Proffiliau Alumni

Alexandra El Dbeissy - MA mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol (Arbenigol) (2019)

Beth rydych yn ei wneud nawr (os yw'n berthnasol)?

Ar ôl i mi orffen fy ngradd Meistr, dechreuais weithio fel Swyddog Materion Consylaidd yn Gonswliaeth Gyffredinol Panama yn Dubai, yn yr Emiradau Arabaidd Unedig. Mae fy ngwaith i yn ymwneud â materion diplomyddol a chonsylaidd.  Er enghraifft, rwyf wedi chwarae rhan mewn cytundebau rhwng Panama a'r Emiradau Arabaidd Unedig, ac rwyf hefyd wedi bod yn gyswllt rhwng y Gonswliaeth a Gweinyddiaeth Materion Tramor a Chydweithredu Rhyngwladol yr Emiradau Arabaidd Unedig. Rwyf hefyd yn chwarae rhan fawr yng ngwaith llunio nodiadau swyddogol a gyfeirir at gyrff llywodraethol a diplomyddion.  Yn ogystal â hyn oll, mae fy swydd hefyd yn cynnwys paratoi adroddiadau ar faterion rhyngwladol cyfoes a helpu dinasyddion Panama â gwahanol ymholiadau a gofynion consylaidd.

Mae'n brofiad gwefreiddiol a boddhaol, ac mae'n golygu y gallaf weithio a rhyngweithio â swyddogion ar lefel uchel ac ennill dealltwriaeth ehangach am y materion sy'n gysylltiedig â diplomyddiaeth. Mae'n agoriad llygad, a phan ddywedaf fy mod i wedi dysgu llawer – nid yw hynny’n ddisgrifiad digonol o gwbl.

Y pethau gorau am y Brifysgol?

Drwy gydol fy amser ym Mhrifysgol Aberystwyth, roeddwn i'n hoffi yn enwedig pa mor bwysig yw hi i'r Brifysgol fod y myfyrwyr yn cael profiad crwn, ar ben yr addysg wych, ac roedd hynny’n siarad cyfrolau am ymrwymiad y Brifysgol i iechyd meddwl a chorfforol y myfyrwyr. Roeddwn i hefyd yn dwlu ar yr amryw glybiau chwaraeon a'r grwpiau ymarfer corff a oedd ar gael yn y Brifysgol. Ymunais i â'r Clwb Tenis a fy hoff ddosbarthiadau cadw heini oedd Swmba a Chamu a Chyflyrau.  Ac ar ben hynny, roedd y ffaith bod llyfrgell Hugh Owen ar agor bob awr o bob dydd yn gaffaeliad mawr. Llwyddais i wneud fy holl waith ac astudiaethau yno ac oherwydd ei bod ar agor drwy'r amser, doedd dim angen mynd i boeni amdani byth.

Eich hoff beth am fyw yn Aberystwyth?

Un o'm hoff bethau am fyw yn Aberystwyth oedd pa mor agos at y traeth roeddem ni. Elwn i gyda'm ffrindiau ac eistedd yno ar lan y môr a gwylio'r machludoedd anhygoel.  Un o'm hoff bethau eraill am Aberystwyth oedd yr holl siopau bach swynol a chlyd yn y dref. Roeddwn i bob amser wrth fy modd â golwg a naws y dref a sut, weithiau, roedd tro bach syml i'r siopau yn teimlo ychydig bach yn hudolus. Yn olaf, ac yn bwysicach, rwy'n hoffi pa mor ddiogel a chyfeillgar yw Aberystwyth. Mae'n lle gwych i fyw ynddo, a lle gwych i ymweld ag e.

Sut mae'ch gradd wedi helpu (neu sut y gwnaiff helpu) eich gyrfa?

Mae fy ngradd Meistr wedi fy helpu i ddatblygu meddylfryd mwy dadansoddol pan fyddaf i'n cloriannu materion rhyngwladol o safbwynt gwleidyddol, diwylliannol a chymdeithasol. Rwy mewn gwell sefyllfa o ran fy ngallu i gywain gwybodaeth am y prif bolisïau y mae gwahanol wledydd yn eu gweithredu er mwyn rhoi hwb i'w heconomïau a'u safleoedd fel Gwladwriaethau gweithredol yn y gyfundrefn ryngwladol.  Ar ben hynny, mae fy ngradd wedi fy helpu i feithrin fy medrau cyfathrebu, sy'n golygu y gallaf i gyfathrebu'n effeithiol yn fy swydd bresennol.

Pa gyngor a roddech chi i fyfyrwyr eraill o Feneswela sydd am astudio yng ngwledydd Prydain?

