Neges Fisol Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd (2015)

I weld negeseuon Misol Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd y gorffennol, dewiswch o'r tabiau canlynol:

Rhagfyr

Holly PictureAr yr adeg hon o’r flwyddyn mae cartrefi’n aml yn cael eu haddurno â goleuadau, addurniadau a chanhwyllau. Gyda gofal a sylw priodol, mae addurniadau a goleuadau’n ddiogel i’w defnyddio. Gallwch gymryd rhai camau syml i sicrhau Nadolig diogel:

Ystyriwch y canlynol ar gyfer unrhyw addurniadau sy’n cael eu prynu neu’u defnyddio i addurno adeiladau’r Brifysgol:

  • Ni chaniateir coed Nadolig go iawn. Mae’r ddolen ganlynol yn dangos y cyflymdra y gall tân mewn coeden Nadolig go iawn ledaenu: https://www.youtube.com/watch?gl=US&hl=uk&v=o2dNN2waoSw.
  • Peidiwch â rhoi coed Nadolig ger allanfeydd neu ddiangfeydd tân, lle gallent achosi perygl tân neu faglu.
  • Rhaid i unrhyw goed Nadolig neu addurniadau eraill sydd â chyflenwad trydanol basio prawf offer cludadwy.
  • Rhaid i bob addurn megis tinsel a garlantau fod â deunydd gwrthdan arnynt.
  • Cymerwch ofal wrth osod cardiau Nadolig ac addurniadau i beidio â gorchuddio tyllau awyru mewn offer trydanol.
  • Rhaid adolygu eich asesiad risg er mwyn penderfynu a yw’r mesurau rheoli presennol yn dal i fod yn ddigonol.

Mae’r Gwasanaethau Tân Lleol hefyd yn awgrymu’r canllawiau canlynol er mwyn sicrhau Nadolig mwy diogel yn y cartref:

  • Gwiriwch fod gan y goleuadau ar eich coeden Nadolig arwydd Safon Diogelwch Prydeinig.
  • Peidiwch byth â gosod canhwyllau wrth ochr eich coeden Nadolig neu unrhyw ddeunyddiau a all losgi’n hawdd.
  • Profwch eich larymau mwg bob mis, a dim ond tynnu’r batris pan fyddwch yn eu newid.
  • Mae’r rhan fwyaf o danau yn dechrau yn y gegin. Osgowch adael y gegin pan fo’r popty ymlaen ac osgowch goginio os ydych chi wedi bod yn yfed alcohol.
  • Gall addurniadau losgi’n hawdd – peidiwch â’u glynu wrth oleuadau neu wresogyddion.
  • Cadwch ganhwyllau, tanwyr a matsis allan o gyrraedd plant, a pheidiwch byth â gadael yr ystafell os bydd cannwyll yn llosgi.
  • Peidiwch â gorlwytho socedi trydan. Diffoddwch y goleuadau Nadolig a’u tynnu o’r plwg cyn mynd i’r gwely.
  • Cymerwch ofal o amgylch tanau agored oherwydd gallai eich dillad fynd ar dân.
  • Sicrhewch fod yr holl fwyd wedi’i goginio’n drylwyr i osgoi’r risg o wenwyn bwyd. Dylech goginio twrci nes bod y cig yn chwilboeth drwyddo, ni ddylai unrhyw ran o’r cig fod yn binc, a dylai’r suddion redeg yn glir.

Gan ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gan y Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.

Tachwedd

Noson Tân Gwyllt Ddiogel i chi! Ystyriwch fynychu digwyddiad wedi’i drefnu yn hytrach na pheryglu eich diogelwch drwy gael eich coelcerth eich hunain.

Ond os ydych chi’n dal i fod eisiau eich coelcerth eich hun…….

