Llwyddiant Ysgubol Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn yr arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr

Mae myfyrwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth wedi rhoi cyfradd boddhad gyffredinol arbennig iawn o 95% i’r adran yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2016 (NSS)! Mae hyn yn gosod yr adran yn y 10 uchaf yn y DG ar gyfer gwleidyddiaeth ac yn ei osod chwe phwynt yn uwch na’r cyfartaledd y DG o 86%.

Mae myfyrwyr wedi rhoi sgôr ardderchog o 95% am foddhad cyffredinol i Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth mewn arolwg DU dylanwadol.

Mae sgôr yr Adran yn rhan o lwyddiant ehangach Prifysgol Aberystwyth, sydd ar y brig yng Nghymru, ac ymhlith y deg uchaf yn nhabl sefydliadau uwch y Deyrnas Unedig ar gyfer boddhad cyffredinol, yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2016.

Mae’r canlyniadau’n dangos bod boddhad cyffredinol ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 92%, sef chwe phwynt canran yn uwch na ffigwr y Deyrnas Unedig o 86%.

Wrth i’r Adran edrych ymlaen at ei chanmlwyddiant yn 2019, cafodd hwb pellach wrth i’w chwrs Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Byd Anorllewinol israddedig gael sgôr o 100% am foddhad cyffredinol oddi wrth y myfyrwyr.

Cafodd tair rhaglen arall yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol sgôr o dros 90% am foddhad cyffredinol. 

Cwrs Gradd Israddedig

Adran

Boddhad Cyffredinol

Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Trydydd Byd

Gwleidyddiaeth Ryngwladol

100%

Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes Milwrol

Gwleidyddiaeth Ryngwladol

95%

Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Gwleidyddiaeth Ryngwladol

92%

Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Astudiaethau Cudd-wybodaeth

Gwleidyddiaeth Ryngwladol

91%

Rhoddodd y myfyrwyr sgôr uchel i’r rhaglenni am ansawdd yr addysgu, cymorth academaidd, trefniadaeth a rheolaeth, adnoddau dysgu a datblygiad personol.

Mae’r Arolwg yn casglu data o 155 o Sefydliadau Addysg Uwch y Deyrnas Unedig, a chaiff ei gydnabod fel ffynhonnell ddylanwadol o wybodaeth ar gyfer darpar fyfyrwyr wrth iddynt ystyried eu hopsiynau.

Meddai’r Athro Richard Beardsworth, sy’n cymryd yr awenau fel Pennaeth Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth ym Medi 2016: “Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol wrth ei bodd gyda chanlyniadau’r Arolwg Myfyrwyr diweddar, a’r sgôr o 95% (i fyny wyth pwynt o 2015) am foddhad cyffredinol myfyrwyr, ac mae'n wirioneddol ddiolchgar i’r myfyrwyr am eu gwerthfawrogiad o waith caled yr adran.  Mae’r Adran bob amser wedi ymfalchïo yn ei gallu i gyfuno’i hymrwymiad i addysgu gyda’i henw da ym maes ymchwil (7fed safle yn y DU o ran Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol).

 “Mae gwerthfawrogiad y myfyrwyr yn cadarnhau’r cyswllt cryf, creadigol sydd rhwng ein darlithwyr/ysgolheigion, ein staff cymorth, a’r gymuned myfyrwyr gyfan.  Yn wir, mae’r Adran yn darparu amgylchedd gwirioneddol wych - trwy ein cwricwlwm, ein cymuned ddeallusol, a’n gweithgareddau allgyrsiol (Gemau Argyfwng, Cynlluniau Lleoliadau Seneddol, Cymdeithasau ac ati) - ar gyfer deall a dechrau ymarfer gwleidyddiaeth ryngwladol.  I baratoi ar gyfer ein canmlwyddiant yn 2019, rydym yn croesawu, gyda hyder a chyffro, myfyrwyr newydd i’n dosbarthiadau gradd canmlwyddiant!”

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, a chanfod pam bod ein myfyrwyr mor fodlon gyda’u cyrsiau, yna nid yw’n rhy hwyr.  Mae gennym rai lleoedd clirio ar ôl ar gyfer y flwyddyn academaidd 2016-17, neu dewch i’n gweld ar un o’n Diwrnodau Agored.

Mae ffigurau’r Arolwg yn dod yn dynn ar sodlau ffigurau cyflogadwyedd diweddaraf Prifysgolion y Deyrnas Unedig, sy’n dangos bod 92% o raddedigion Gwleidyddiaeth Ryngwladol mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl gadael Prifysgol Aberystwyth.

Cynhelir yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn flynyddol gan IPSOS Mori ar ran holl gynghorau cyllido addysg uwch y Deyrnas Unedig a chyrff eraill, ac mae’n holi barn tua 312,000 o fyfyrwyr blwyddyn olaf yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. 

Date: Iau, 11 Awst 2016 12:20:00 BST