Beatrice Fihn, Cyfarwyddwr Gweithredol ICAN, yn traddodi’r Ddarlith Waltz Flynyddol

6.00pm - Darlith Kenneth N. Waltz 2019 a Darlith y Canmlwyddiant

31 Hydref 2019

Mae'n bleser gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyhoeddi y bydd y Ddarlith Kenneth N. Waltz Flynyddol yn cael ei thraddodi gan Beatrice Fihn, Cyfarwyddwr Gweithredol ICAN (yr Ymgyrch Ryngwladol i Ddiddymu Arfau Niwclear). Yn 2017 derbyniodd Beatrice Fihn y Wobr Heddwch Nobel ar ran ICAN. Teitl ei sgwrs yw  ‘International Politics is alive and well (despite reports to the contrary)’.

Does dim llawer mewn gwell sefyllfa na Beatrice Fihn i siarad am faterion o'r fath, o ystyried y rhan a chwaraeodd ICAN wrth hyrwyddo'r 'Fenter Ddyngarol' yn erbyn arfau niwclear, a mabwysiadu'r Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear ym mis Gorffennaf 2017 ('Y Cytundeb Banio' fel y’i gelwir). Mae'r Cytundeb yn gwahardd arfau dinistr torfol, ac yn cynnig llwybr tuag at eu dileu yn llwyr. Mae wedi cael ei fabwysiadu ond heb ei gadarnhau eto gan y rhan fwyaf o wladwriaethau’r byd, ond nid gan yr un o’r rhai sydd ag arfau niwclear eu hunain.

Bydd y ddarlith yn cael ei chynnal ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol, gan ddechrau am 6pm ddydd Iau 31 Hydref. Mae croeso i bawb.

Date: Gwe, 23 Hyd 2020 10:43:10 BST