Sicrhewch eich bod yn ymwybodol o’r canllawiau canlynol:

  • Dylai coelcerthi fod 18 metr i ffwrdd o adeiladau, coed, ffensys, gwifrau uwchben a meysydd parcio. Dim ond coed glân a sych y dylid eu llosgi.
  • Peidiwch â llosgi: erosolau, batris, boteli, dodrefn sydd wedi’u llenwi â sbwng; tuniau paent, teiars.
  • Ni ddylai coelcerthi fod yn fwy na 3 metr mewn uchder. Dylid rhoi rhwystr addas o amgylch y goelcerth i gadw gwylwyr 5 metr i ffwrdd.
  • Peidiwch â defnyddio’r canlynol i gynnau coelcerth: Petrol, paraffin, disel, gwirod gwyn neu wirod methyl.
  • Defnyddiwch danwydd addas yn lle!
  • Sicrhewch nad oes plant nag anifeiliaid yn cuddio yn y goelcerth cyn ei chynnau.
  • Cadwch fwcedi o ddŵr yn agos rhag ofn bod argyfwng ac i wlychu popeth ar ddiwedd y digwyddiad.
  • Caiff coelcerthi a adeiledir ar dir cyngor heb ganiatâd eu dileu.

CÔD DIOGELWCH TÂN

  • Yn ddelfrydol, ewch i ddigwyddiad wedi’i drefnu.
  • Ni ddylid gwerthu tân gwyllt i unrhyw un o dan 18 mlwydd oed.
  • Prynwch dân gwyllt wedi’u marcio â BS 7114 neu CE.
  • Cadwch dân gwyllt mewn blwch metel wedi’i gau.
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau ar bob tân gwyllt.
  • Rhaid eu cynnau o hyd braich gan ddefnyddio tapr.
  • Sefwch ddigon pell yn ôl.
  • Peidiwch â dychwelyd at dân gwyllt sydd wedi’i gynnau.
  • Peidiwch â rhoi tân gwyllt yn eich poced.
  • Cadwch fwced o ddŵr yn agos os ydych yn tanio tân gwyllt yn yr ardd.
  • Peidiwch â thaflu tân gwyllt.
  • Cadwch anifeiliaid anwes tu fewn.
  • Nid yw alcohol a thân gwyllt yn cymysgu a gall arwain at anaf.

Hydref

Mae llawer o bobl yn edrych ymlaen at ddiod haeddiannol ar ddiwedd diwrnod caled neu fel gwobr ar ôl gorffen yr wythnos waith. Ond gall yfed gormod yn rhy reolaidd gael goblygiadau difrifol ar eich iechyd a’ch lles. Mae’n siŵr eich bod yn ymwybodol erbyn hyn o ganllawiau’r GIG ar gyfer faint y dylech chi ei yfed. Ni ddylai dynion yfed mwy na 3-4 uned y dydd ac argymhellir y dylai merched yfed rhywfaint yn llai, sef 2-3 uned. Un peth yw ystyried “unedau” ond sawl uned sydd yn eich diod arferol? Am Gyfrifydd Unedau Drink Aware, cliciwch yma.

Mae’r rhan fwyaf o bobl, ar ryw adeg, wedi bod yn euog o yfed gormod o dro i dro. Argymhellir, ar ôl sesiwn o yfed trwm (mwy nag 8 uned) eich bod yn rhoi amser i’ch corff adfer ei hun, mae cyfnod o 48 awr yn galluogi i’ch corff wneud hynny.

Yn ogystal â’r pen mawr sy’n gysylltiedig â noson drom o yfed mae nifer o risgiau iechyd a chymdeithasol eraill y dylech fod yn ymwybodol ohonynt.

