwyr GG bob mis Tachwedd.

Gofynasem beth ydym yn ei wneud yn dda a beth sy'n rhaid inni weithio arno? Rydym wedi defnyddio'r ymatebion i gynllunio a datblygu ein gwasanaethau. Rydym wedi adrodd ar gasgliadau'r arolwg hwn ac ar ein camau gweithredu o ganlyniad

Rydym yn chwilio am y ffyrdd mwyaf effeithiol i gasglu adborth a thystiolaeth am ein gwasanaethau llyfrgell ar hyn o bryd. 

Defnydd Adnoddau a Chyllideb

Gwariant - Mae'r rhan fwyaf o Gyllideb Adnoddau Llyfrgell yn cael ei gwario ar adnoddau y mae'r staff academaidd yn gofyn amdanynt i gynorthwyo â dysgu ac ymchwil.

85% - sydd ar gael ar gyfer gwariant rheolaidd, megis cyfnodolion a chronfeydd data

15% - sy'n mynd tuag at wariant untro, megis deunydd darllen ar gyfer ymchwil, a deunydd ar restrau darllen, gan gynnwys llyfrau, testunau wedi'u digido o lyfrau ac erthyglau cyfnodolion.

Yr ydym hefyd wedi ymrwymo £40,000 o'r Gyllideb Adnoddau Llyfrgell i helpu i gefnogi ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda'r trosglwyddiad i gyhoeddi Mynediad Agored.

Defnydd - ers mis Awst 2021

Rydym wedi benthyca 37, 991 llyfr

Rydym wedi digideiddio 528 pennod / erthygl

Rydym wedi benthyca 162 cyfnodolyn - Yn 2021, fe wnaethom estyn yr hawl i fenthyg cyfnodolion - a oedd ar y pryd ar gael i’r staff yn unig - i grwpiau eraill o ddefnyddwyr. Ac erbyn hyn mae’n bosib gwneud cais amdanynt ar Primo

Rydym wedi benthyg 399 eitem ac wedi benthyca 1006 eitem i lyfrgelloedd eraill

Rhestrau Darllen

Ers mis Awst 2021, ychwanegwyd:

  • 233 o adnoddau at restrau Gwyddorau Bywyd a BVSc

  • 458 o adnoddau at restrau Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

  • 82 o adnoddau at restrau Seicoleg

Ychwanegwyd cyfanswm o 773 adnodd at restrau darllen CGDB ers mis Awst 2021

*Mae adnoddau yn cynnwys llyfrau, e-lyfrau, e-adnoddau a phenodau/erthyglau wedi'u digido

Mae gan 94% o holl fodiwlau Prifysgol Aberystwyth Restr Ddarllen Aspire

Porth Ymchwil Aberystwyth 

Porth Ymchwil Aberystwyth yn gwneud y mwyaf o ymchwil staff ac ôl-raddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd ar gael yn agored ar-lein, yn rhad ac am ddim

LibGuides

Mae ein Llyfrgellwyr Pwnc yn cynnal ystod o LibGuides yn gronfa o adnoddau llyfrgell mewn un man.

Mae LibGuides yn cynnwys gwybodaeth, adnoddau a dolenni sy'n berthnasol i bynciau penodol neu feysydd cyffredinol.

Mae ein canllaw i Gyfeirnodi a Llên-ladrad wedi'i weld mwy na 37,841 o weithiau mewn un flwyddyn academaidd

Galluoedd Digidol

Galluoedd digidol yw’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ffyrdd o weithredu sydd yn ein galluogi i fyw, dysgu a gweithio yn ddiogel ac effeithiol mewn cymdeithas ddigidol. Rydym yn cefnogi myfyrwyr a staff yn y Brifysgol i asesu a datblygu eu galluoedd digidol eu hunain.

Enghreifftiau o alluoedd digidol:

  • Chwilio am lenyddiaeth yn effeithlon
  • Rheoli data
  • Cyfathrebu ag eraill ar-lein
  • Deall sut i gadw'n ddiogel ar-lein
  • Cydweithio mewn timau a grwpiau digidol
  • Dysgu a myfyrio gan ddefnyddio offer digidol

Adnoddau i'ch cefnogi i asesu a datblygu eich galluoedd digidol

Offeryn Darganfod Digidol Jisc

Mae Offeryn Darganfod Digidol Jisc yn adnodd dwyieithog sy'n galluogi myfyrwyr a staff i hunanasesu eu galluoedd digidol. Bydd yn eich galluogi i nodi eich cryfderau yn ogystal â thynnu sylw at gyfleoedd i ddatblygu eich galluoedd digidol ymhellach.

Pryd fydd yr Offeryn Darganfod Digidol (ODD) ar gael i bob myfyriwr?

  • 2021/22: Cynllun peilot Blwyddyn Sylfaen a Blwyddyn 1 yr ODD - Addysg, Seicoleg, Busnes, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
  • 2022/23: ODD ar gael i bob myfyriwr Blwyddyn Sylfaen a Blwyddyn 1
  • 2022/23: Cynllun peilot Blwyddyn 2 a Blwyddyn Derfynol yr ODD
  • 2023/24: ODD ar gael i bob myfyriwr (Israddedig ac Uwchraddedig)

LinkedIn Learning

Llwyfan addysgu ar-lein sy’n cynnwys llyfrgell helaeth o gyrsiau a fideos byr dan arweiniad arbenigwyr. Gall LinkedIn Learning eich helpu chi i ddatblygu eich galluoedd digidol, yn ogystal â nifer o sgiliau eraill.

Rhowch eich cyfrif LinkedIn Learning ar waith

Gwybodaeth gyswllt

Sioned Llywelyn (Swyddog Galluoedd Digidol) digi@aber.ac.uk

Tanysgrifiwch i'r safle WordPress Galluoedd Digidol