Gweithdy Chweched Dosbarth: Pynciau Gwleidyddol Llosg Mewn Adeg Ansefydlog – 4.10.17

Mae’n bleser gyda ni fel Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth gyhoeddi ein bod yn trefnu gweithdy ar gyfer myfyrwyr chweched dosbarth ar rai o’r prif ddatblygiadau gwleidyddol cyfredol. Cynhelir y gweithdy ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth ar ddydd Mercher, 4 Hydref 2017, rhwng 10.30yb a 2.30yp.

Cynhelir y gweithdy ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth ar ddydd Mercher, 4 Hydref 2017, rhwng 10.30yb a 2.30yp.

Thema’r gweithdy fydd ‘Pynciau Gwleidyddol Llosg mewn Adeg Ansefydlog’. Cynhelir pedair sesiwn ryngweithiol yn ystod y dydd ac mae’r poster isod ar gyfer y digwyddiad yn dangos sut mae’r gweithdy yn ymwneud â datblygiadau cyfoes a chysyniadau sy’n berthnasol i nifer o bynciau Lefel-A megis hanes, cymdeithaseg, y gyfraith a Bagloriaeth Cymru. O ‘r herwydd, credwn fod cynnwys y gweithdy o fudd a diddordeb i ystod o fyfyrwyr chweched dosbarth. Ni chodir tâl am fynychu’r gweithdy ac fe fydd yr Adran yn darparu paned wrth gyrraedd a chinio am ddim. Gallwn hefyd gyfrannu tuag at gostau teithio i fynychu’r digwyddiad.

 

Date: Mer, 09 Awst 2017 09:06:00 BST