  • Er bod alcohol yn gallu eich helpu i ymlacio a theimlo’n fwy cymdeithasol, gall yfed gormod wneud i chi deimlo allan o reolaeth a’ch arwain i wneud pethau y byddwch yn eu difaru. Dyma rai o’r sgil effeithiau anffafriol: siarad yn aneglur, colli cydbwysedd a chyfog
  • Mae alcohol yn effeithio ar yr ymennydd. Gan weithio fel iselydd mae’n arafu cyflymder ymateb ac yn amharu ar eich barn; a all eich arwain i drwbl ac efallai i sefyllfaoedd ymosodol. Mae swyddfa’r Ystadegau Cenedlaethol wedi cyhoeddi bod 53% o’r holl droseddau treisgar a oedd yn cynnwys oedolion yn gysylltiedig ag alcohol. O’r rhain, roedd dynion bron ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwr trais.
  • Hefyd awgrymir bod alcohol yn ffynhonnell i broblemau o fewn perthynas, rydych chi’n fwy tebygol o ddadlau â pherthynas agos ar ôl bod yn yfed. Mae ymgynghorwyr perthnasau yn argymell na ddylech drafod materion os ydych chi wedi bod yn yfed, ac yn hytrach i adael y peth nes bod y ddau ohonoch yn sobr.

Nid oes raid i chi fod yn yfwr trwm na’n alcoholig i ddioddef effeithiau tymor hir alcohol. Gall yfed mwy na’r canllawiau safonol arwain at nifer o broblemau iechyd, gall rhai o’r rhain gael effaith fawr ar eich bywyd. Mae’r rhain yn cynnwys: risg uwch o gancr, difrod i’r iau a’r arennau, pwysau gwaed uchel, blinder, anhunedd, iselder a phroblemau rhywiol. Beth bynnag fo’ch rhyw, oedran neu faint corfforol, does neb yn imiwn i effeithiau alcohol. Rhaid i chi fod yn ymwybodol o’r ffeithiau cyn yfed i sicrhau nad yw eich noson allan yn difetha’ch bywyd. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth dilynwch y dolenni isod.

http://www.nhs.uk/Livewell/alcohol/Pages/Alcoholhome.aspx

http://www.knowyourlimits.info/

https://www.drinkaware.co.uk/

Medi

Ar 3 Medi 2015, bydd Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yn Niwrnod Beicio i’r Gwaith, gan annog pawb i chwythu’r llwch oddi ar eu beiciau a beicio i’r gwaith am un diwrnod.

Nododd adroddiad gan y National Institute for Clinical Excellence (NICE) bedwar prif fudd i feicio:

  1. Mae beicio yn rhoi calon a system imiwnedd iachach i chi – Caiff beicio ei gysylltu â gwell ffitrwydd cardiofasgwlaidd, yn ogystal â lleihad yn y risg o glefyd y galon. Mae astudiaethau hefyd yn dangos y gall gweithgaredd cymedrol, megis beicio, gryfhau’r system imiwnedd a chynorthwyo i ymladd afiechydon.
  2. Gall beicio eich helpu i golli pwysau – Mae beicio yn fath o ymarfer aerobig ac yn ffordd arbennig o losgi calorïau. Y cyflymaf yr ydych chi’n beicio, y mwyaf o galorïau y byddwch chi’n eu llosgi – sy’n golygu mai chi sy’n dewis ar ba gyflymdra yr hoffech feicio. Mae beicio hefyd yn cynyddu eich metaboledd – hyd yn oed ar ôl gorffen beicio.
  3. Mae beicio yn tynhau eich cyhyrau – Mae beicio yn eich helpu i losgi calorïau ond mae hefyd yn tynhau eich cyhyrau. Yn rhan isaf eich corff mae beicio yn gweithio ar gyhyrau croth y goes, eich cluniau a’ch pen ôl; ac yn rhan uchaf eich corff mae’n rhoi ymarfer corff i’ch ysgwyddau a’ch breichiau hefyd. Mae beicio hefyd yn well i’ch cymalau na gweithgareddau effaith uchel megis rhedeg, ond mae’n dal i’ch helpu i dynhau eich cyhyrau.
  4. Mae beicio’n lleihau straen, salwch meddwl a phryder – Credir bod beicio’n rhoi teimlad o les i gyfranogwyr a dywedir hefyd ei fod yn lleihau pryder, iselder a phroblemau seicolegol eraill. Credir hefyd bod y symudiadau peirianwaith cloc ailadroddus yn cael effaith leddfol ar y corff.

