Amdanom Ni
IBERS yn ganolfan ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol
Mae Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ( IBERS ) yn ganolfan ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol a sydd yn darparu sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol o genynnau a moleciwlau i organebau a'r amgylchedd.
Ym mis Ionawr 2018 gwnaethom dderbyn Achrediad Cymdeithas Frenhinol Bioleg ar gyfer 20 o'n cyrsiau biowyddoniaeth israddedig. Yn ogystal, mae 5 o'n cyrsiau Meistr Integredig wedi derbyn statws Achrediad Uwch dros dro Cymdeithas Frenhinol Bioleg (a ddaw yn Achrediad Uwch pan fydd y garfan gyntaf o fyfyrwyr o gyrsiau gradd MBiol yn graddio yn haf 2018).
Mae IBERS yn derbyn cyllid ymchwil strategol gan y Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC) i gefnogi ymchwil a yrrir gan genhadaeth tymor hir, ac mae'n aelod o Sefydliad Cenedlaethol y Biowyddorau. Mae IBERS yn elwa hefyd o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru , DEFRA a'r Undeb Ewropeaidd.
Gyda dros 300 o aelodau o staff , IBERS yw'r Athrofa fwyaf o fewn Prifysgol Aberystwyth, gan addysgu dros 1,000 o fyfyrwyr israddedig a mwy na 150 o fyfyrwyr ôl-raddedig, ac mae'n gartref i Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion, a Chanolfan Ragoriaeth ar gyfer Bioburo BEACON - partneriaeth rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor a Abertawe, a Phrifysgol De Cymru.
Dyfarnwyd gwobr “Excellence with Impact” Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC) i IBERS yn 2011.
MaeIBERS yn gweitho gyda phartneriaid academaidd a diwydiannol, yn datblygu a chyfieithu ymchwil biowyddoniaeth arloesol a chanfod atebion i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd, clefydau planhigion ac anifeiliaid, a darparu ynni adnewyddiadwy a sicrwydd bwyd a dwr. Cael gwybod mwy am y effaith economaidd a chymdeithasol IBERS.