Byddwn i'n eu cynghori i gychwyn yn gynnar ar eu cais am le mewn prifysgol. Edrychwch ar raglen y brifysgol mewn da bryd ymlaen llaw er mwyn dod o hyd i'r hyn sydd o ddiddordeb i chi, ac fe allech chi gael cryn fantais os ydych yn deall y gofynion derbyn, y dyddiadau cau, y ffioedd dysgu, y dewisiadau llety, adnoddau'r brifysgol, a'r cyfleoedd am gyllid. Mae ymchwilio a pharatoi'n gynnar yn gamau hanfodol wrth i chi ddod o hyd i'ch ffordd i'r brifysgol. Byddwn i hefyd yn argymell chwilio am gyrsiau ar-lein a allai'ch helpu i ymbaratoi'n dda at unrhyw arholiadau derbyn; mae llawer o gyrsiau a phrofion ymarferol addas ar gael ar-lein i'r arholiad IELTS, er enghraifft.

Y cyngor arall a roddwn i fyddai ymdaflu i'r profiad yn llwyr. Mae cymaint i'w ddysgu a chymaint i'w weld, felly byddwch ymwybodol o bopeth o'ch cwmpas. Cymerwch y cyfan i mewn, fel y gallwch fynd â'r profiad gyda chi lle bynnag yr ewch chi.

Stefan Rhys Hansen - BA Daearyddiaeth Ddynol gyda Gwleidyddiaeth Ryngwladol (2017)

BA Daearyddiaeth Ddynol gyda Gwleidyddiaeth Ryngwladol (prif bwnc/is-bwnc). Graddiodd yn 2017. Ar hyn o bryd yn gweithio yn intern Gweinyddol yn Swyddfa UE Llywodraeth Cymru.

Pam ddewisoch chi astudio yn Aberystwyth?

Cefais fy nenu gan y gydnabyddiaeth ryngwladol sydd i’r adran a’r ffaith fod gan Aberystwyth gymuned Gymraeg gref. Fel siaradwr Cymraeg a fagwyd ym Mrwsel, roedd Aberystwyth i fi yn gyfle gwych i ddefnyddio fy Nghymraeg a hefyd i gael bod yn rhan o adran Cysylltiadau Rhyngwladol o fri rhyngwladol. Tyfodd fy hyder fel siaradwr drwy fynychu seminarau ym Mhrifysgol Aberystwyth a gadawodd hyn fi hefyd i ddatblygu fy sgiliau gwaith tîm a rhyngbersonol. Yn ogystal â hyn, dilynais gwrs ar wleidyddiaeth yr UE. Mae hyn wedi helpu llawer yn fy ngwaith nawr gan fy mod yn ymdrin â materion yr UE yn ddyddiol yn rhan o fy swydd.

Sut mae eich gyrfa wedi datblygu ar ôl gadael Aberystwyth?

Ar ôl cwblhau BA ym Mhrifysgol Aberystwyth, es i ymlaen i wneud gradd Meistr mewn Datblygu Byd-eang ym Mhrifysgol Copenhagen. Yn ystod fy nghyfnod yn Copenhagen, roeddwn i’n gwirfoddoli gyda Chyngor Ffoaduriaid Denmarc ac yn rhan o fy nghwrs gradd treuliais bythefnos yn gwneud gwaith ymchwil maes yn nhref Morogoro, Tanzania. Galluogodd y profiadau hyn fi i adeiladu ar y sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm a threfnu roeddwn i wedi’u dysgu trwy fod yn fyfyriwr yn Aberystwyth ac yn Copenhagen. Ar ôl amddiffyn fy nhraethawd ymchwil meistr ym mis Mehefin 2019, dechreuais weithio yn swyddfa UE Llywodraeth Cymru ym Mrwsel ddechrau mis Medi fel intern gweinyddol.

Gwaith Swyddfa UE Llywodraeth Cymru ym Mrwsel yw cynrychioli Cymru ar lefel yr Undeb Ewropeaidd. Mae cyfanswm o 11 o weithwyr yn ymdrin â meysydd polisi masnach, amaethyddiaeth, datblygu economaidd, a datblygu busnes. Yn rhan o fy ngwaith, rwy’n helpu i drefnu digwyddiadau ym Mrwsel (ac Ewrop) gyda’r nod o hyrwyddo diwylliant a hanes Cymru. Mae hyn yn rhywbeth rwyf i’n ei fwynhau ac yn hapus iawn i fod yn rhan ohono fel Cymro. Hefyd yn rhan o fy ngwaith rwy’n cael gweld y mentrau cyffrous mae Cymru’n rhan ohonyn nhw ar lefel Ewropeaidd, fel menter Vanguard. Rydym ni’n cael llawer o ymwelwyr o Gymru yma yn Swyddfa UE Llywodraeth Cymru ym Mrwsel, yn enwedig gweinidogion, ac rwyf hefyd yn gweithio ar drefnu’r ymweliadau hyn a threfnu cyfarfodydd.

