Yr Athro Michael Cox - ‘E H Carr: Nationalism and the Nation-State in an Age of Crisis’

Ar 4 Rhagfyr 2018, croesawodd yr Adran yr Athro Michael Cox fel y nesaf yn ein Cyfres Siaradwyr Canmlwyddiant. Yr Athro Cox yw Cyfarwyddwr LSE IDEAS ac Athro Emeritws Cysylltiadau Rhyngwladol yn LSE. E. H. Roedd Michael Cox yn Athro yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth rhwng 1995 a 2001. Roedd y darlith goffa yn berthnasol iawn o ystyried y digwyddiadau ddiweddar. Enw’r sgwrs oedd ‘E. H. Carr: Nationalism and the Nation State in an Age of Crisis’. Dechreuodd y ddarlith gyda bywgraffiad byr o Carr. Fe cafodd Carr Gadair Woodrow Wilson yn yr Adran o 1936 i 1947. Ysgrifennodd sawl llyfr, megis ‘The Twenty Years Crisis’. Cynhaliodd ymchwil arloesol i ffenomen gymhleth cenedlaetholdeb. Dangosodd yr Athro Cox sut a pham y bu Carr yn gadarn yn erbyn tueddiadau cenedlaethol, gan weld y rhain yn ddinistriol ac yn wrthgynhyrchiol i'r nod pennaf o heddwch rhyngwladol trwy undeb gwleidyddol ac economaidd.

 

Gweler fideo o'r darlith yma:

https://www.youtube.com/watch?v=PjHs3am4ED0