Lansiad Llyfr: Dr Gillian McFadyen

Refugees in Britain: practices of hospitality and labelling

30 Medi 2020

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi’r newyddion cyffrous bod yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Ganolfan Symudedd Pobl yn mynd i gynnal Lansiad Llyfr Ar-lein ar gyfer llyfr y Dr Gillian McFadyen Refugees in Britain: practices of hospitality and labelling, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caeredin. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Mercher 30 Medi rhwng 16.00-17.00. Bydd lansiad y llyfr yn cynnwys cyfraniadau gan yr awdur a chan yr Athro Jenny Edkins o Brifysgol Manceinion a’r Dr Andrea Hammel, Cyfarwyddwr y Ganolfan Symudedd Pobl a Darllenydd yn Adran Ieithoedd Modern, Prifysgol Aberystwyth. Mae cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn bellach ar agor.

Date: Gwe, 16 Hyd 2020 15:41:00 BST