Mae i feicio nifer o fanteision cymdeithasol ac amgylcheddol hefyd. Gwnaeth  adroddiad diweddar a gomisiynwyd gan Beicio Prydain nodi’r manteision posibl canlynol  pe bai’r DU yn troi’n genedl o feicwyr i’r graddau y mae’r Iseldiroedd neu Ddenmarc:

  • Byddai’r GIG yn arbed £17 biliwn o fewn 20 mlynedd;
  • Mae beicio yn arbed traean o’r lle ar y ffordd, o’i gymharu â gyrru i helpu i leihau tagfeydd;
  • Byddai newid 10% yn unig o siwrneion o gar i feic yn lleihau’r llygredd yn yr aer ac yn arbed 400 o flynyddoedd bywyd cynhyrchiol;
  • Mae parcio beiciau’n cymryd 8 gwaith yn llai o le na cheir, sy’n helpu i greu mwy o le.

Os ydych chi’n penderfynu cymryd rhan, ystyriwch y pwyntiau diogelwch canlynol:

  • Edrychwch y tu ôl i chi cyn troi, goddiweddyd neu stopio;
  • Defnyddiwch arwyddion breichiau cyn troi i’r chwith neu i’r dde;
  • Dilynwch arwyddion ffordd a goleuadau traffig;
  • Peidiwch â beicio ar y palmant heblaw bod arwydd yn dweud y gallwch wneud hynny;
  • Ar ffyrdd prysur neu gul, peidiwch â beicio drws nesaf i berson arall;
  • Wrth oddiweddyd ceir sydd wedi parcio, gwyliwch allan am ddrysau ceir yn agor yn sydyn a chaniatewch ddigon o le i basio’n ddiogel;
  • Peidiwch â defnyddio clustffonau wrth feicio;
  • Peidiwch byth â defnyddio ffôn symudol wrth feicio.

Hyd yn oed os na fyddwch chi’n gwisgo’r lycra, gallwch sicrhau eich bod yn cyfrannu tuag at ddiogelwch eraill drwy wylio’r fideo byr canlynol a gomisiynwyd gan y Gymdeithas Feicio a Beicio Prydain i egluro sut y gall gyrwyr oddiweddyd beicwyr yn ddiogel: https://www.youtube.com/watch?v=o9pmw2ckQSU

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: http://www.aber.ac.uk/en/supporting-staff/work/healthanddisability/health-wellbeing/cycle-to-work/.

Awst

Mae dau achos diweddar wedi pwysleisio pa mor bwysig yw sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd i baratoi, cynllunio a monitro ar gyfer gweithgareddau y bydd unigolion yn ymgymryd â nhw o dan ofal uniongyrchol neu anuniongyrchol y sefydliad, er mwyn sicrhau eu diogelwch.

Aeth darlithydd Prifysgol Bangor yn ddifrifol wael yn ddiweddar yn ystod ymweliad ymchwil â sefydliad yn Tsieina. Mae erthygl am yr achos ar gael gan y BBC yn: http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/33651374.

Mae’r digwyddiad yn adlewyrchu pwysigrwydd sicrhau fod gan sefydliadau drefn ar waith i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r lleoliadau a’r gweithgareddau y mae pob gweithiwr o fewn y sefydliad yn eu gwneud ar ran y gwaith. Disgwylir y bydd darpariaethau argyfwng a threfniadau ar gyfer achosion o salwch neu anafiadau wrth ymgymryd â'u gwaith, yn enwedig pan fyddant yn teithio neu mewn lleoliad i ffwrdd o'u gweithle, wedi’u cynnwys ym mhob asesiad risg ac wedi’u rhannu â’r unigolion priodol.

