IBERS i gadw llygad ar y geiniog yn Sheep 2008

Dangos i ffermwyr a bugeiliaid sut y gall hwsmonaeth ac ymarferion da liniaru rhyw ychydig ar y costau cynyddol yn sgil y codiad diweddar ym mhris olew fydd y neges yn Sheep 2008 ym Malvern ddydd Mercher Gorffennaf 30. Bydd stondin Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth (IBERS) yn tynnu sylw at opsiynau cnydio i ffermwyr,  rheolaeth da byw yn ystod y gaeaf a meincnodi porthiant, hyn oll i gyd wedi ei anelu at leihau costau. Caiff ffermwyr hefyd gyfle i ystyried opsiynau ar gyfer neilltuo eu tiroedd ar gyfer cynhyrchu biodanwydd.

“Mae ffermwyr ledled y wlad wedi bod yn rhegi o dan eu hanadl y cynnydd diweddar mewn costau bwydydd anifeiliaid, tanwydd a gwrtaith,” yn ôl Charlie Morgan, Swyddog Ymestyn Canolfan Datblygu Tir Glas IBERS yng Nghanolfan Ymchwil Bronydd Mawr ger Trecastell.

“Mae ffermwyr a bugeiliaid fel ei gilydd yn chwilio am ffyrdd i leihau eu costau a datblygu ffyrdd gwahanol o greu incwm o’u tiroedd.”

Gall systemau defaid yn yr ucheldiroedd sy'n ŵyna yn naturiol yn y gwanwyn gynhyrchu ŵyn wedi eu pesgi oddi ar borfa a phorthiant naturiol yn effeithlon ac mewn modd cost effeithlon, yn ôl IBERS sy'n cytuno fod porthiant anifail yn llawn mor bwysig, os nad yn fwy felly na'i eneteg.

 “Porfa a meillion o ansawdd da yw'r allwedd sy'n datgloi potensial genetig eu stoc yn ôl Charlie Morgan. "Pan fydda’ i yn gofyn i ffermwyr beth sydd ei angen i gynhyrchu oen o safon, yr ateb bron yn ddieithriad yw - hwrdd da. Fodd bynnag, dim ond un darn, ac o bosibl y darn ola' yn y jig-so yw hwn. Mae sawl ffermwr yn siomedig gyda hyrddod sydd â'i mynegai wedi eu cofnodi, a heb gael fawr ddim mewn perfformiad ychwanegol allan o'r anifeiliaid yma.”

"Mae dietau cost-effeithiol o safon wedi eu seilio ar borfa a meillion yn galluogi anifeiliaid i gyrraedd eu potensial uwch - ‘dyw bwydydd sâl ddim yn galluogi hyn i ddigwydd. Mae'n holl bwysig felly fod y ffermwr yn mabwysiadu'r broses gyflawn o gynhyrchu stoc o ansawdd da ac yn edrych ar y nifer o wyn a gynhyrchir gan bob dafad, cilogramau o gig oen a gynhyrchir yn ôl yr hectar yn ogystal â'r costau sy'n cynnwys llafur.”

Gall mathau newydd o feillion a chodlysiau eraill gynnig protein sy’ wedi ei dyfu ar y fferm a thrwy hynny ychwanegi at fioamrywiaeth a lleihau'r galw am fwydydd drud sy’n gorfod cael ei brynu i mewn. Mae gan feillion y gallu i ddal nitrogen atmosfferig, a thrwy hynny leihau'r gofynion am nitrogen o wrtaith sydd ei angen mewn glaswelltir cymysg. Yn bendant, fe all codlysiau megis million coch gyfrannu’n sylweddol at leihau'r galw am wrtaith a phorthiant gaeaf. Gall fod yna hefyd bosibiliadau i ffermwyr gynhyrchu porthiant o lafuriau a dyfir ar y fferm.

Mae gwneud gwell defnydd o borfa yn uchel ar agenda IBERS ac mae’r amrywiaethau diweddar o borfeydd ‘uchel mewn siwgr’ a gynhyrchir yn Aberystwyth yn helpu anifeiliaid i wneud y gorau o’r protein sydd mewn porfa yn fwy effeithlon a thrwy hynny yn lleihau'r perygl o lygredd.

 “Bydd ein rhaglenni bridio porfeydd a million yn cynhyrchu amrywiaethau newydd sydd â’r potensial i leihau lledaeniadau nwyon tŷ gwydr, ac mae hyn wrth wraidd ein hymdrechion presennol yn IBERS,” medd Mike Abberton, sy’n arwain rhaglen Bridio Planhigion y Fridfa. 

Gall rheolaeth fanwl o ddom a’r defnydd dewisol o wrteithiau cemegol leihau costau ar y fferm a lleihau llygredd, ac fe fydd IBERS hefyd yn Sheep 2008 yn tynnu sylw at feincnodi porthiant. Mae hyn yn cynnwys dadansoddi pridd, gwrteithiau, llystyfiant, a phorthiant sy’n cael ei gadw ar gyfer y gaeaf fel y bo ffermwyr yn medru gwneud gwell defnydd o’u hadnoddau a bwydo’u stoc yn fwy effeithlon.

