Yr Athro Louise Richardson - ‘A Hundred Years’ Crisis? In defence of globalism and International Relations’

Bydd Is-Ganghellor Prifysgol Rhydychen yn traddodi darlith gyhoeddus  ‘A Hundred Years’ Crisis? In defence of globalism and International Relations’ ym Mhrifysgol Aberystwyth 6.30pm, ddydd Iau 7 Chwefror 2019, ym mhrif neuadd adeilad yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Mae’r Athro Louise Richardson, a hyfforddodd fel gwyddorydd gwleidyddiaeth, yn arbenigo mewn diogelwch rhyngwladol gyda phwyslais ar fudiadau terfysgol, ac fe’i cydnabyddir yn eang fel un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw’r byd ym maes terfysgaeth a gwrthderfysgaeth.

Mae'r darlith yn rhan o Gyfres Siaradwyr Canmlwyddiant  sy'n dathlu canmwlyddiant sefydlu'r yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyntaf erioed ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Am yr Athro Louise Richardson:

Penodwyd yr Athro Richardson yn Is-Ganghellor Prifysgol Rhydychen ym mis Ionawr 2016, ar ôl bod yn Brifathro ac Is-Ganghellor Prifysgol St Andrews am saith mlynedd. Mae wedi ysgrifennu’n eang ar derfysgaeth ryngwladol, polisi tramor a pholisi amddiffyn Prydain, sefydliadau diogelwch a chysylltiadau rhyngwladol. Mae ei chyhoeddiadau yn cynnwys Democracy and Counterterrorism: Lessons from the Past (2007), What Terrorists Want: Understanding the Enemy, Containing the Threat (2006), The Roots of Terrorism (2006), a When Allies Differ (1996).

Mae wedi darlithio ar bwnc terfysgaeth a gwrthderfysgaeth i grwpiau cyhoeddus, proffesiynol, cyfryngau ac addysg ledled y byd, gan weithio ar fyrddau golygyddol nifer o gyfnodolion a gweisg. Mae wedi ennill sawl gwobr am ei gwaith, gan gynnwys Gwobr Sumner am waith sy’n ceisio atal rhyfel a sefydlu heddwch byd-eang.