Fel rhan o fy swydd rwyf i’n mynd i lawer o ddigwyddiadau a derbyniadau ym Mrwsel, sy’n wych ar gyfer ehangu fy rhwydwaith proffesiynol personol. Yr hyn rwy’n ei fwynhau hefyd yw gallu cymhwyso fy ngwybodaeth o theori gysylltiadau rhyngwladol, a ddysgais yn yr adran, yn y byd real yma ym Mrwsel. Mae hyn yn arbennig o wir ar y foment hollbwysig hon o ran cysylltiadau’r DU/UE. Ymhellach, rwyf i’n wirioneddol fwynhau gweithio ym Mrwsel oherwydd gallaf ddefnyddio fy sgiliau iaith Cymraeg, Ffrangeg, Daneg a Saesneg.

Cyngor i fyfyrwyr sy’n gobeithio dilyn yr un llwybr gyrfa?

Rwy’n credu ei bod yn bwysig manteisio ar y gwasanaethau gyrfaoedd yn ogystal â chyfleoedd eraill o’ch cwmpas i ddatblygu eich sgiliau a gwella eich cyfleoedd cyflogaeth. Yn bersonol, caniataodd gwaith gwirfoddol fi i wella fy sgiliau cyfathrebu a threfnu a gweithio gyda phynciau oedd yn berthnasol i fy astudiaethau meistr er gwaethaf y ffaith nad oeddwn mewn cyflogaeth ffurfiol. Mae ieithoedd bob amser yn gaffaeliad cryf ac mae hyn yn arbennig o wir os ydych chi am weithio’n rhyngwladol. Bydd dysgu naill ai Ffrangeg neu Almaeneg yn arbennig o ddefnyddiol i unrhyw waith sy’n gysylltiedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Fred Mackereth - BSc Econ Gwleidyddiaeth Ryngwladol (2016)

BSc Econ Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Graddiodd yn 2016. Ar hyn o bryd yn gweithio i’r Human Relief Foundation yn Swyddog Rhaglenni.

Pam ddewisoch chi astudio yn Aberystwyth a beth yw eich atgofion gorau o astudio yma?

Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth yw un o’r goreuon trwy’r byd, felly roedd y penderfyniad i astudio yno’n amlwg. Mae awyrgylch cyfeillgar, cymunedol yna sy’n amlwg ar unwaith o’r diwrnod agored. Byddwn i o ddifrif yn argymell astudio yma. Dyw hi ddim yn ormodiaith dweud mai fy astudiaethau yn Aberystwyth osododd sylfeini fy ngyrfa. Yn ystod fy nghyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth y dysgais feddwl yn feirniadol, dadansoddi gwybodaeth a ffynonellau, a throi hyn yn ddadleuon cydlynol a rhesymegol. Mae hyn yn dawn hanfodol yn unrhyw waith sy’n cynnwys cynllunio prosiectau ac mae wedi bod yn amhrisiadwy. Un o fy hoff bethau am astudio yn yr adran hon oedd y gallu i fynd i ddarlithoedd a seminarau bob wythnos a chael fy nysgu a fy herio gan rai o’r meddyliau gorau yn y maes.

Sut mae eich gyrfa wedi datblygu ar ôl gadael Aberystwyth?

Rwyf i’n gweithio yn y ‘sector’ cymorth dyngarol, sy’n enwog am fod yn anodd mynd iddo ar ôl graddio. Ar ôl un neu ddau o interniaethau a chyfweliadau aflwyddiannus am swyddi, cefais fy mhenodi’n Gynorthwyydd Rhaglenni gyda Human Relief Foundation. Ar ôl chwe mis cefais fy nyrchafu’n Swyddog Rhaglenni, ac rwyf bellach yn gyfrifol am ddatblygu amrywiaeth eang o brosiectau ar draws cyd-destunau dyngarol gwahanol. Hanfod fy ngwaith yw datrys problemau. Mae’n golygu dadansoddi sefyllfa, nodi’r broblem ac yna ddarparu datrysiad gobeithio. Elfen allweddol o fy swydd hefyd yw gallu ysgrifennu a chyfathrebu’n glir a rhesymegol ag amrywiaeth o wahanol randdeiliaid. Rwy’n cael teithio’n rheolaidd i lefydd diddorol ac annhebygol, rhywbeth sydd, mae’n siŵr, yn denu’r rhan fwyaf sy’n gweithio yn y sector. Ond rhan fwyaf boddhaus fy swydd yw gweld gweithrediad ac effaith y prosiectau rwyf i wedi helpu i’w datblygu a sicrhau cyllid ar eu cyfer.

Cyngor i fyfyrwyr sy’n gobeithio dilyn yr un llwybr gyrfa?

Peidiwch ag anobeithio! O’r tu allan gall y sector ymddangos yn amhosibl mynd iddo, ond os ydych chi’n gweithio’n galed ac yn dyfalbarhau, fe gyrhaeddwch yn y pen draw.