Gall gwahanol opsiynau rheoli helpu ffermwyr Cymru i dorri’n ôl ar eu costau hefyd yn ôl Heather McCalman, Rheolydd Canolfan Datblygu Tir Glas IBERS sydd a’u thîm wedi bod yn gweithio ar nifer o’r opsiynau cnydio ar y rhwydwaith o Ffermydd Arddangos Cyswllt Ffermio. 

“Gallant ystyried dorri’n ôl ar y gost o letya anifeiliaid sy’n cynnwys ymestyn y tymor pori, defnyddio llwyfannau wedi eu gorchuddio a sglodion pren, pori cnydau porthiant gaeaf a gaeafu oddi ar y fferm. Bwriad hyn i gyd yw helpu ffermwyr i edrych ar ddewisiadau amgenach na chadw anifeiliaid mewn siediau yn ystod y gaeaf ac i asesu'r arbediadau posibl mewn costau ar gyfer y fferm,” meddai.
Gydag elw ar systemau da byw yn tynhau a thynhau mae yna hefyd gymhelliad go iawn i ffermwyr i ystyried defnyddiau amgenach i’w tiroedd. Mae tyfu cnydau biomas yn gyfle gwych iddyn nhw i odro marchnad mewn ynni sy’n prysur gynyddu a thrwy hynny ddarparu ffrwd incwm ychwanegol i’r fferm.

Mae’r cynllun Helyg i Gymru (Willow for Wales), a gychwynnwyd yn 2004 ac sy’n cael ei arwain gan IBERS, wedi dangos y gellir tyfu prysgwydd helyg cylchdro byr yn llwyddiannus ar draws y wlad. Mae’r cynllun bellach yn ei flwyddyn olaf ac wrth i’r cnydau gael eu cynaeafu, bydd tyfwyr yn medru manteisio ar farchnad gref mewn sglodion pren. Bydd y canlyniadau diweddaraf o’r cynllun hwn ar gael ar stondin IBERS. 

Estynnir croeso i ffermwyr i ymweld â’r stondin ac i dderbyn taflenni pwrpasol oddi wrth staff IBERS a fydd yn canolbwyntio ar brofiadau'r system ddefaid arddangos sy'n cael ei rhedeg fel uned annibynnol o fewn Canolfan Ymchwil Bronydd Mawr. 

“Caiff ffermwyr ddysgu sut y mae'r system ddefaid arddangos wedi tynnu ar ymchwil IBERS er mwyn datblygu safon sy'n dangos yn glir sut y gellir, trwy gyfuno ymarferion gorau rheolaeth maethynnau pridd gyda'r defnydd effeithlon o borfeydd a meillion o safon, sicrhau fod hyrddod o fynegai uchel wedi eu cofnodi yn cyrraedd eu potensial llawn a chynyddu yn sylweddol ar y cynnyrch.”
Swyddogaeth y Ganolfan Datblygu Tir Glas, sy’n chwarae rhan flaenllaw yn rhaglen Cyswllt Ffermio Llywodraeth Cynulliad Cymru, yw dod â chanlyniadau ymchwil fel y rhain i sylw ffermwyr mewn digwyddiadau megis Sheep 2008. 

Gyda phwysau cynyddol ar diroedd ar gyfer bwyd a chynhyrchu tanwydd ochr yn ochr â'r galw cynyddol ar draws y byd am gynnyrch cig a llaeth, mae'r amser yn briodol i amaethyddiaeth yn y DU i fedi cynhaeaf datblygiadau gwyddonol newydd ble mae IBERS yng Nghymru yn cyflawni swyddogaeth mor bwysig,” medd Charlie Morgan.

Nodiadau i Olygyddion:

Mae prosiect Defaid yr Ucheldiroedd yng Nghanolfan Ymchwil Bronydd Mawr ac sy'n cael ei ariannu gan Cyswllt Ffermio, yn dangos gwerth ymarferion gorau wrth gynhyrchu ŵyn ar gyfer y farchnad sy'n mynnu gwerth ychwanegol. Mae'r system yn dangos sut y gellir defnyddio technoleg fodern i gynhyrchu ŵyn wedi eu pesgi oddi ar borfa a phorthiant mewn modd effeithiol a chost-effeithlon. Un o amcanion y system ddefaid a gostiwyd yn llawn yw cynllunio system gynhyrchu broffidiol o dan amodau dadgyplu cymorthdaliadau.

Lleolir IBERS, Prifysgol Aberystwyth ar stondin 163 yn Neuadd Avon, Maes Sioe’r Tair Sir ym Malvern, Worcs.

Cyswllt: Charlie Morgan, Swyddog Ymestyn Canolfan Datblygu Tir Glas (GDC) ar  01874 636480 neu cqm@aber.ac.uk

Emma Shipman, Swyddog Cyhoeddusrwydd a Digwyddiadau, IBERS, Prifysgol Aberystwyth, Gogerddan, Aberystwyth. Ffôn 01970 823002 neu e-bostiwch  eos@aber.ac.uk