Yng Ngorffennaf 2015, cafodd asiantaeth recriwtio a drefnodd leoliadau gwaith i fyfyrwyr ei herlyn a'i dirwyo o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 am iddi weithio mewn ffordd a oedd yn rhoi pobl, heb fod yn ei chyflogaeth, mewn sefyllfa beryglus i’w iechyd a diogelwch, ar ôl marwolaeth un myfyriwr a oedd ar leoliad prentisiaeth a drefnwyd gan yr asiantaeth.

Mae gan y Brifysgol ddyletswydd gofal tebyg i sicrhau ei bod wedi cymryd pob cam ymarferol i sicrhau diogelwch eu myfyrwyr. Mae Eversheds International yn cynnig nifer o faterion i'w hystyried a chamau posib y gellir eu cymryd i leihau risg wrth drefnu lleoliadau gwaith myfyrwyr:

  • Adnabod y Darparwr – Ymchwilio i ddarparwyr lleoliadau posib er mwyn dod o hyd i unrhyw bryderon, a all gynnwys ymweliad â’r safle ac adolygiad o’u hanes iechyd a diogelwch. Gall sefydliadau ystyried creu rhestr o ddarparwyr lleoliadau cymeradwy.
  • Mynnu Adborth - Mae adborth yn cynnwys materion fel iechyd a diogelwch ar y safle; hyfforddiant a threfniadau cynefino; a darparu offer diogelu personol yn ôl yr angen. Gall adborth fod yn ddefnyddiol wrth bennu unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud yn syth er mwyn sicrhau fod unrhyw leoliad yn mynd yn ddidrafferth, neu wrth benderfynu dod â'r lleoliad i ben yn gynnar, neu benderfynu peidio ag argymell darparwr penodol yn y dyfodol.
  • Cadw Cofnodion – Sicrhewch fod y cofnodion ar bob darparwr wedi’u diweddaru ac, yn ddelfrydol, wedi’u cadw’n ganolog, yn enwedig os bydd gwahanol adrannau yn yr un sefydliad yn defnyddio’r un darparwr neu ddarparwyr.
  • Y Canlyniadau Posib – Mae canlyniadau torri deddfau iechyd a diogelwch yn gallu bod yn bellgyrhaeddol, a gellir cyflawni troseddau o dan y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch pan nad oes anaf wedi digwydd. Un o’r meini prawf wrth benderfynu ar faint dirwy yw trosiant ariannol y sefydliad. Mae sefydliad gyda throsiant o £50 miliwn neu fwy yn cael ei gyfrif yn un mawr, ac mae'r diffiniad hwnnw yn cynnwys llawer o brifysgolion a rhai colegau.

Mae cyngor Cymdeithas Cyflogwyr y Prifysgolion a'r Colegau (UCEA) ar iechyd a diogelwch ar gyfer  myfyrwyr addysg uwch sydd ar leoliadau ar gael yn: http://www.ucea.ac.uk/en/publications/index.cfm/HSplace

Cewch wybodaeth am y Cwrs Hyfforddi Asesiad Risg a gynigir gan adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd yn: https://www.aber.ac.uk/en/hse/training/risk-training/

Gallwch archebu lle ar y cyrsiau hyfforddi diweddaraf yn: https://stafftraining.aber.ac.uk/hs/list_courses.php   

Gorffennaf

Rydym ni gyd yn gobeithio am dywydd braf yr haf hwn, neu efallai’n teithio dramor i chwilio am dywydd poeth. Ond, er gwaethaf  atyniad y môr a’r tywod, mae’n bwysig cadw’n ddiogel. Mae Neges Fisol Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd mis Gorffennaf yn cynnig cyngor ynghylch sut i gadw’n ddiogel yn yr haul ac wrth ymweld â’r traeth.

Mae cancr y croen yn un o’r cancrau mwyaf cyffredin yn y DU, a gall gormod o haul gynyddu eich risg. Mae hefyd yn bwysig nodi nad yw difrod yr haul ond yn digwydd pan fyddwch ar eich gwyliau yn yr haul yn unig. Gall ddigwydd yn annisgwyl, er enghraifft pan fyddwch yn mynd am dro neu’n eistedd yn yr ardd.

