Cefnogi Myfyrwyr

Tiwtoriaid Personol

Mae pob myfyriwr yn meddu ar Diwtor Personol. Rôl y tiwtor yw bod yn glust a darparu cyngor cyffredinol yn ôl yr angen. Er enghraifft, gellid trafod materion megis sut i gwrdd a dyddiadau cau ar gyfer gwaith cwrs neu eich syniadau o ran gyrfa gyda’ch tiwtor. Gellid hefyd mynd at y tiwtor i drafod unrhyw broblemau sy’n codi os nad ydych yn hollol siŵr gyda phwy i drafod y materion hynny. Bydd y tiwtor yn ymdrin ag unrhyw fater mewn modd caredig ac yn medru eich cynorthwyo i ganfod cymorth. Gellir galw i weld eich tiwtor yn ystod eu horiau swyddfa neu gellir trefnu apwyntiad ar adeg arall dros ebost. Os yw eich problem yn un ddifrifol bydd modd i’r tiwtor eich gweld yn fuan.

Os ydych am ryw reswm yn dymuno newid eich Tiwtor Personol, gellir gwneud hynny heb ateb unrhyw gwestiynau neu gynnig eglurhad - cysylltwch a Donia Richards yn Swyddfa’r Adran

Gellir chwilio enw eich tiwtor personol ar eich cofnod myfyriwr

Cymorth Myfyrwyr

Mae’r gwasanaeth Cymorth Myfyrwyr yn darparu ystod eang o wasanaethau, o gyngor ariannol i wasanaeth cwnsela, o ofal plant i ddosbarthiadau ymlacio - Cymorth i Fyfyrwyr

Dyslecsia a’r Lwfans Myfyrwyr Anabl

Mae gwasanaeth Cymorth Myfyrwyr y Brifysgol yn darparu cefnogaeth i’r myfyrwyr hynny sy’n dal y Lwfans Myfyrwyr Anabl, sy’n medru cynnwys dyslecsia. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â dyslecsia, dylid cysylltu a’r ganolfan asesu er mwyn derbyn mwy o wybodaeth yn yr adran Cymorth i Fyfyrwyr