Jack Davies

 Jack Davies

Postgraduate

IBERS

Manylion Cyswllt

Proffil

Mae gennyf BA mewn Bioleg o Brifysgol Rhydychen ag MSc mewn Geneteg Planhigion a Gwelliant Cnydau o Brifysgol East Anglia. Rwyf nawr yn astudio am PhD yn Aberystwyth, wedi'w gyllido gan y Bartneriaeth Hyfforddi Ddoethurol 'BBSRC FoodBioSystems'.

Mae fy mhrosiect ar y gymunedau bacteria mewn hadau planhigion. Mae llawer o'r bacteria yma wedi'w ddangos i fod yn fuddiol i'r planhigyn. Ond nid ydym yn deallt i ba raddau mae'r cymunedau microbaidd mewn hadau yn newid dros amser a dros genedlaethau planhigion. Rwyf yn bwriadu defnyddio'r hadau sydd wedi'w storio yn y Biofanc Hadau yn Aberystwyth, er mwyn darganfod faint mae'r gymunedau bacteriol wedi newid dros degawdau o fridio cnydau yn IBERS. Fyddai hefyd yn ymchwilio os oes cydberthynas rhwng oed yr hadau a'r bioamrywiaeth yn y gymunedau bacteriol, gan ei fod yn bosib nad fod rhai bacteria yn gallu oroesi mor hir a'r hadau eu hunain. Yn ystod pob rhan o'r prosiect, fyddai'n ceisio ynysu bacteria o'r hadau, ac wedyn yn profi os oes ganddyn nodweddion all helpu gwella tyfiant cnydau.

Byddaf yn canolbwyntio yn bennaf ar rygwellt parhaol (Lolium perenne), ceirch (Avena sativa) a'r cnwd ynni Miscanthus. Mae pob un o'r cnydau glaswellt yma wedi cael eu bridio am flynyddoedd yn IBERS ac maent wedi cael eu gwella i raddau gwahanol iawn, sy'n galleuogi camhariaethau diddorol rhyngthynt.