Mae’r GIG yn argymell eich bod yn dilyn canllawiau SunSMART er mwyn lleihau’r posibilrwydd o achosi difrod i’r croen:

  • Treuliwch amser yn y cysgod rhwng 11yb a 3yp.
  • Sicrhewch nad ydych chi’n llosgi.
  • Ceisiwch wisgo crys T, het a sbectol haul.
  • Byddwch yn hynod o ofalus gyda phlant.
  • Defnyddiwch ffactor eli haul addas.

Dylai unigolion chwilio am gymorth proffesiynol i ddod o hyd i’r ffactor eli haul sy’n addas i chi.

Mae’r môr hefyd yn gallu bod yn beryglus iawn o ganlyniad i gerhyntau anrhagweladwy a llanw cyfnewidiol. Mae’r RNLI yn argymell y dylai unigolion ddilyn y canllawiau SAFE er mwyn cadw’n ddiogel ar y traeth:

  • Adnabyddwch y peryglon.
  • Ewch allan gyda ffrind neu oedolyn bob tro.
  • Canfyddwch a dilynwch yr arwyddion a’r fflagiau diogelwch.
  • Argyfwng – codwch eich llaw a gweiddwch neu ffoniwch 999/112.

Dyma gyngor defnyddiol arall i’w ystyried:

  • Nofiwch ar draeth sydd ag achubwyr bywyd;
  • Nofiwch rhwng y fflagiau coch a melyn;
  • Peidiwch â nofio ar eich pen eich hun;
  • Byddwch yn ymwybodol o’ch fflagiau diogelwch y traeth;
  • Peidiwch byth â defnyddio cychod gwynt mewn gwyntoedd cryf neu foroedd gwyllt;
  • Os ewch i drafferthion, codwch eich llaw yn yr awyr a gweiddwch am help;
  • Os gwelwch rywun mewn trafferth, dywedwch wrth achubwr bywyd. Os na allwch weld achubwr bywyd, ffoniwch 999 neu 112 a gofynnwch am wylwyr y glannau;
  • Casglwch wybodaeth am y traeth y byddwch yn ymweld ag ef cyn eich ymweliad;
  • Gwiriwch amseroedd y llanw cyn i chi fynd;
  • Yfwch ddigon o ddŵr trwy gydol eich amser ar y traeth;
  • Peidiwch ag yfed alcohol cyn mynd i’r môr;
  • Darllenwch a pharchwch arwyddion perygl lleol.

Gobeithiwn y byddwch yn ystyried y cyngor hwn wrth gynllunio eich gwyliau, ac y bydd o gymorth i chi gael haf arbennig, ymlaciol a diogel.

Am gyngor y GIG ynglŷn â diogelwch yn yr haul, gwelwch y dolenni canlynol:

http://www.nhs.uk/Livewell/travelhealth/Pages/SunsafetyQA.aspx

http://www.nhs.uk/Livewell/skin/Pages/Sunsafe.aspx

Cewch wybodaeth ynglŷn â diogelwch yn yr haul a sut i atal difrod gan yr haul drwy elusen Skcin ar:

http://www.skcin.org/

Am gyngor yr RNLI ynglŷn â diogelwch ar y traeth, ewch i’r ddolen ganlynol:

http://rnli.org/safety/respect-the-water/activities/at-the-beach/Pages/at-the-beach.aspx

Mehefin

Mae Arolwg Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd Prifysgol Aberystwyth yn awr yn agored i bob aelod o staff. Gwerthfawrogir eich amser a’ch amynedd i gwblhau’r arolwg byr er mwyn mesur agweddau a safbwyntiau’n ymwneud â iechyd, diogelwch a’r amgylchedd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

I gwblhau’r arolwg dilynwch y ddolen ganlynol: https://www.aber.ac.uk/cy/hse/hsesurvey/

Bydd gan aelodau staff gyfle i gwblhau’r arolwg hyd at y dyddiad cau ar Ddydd Mercher 17 Mehefin.

