Cynhadledd - 'Beth ydy Rhyfel Heddiw'

Tachwedd 22, 2016

Group Photo 2Ar Dachwedd 22 2016 mynychodd dirprwyaeth o bump o fyfyrwyr Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth symposiwm 'Beth Ydy Rhyfel Heddiw?' yng ngholeg Churchill, Caergrawnt. Gan adlewyrchu natur ryngwladol Prifysgol Aberystwyth roedd y grŵp yn cynnwys myfyrwyr o amrywiaeth o gefndiroedd; gan gynnwys Oliver Foley-Marshall o Gymru, Melissa Roberts o’r Amwythig, Jenny Birgitte Melum o Norwy, Garance Le Vaguerèse o Ffrainc, a Tsz Shing Chow yn fyfyriwr cyfnewid o Brifysgol Bedyddwyr Hong Kong. Natur rhyfel oedd prif bwnc trafod y symposiwm; sut allwn leihau bygythiad rhyfel a sut bydd rhyfel yn datblygu yn y dyfodol? Cafodd y cwestiynau yma eu trafod gan gyfres o baneli oedd yn cynnwys amrywiaeth o academyddion, llunwyr polisi a chynrychiolwyr o’r lluoedd arfog

Date: Llun, 24 Gorff 2017 09:48:00 BST