Dysgu ac Addysgu

Gellir canfod manylion llawn unrhyw reoliadau neu weithdrefnau’r Brifysgol ar wefan y Gofrestrfa Academaidd

Llawlyfrau

Blackboard

Llyfrgell Hugh Owen

Asesu

Estyniadau, Amgylchiadau Arbennig ac ailsefyll

Os oes rheswm anorfod sy’n golygu na ellir cyflwyno gwaith cwrs mewn pryd, mae’n rhaid i fyfyrwyr gyflwyno cais am estyniad trwy gwblhau’r Ffurflen Gais am Estyniad i Ddyddiad Cyflwyno Gwaith Cwrs. Mae'r ffurflen gais ar wefan y Brifysgol o dan 3.13 Templedi: mae’n rhoi cyfarwyddiadau manwl ar yr amgylchiadau lle y bydd posibilrwydd o ganiatau estyniadau, hyd yr estyniadau, a beth i’w wneud os nad oes modd caniatáu estyniad neu os gwrthodir y cais.

Swyddogion Estyniadau wedi'u rhestru yn https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/taught-schemes/officers/ 

 

Ffurflen a Pholisi Amgylchiadau Arbennig

Os oes gennych Amgylchiadau Arbennig, dylid cwblhau’r ffurflen isod a’i dychwelyd i Donia Richards, Swyddog Academaidd y Gofrestrfa neu rhoi copi papur i fewn i Swyddfa’r Adran

Gwybodaeth ynglŷn ag ailsefyll

Os oes gennych ymholiadau ynglŷn ag ailsefyll agwedd o’ch cwrs, dylid cysylltu â’r Dirprwy Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, Dr James Vaughan, neu Donia Richards yn Swyddfa’r Adran sy’n gyfrifol am weinyddu unrhyw drefniadau ailsefyll.

Arholwyr Allanol

  • Pwy yw'r arholwyr allanol?