Bydd eich atebion yn werthfawr i gynorthwyo gyda datblygu strategaeth Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd newydd Prifysgol Aberystwyth. Bydd diddordeb arbennig yn unrhyw sylwadau sy’n ymwneud â’r ffordd y credwch y gellir gwella darpariaeth ac ystyriaethau iechyd, diogelwch a’r amgylchedd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ystyrir pob safbwynt a barn yn rhan o’r broses werthuso.

Ystyrir pob ymateb yn ddienw.

I gael unrhyw wybodaeth bellach yn ymwneud â’r Arolwg Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd, cysylltwch â’r tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ar hasstaff@aber.ac.uk neu ar estyniad 2073.

Mai

Tannau Gwair

Mae’r tymheredd cynnes a sych diweddar wedi annog lefel digyffelyb o dannau gwair, yn enwedig yng Nghymru. Rhwng 1af Ebrill a 15fed Ebrill 2015, galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) allan i 473 tân gwair, y mwyafrif ohonynt yn dannau a ddechreuwyd yn fwriadol. Ar 15fed Ebrill yn unig, galwyd GTADC allan at dros 50 o dannau gwair a ddechreuwyd yn fwriadol o fewn y cyfnod hwnnw o 24 awr.

Mae tannau gwair a mynydd yn arbennig o beryglus gan eu bod yn aml yn anrhagweladwy a gallant fynd allan o reolaeth o fewn munudau. Mae’r dirwedd serth yn gallu arwain at broblemau hygyrchedd sydd yn effeithio ar allu’r Gwasanaethau Tân ac Achub i ymdrin â thannau o’r fath. Ni ddylai unigolion geisio diffodd y tannau hyn eu hunan, ac fe’u hanogir i roi gwybod i’r awdurdodau am unrhyw ymddygiad amheus.

Gall tannau gwair arwain at ganlyniadau anuniongyrchol sylweddol, a gall olygu bod adnoddau’r Gwasanaethau Tân ac Achub yn cael eu dargyfeirio o ddigwyddiadau eraill a allai fod yn ddifrifol iawn. Ar 21ain Ebrill yn unig, derbyniodd Gwasanaethau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru 250 o alwadau 999 o ganlyniad i dannau gwair ledled y De Orllewin.

Dyma’r cyngor i bawb:

  • Ystyried canlyniadau cynnau tân yn fwriadol a’r effaith ar gefn gwlad a bywyd gwyllt;
  • Ystyried effaith tannau bwriadol ar eich cymunedau;
  • Ystyried yr effaith ar Ddiffoddwyr Tân a’u diogelwch, pan fônt yn ymateb i achosion o dannau bwriadol nid ydynt yn gallu ymateb i ddigwyddiadau eraill gan gynnwys tannau cartref a gwrthdrawiadau ar y ffordd;
  • Mae llosgi bwriadol yn drosedd. Gallwch helpu drwy ddarparu gwybodaeth neu ddisgrifiadau manwl er mwyn galluogi’r heddlu i arestio’r rheini sy’n gyfrifol;
  • Os ydych yn rhan o gynllun cymunedol, mae eich gwybodaeth yn amhrisiadwy, ac mae’r Gwasanaethau Tân ac Achub yn gofyn i chi barhau i roi gwybod am unrhyw weithgaredd amheus i Uned Troseddau Tân yr Heddlu.

Gofynnir i aelodau o’r cyhoedd hefyd i fod yn arbennig o ofalus wrth gael gwared ar sigaréts a deunydd ysmygu eraill yn agos i ardaloedd gwelltog, yn enwedig yn ystod cyfnodau o dywydd sych.

