Efrydiaethau PhD mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Ysgoloriaethau PhD yn Cychwyn Medi 2021
Rydym yn falch o wahodd ceisiadau am brosiectau PhD yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth. Mae tri prif lwybr cyllido ar gael:
- Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ar gyfer Cymru (DTP Cymru), gyda'r posibilrwydd o gael ysgoloriaeth wedi'i hariannu'n llawn, naill ai ar sail +3 neu 1 + 3.
- Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol De, Gorllewin a Chymru (DTP), ar gyfer ysgoloriaethau i brosiectau o dan arweiniad myfyrwyr a rhai cydweithredol.
- Ysgoloriaethau PhD Prifysgol Aberystwyth AberDoc.
Ceir mwy o fanylion, dyddiadau cau a gwybodaeth gyswllt ar ein tudalennau Cyllid PhD adrannol.
Gallwch hefyd ddarganfod mwy am ein rhaglen ddoethuriaeth ar ein tudalennau gwe PhD.
Date: Llun, 07 Rhag 2020 11:05:44 GMT