Andrew Linklater (1949-2023)

Teyrnged Yr Athro Andrew Linklater

Tristwch o’r mwyaf inni oedd clywed am farwolaeth annhymig yr Athro Andrew Linklater, degfed deiliad Cadair Woodrow Wilson mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, a fu farw ar 5 Mawrth 2023. Roedd yr Athro Linklater yn ddamcaniaethwr byd-enwog ym maes cysylltiadau rhyngwladol, ac yn ffrind a chydweithiwr a oedd yn ysbrydoliaeth i lawer o bobl. Mae’r deyrnged fer hon iddo yn amlinellu rhai o’i gyfraniadau pwysicaf i’r ddisgyblaeth, yn ogystal â’i ddiddordebau personol. Bydd colled lem ar ei ôl ymhlith pawb a oedd yn ei adnabod.

Date: Iau, 06 Ebr 2023 14:06:10 BST