5 Uchaf drwy wledydd Prydain am Ansawdd y Dysgu a Phrofiad y Myfyrwyr

Deg Uchaf drwy wledydd Prydain am Ansawdd yr Ymchwil

Rydyn ni wrth ein bodd ac yn falch iawn o gael cyhoeddi mai Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yw’r Adran Orau yng Nghymru ac ymhlith y 5 Uchaf drwy wledydd Prydain am Ansawdd y Dysgu a Phrofiad y Myfyrwyr ym maes Gwleidyddiaeth yn ôl canllawiau diweddaraf Prifysgolion Da The Times / Sunday Times 2021. Cafodd yr Adran 90%, gan ddod yn ail, am ansawdd y dysgu. Mae hi yn y trydydd safle am Brofiad y Myfyrwyr, gydag 86%. Mae’r sgoriau a gawsom am ansawdd y dysgu a phrofiad y myfyrwyr yn llwyddiant gwych ac yn glod i’n holl staff, yn academaidd ac yn weinyddol fel ei gilydd, wrth iddyn nhw ddarparu amgylchedd dysgu ardderchog i’n myfyrwyr.

Yr un mor foddhaol yw gweld yr Adran yn y Deg Uchaf drwy wledydd Prydain am Ansawdd yr Ymchwil. Mae hynny’n golygu mai ni yw’r unig adran ym meysydd Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol sydd yn y Deg Uchaf am ansawdd yr ymchwil a’r dysgu, ac am Brofiad y Myfyrwyr. Rydym yn falch iawn bod ein hymrwymiad i gyfuno amgylchedd dysgu a phrofiad ardderchog i’r myfyrwyr gydag ymchwil o ansawdd uchel wedi’u cydnabod yng Nghanllawiau’r Prifysgolion Da. Rhwng popeth ein hadran ni ddaeth ar y brig o holl adrannau Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yng Nghymru, ac yn rhif 14 o’r 80 adran yn y maes drwy Brydain.

Mae hyn rhan o’r canlyniad gwirioneddol ardderchog y mae Prifysgol Aberystwyth yn ei chyfanrwydd wedi’i gael. Yn yr un canllawiau a geir yn “The Times / Sunday Times Good University Guide 2021” Prifysgol Aberystwyth yw’r Brifysgol orau drwy Brydain am Ansawdd y Dysgu a Phrofiad y Myfyrwyr.

Date: Llun, 05 Hyd 2020 12:09:00 BST