Lleoliadau, Cyfnewid a'r Gemau Argyfwng
Lleoliadau
Mae myfyrwyr yn cael profiad ymarferol o fywyd gwleidyddol, cynorthwyo Aelodau Senedd yn Nhŷ'r Cyffredin neu Senedd Cymru am tua 6 wythnos. Mae'r cynllun yn agored i fyfyrwyr ail flwyddyn yn unig. Am fwy o fanylion cysylltwch a Catrin Edwards (Cyfarwyddwr Materion Cymraeg).
Ffurflen Cynllun Lleoliadau Ty'r Cyffredin a Senedd Cymru 2024
Dylai’r ffurflen yma gael ei llenwi a’i chyflwyno gyda gweddill y cais, ynghyd â CV, ac eglurhad tudalen o hyd yn nodi pam mae arnoch eisiau mynd ar y cynllun, a hynny ar e-bost i Catrin Edwards (cwe6@aber.ac.uk) a Ceuron Bryn Tecwyn (cet18@aber.ac.uk) erbyn 15 Chwefror 2024 erbyn 16.00. Os byddwch yn cael eich dewis i fynd ar leoliad, bydd y CV a’r datganiad personol yn cael eu hanfon at ASau a allai gynnig lleoliad ichi. Mae’r ffurflen gais yma yn cael ei defnyddio at ddibenion yr adran yn unig. Bydd yr holl ymgeiswyr yn cael gwybod ar e-bost erbyn 25 Chwefror 2024 a ydynt ar y rhestr fer ai peidio. Y dyddiad dros dro ar gyfer cynnal cyfweliadau yw’r wythnos sy’n cychwyn ar 4 Mawrth 2024.
Llawlyfr Lleoliadau Seneddol 2023-24
Cyfnewid
Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cynnig i fyfyrwyr ar ei gynlluniau gradd israddedig y cyfle i dreulio rhan o'u hastudiaethau mewn prifysgol dramor. Gweler isod rhywfaint o wybodaeth am y cynlluniau cyfnewid ar brifysgolion rydym wedi sefydlu cysylltiadau â hwy.
Astudio Dramor
Ffurflen Gais Cyfnewid 2022-23
Gemau Argyfwng
Mae'r gemau efelychu argyfwng yn cael eu cynnal bob mis Tachwedd pan fydd myfyrwyr yn chwarae allan argyfwng ffuglen yn seiliedig ar ddigwyddiadau byd-eang cyfoes. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Cyfarwyddwr Gemau Argyfwng Dr Chris Phillips