Miss Maria Da Costa

Proffil
Dyddiad ymuno a swydd flaenorol
Ymunodd Maria â RBI ym mis Mehefin 2022. Cyn hynny roedd wedi gweithio fel cydymaith ymchwil ar gyfer meithrin gallu yn YBA.
Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol
Ymhlith pethau eraill, helpodd i hyrwyddo partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth er mwyn cynyddu datblygiad busnes yn y brifysgol.
Addysg a phrofiad gwaith
Cyn dechrau yn y swydd hon, cwblhaodd Maria BSc (Anrh) mewn Gwyddor Ceffylau ym Mhrifysgol Hartpury, ac yna MSc mewn Gwyddor Ceffylau ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ogystal, yn ystod ei hastudiaethau, bu ganddi nifer o swyddi yn y sectorau manwerthu a lletygarwch.
Profiad a gwybodaeth
Mae astudiaethau Maria a'i phrofiadau gwaith blaenorol wedi rhoi sgiliau cryf iddi mewn rheoli amser a threfnu. Yn ogystal, mae ei rolau blaenorol mewn lletygarwch wedi gwella ei sgiliau wyneb yn wyneb a’i galluoedd cyfathrebu.
Prif gyfrifoldebau o fewn YBA
Mae Maria yn darparu cymorth gweinyddol ac yn cyflawni dyletswyddau Cynorthwy-ydd Personol ar gyfer holl faterion y CAYC
Rhan fwyaf pleserus o weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth
Hoff ran Maria o'r swydd hon yw dod i adnabod y gwahanol fathau o brosiectau ac ymchwil sy'n digwydd yn y brifysgol. Yn ogystal, mae hi'n mwynhau gweithio gyda'r bobl yn ei hadran.