Cewch ragor o wybodaeth am dannau gwair drwy wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: http://www.mawwfire.gov.uk/Pages/Welcome.aspx

Ebrill

O 1af Ebrill, bydd Prifysgol Aberystwyth yn ddarparwr Hyfforddiant Awdurdodedig y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol / Institution of Occupational Safety and Health (IOSH). Ceir cydnabyddiaeth ryngwladol i gyrsiau IOSH ac fe’i ystyrir yn un o arweinwyr y farchnad am hyfforddiant iechyd a diogelwch.

Dros y misoedd nesaf bydd yr adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd yn cyflwyno cyrsiau ‘Gweithio’n Ddiogel’ a ‘Rheoli’n Ddiogel’. Cwrs undydd yw ‘Gweithio’n Ddiogel’ sy’n rhoi cyflwyniad i iechyd a diogelwch i bobl ar unrhyw lefel, yn unrhyw sector. Mae’n canolbwyntio ar arferion gorau, ac yn gofyn i unigolion ystyried pwysigrwydd iechyd a diogelwch yn y gweithle, a gofyn iddynt feddwl sut y gallent, drwy eu hymddygiad fel unigolion, wneud gwahaniaeth i iechyd a diogelwch.

Mae ‘Rheoli’n Ddiogel’ yn gwrs pum diwrnod i reolwyr ac arolygwyr, ac mae’n canolbwyntio ar y camau ymarferol sydd angen eu cymryd i reoli iechyd a diogelwch o fewn eu timau. Bydd y cwrs yn dangos sut mae ystyrion iechyd a diogelwch yn rhan angenrheidiol o swyddogaeth reolaethol neu arolygol.

Caiff gwybodaeth ynghylch cofrestru a dod ar un o’r cyrsiau hyn eu hanfon at unigolion perthnasol maes o law. I gael unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â’r adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ar hasstaff@aber.ac.uk.

Ceir gwybodaeth bellach yn ymwneud â’r cwrs ‘Gweithio’n Ddiogel’ trwy ddilyn y ddolen ganlynol: http://www.iosh.co.uk/Training/IOSH-training-courses/Working-safely-course.aspx 

Ceir gwybodaeth bellach yn ymwneud â’r cwrs Rheoli’n Ddiogel trwy ddilyn y ddolen ganlynol: http://www.iosh.co.uk/Training/IOSH-training-courses/Managing-safely-course.aspx

Mawrth

Rheoli Straen

Wrth i fywyd brysuro, bydd nifer o bobl yn dioddef effeithiau straen ar ryw adeg yn ystod eu hoes. Mae’n bwysig i unigolion fod yn ymwybodol o’r achosion a gallu adnabod symptomau straen (ynddyn nhw’u hunain ac eraill), a bod yn ymwybodol o ddulliau ymdopi sy’n addas ar gyfer pob unigolyn.

Cymerwch ychydig o funudau i gyfarwyddo â’r cyngor yn y cyflwyniad rheoli straen isod, a’r deg prif ddull o osgoi straen. Mae’r wybodaeth hefyd yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â gwahaniaethu rhwng gwahanol achosion a symptomau straen, yn ogystal â dangos ffyrdd anghywir o ymdrin â straen.

Efallai y dymunwch ychwanegu rhai o’r dulliau hyn at eich dull eich hun o ymdopi â straen a rhannu eich dulliau chi â chydweithwyr yn eich adrannau ac athrofeydd. Trwy rannu a thrafod ein profiadau a’n harferion ein hunain, gallwn gynorthwyo’n gilydd.

Chwefror

Gwylanod ar y Campws

Dechreuodd ein hymgyrch Chwefror â chyfres o sgyrsiau gan Hawksdrift Falconry ddiwedd y mis diwethaf. Mae’r sgyrsiau hyn yn rhoi cipolwg ar y dull o reoli poblogaeth y gwylanod ar gampws Penglais. Dros y misoedd nesaf, bydd Jasper a Hope, yr Hebogau, ar batrol gyda’r bwriad o symud y boblogaeth sy’n nythu yma yn eu blaen. Yn ogystal â hyn, mae angen eich cymorth chi ….

Gofynnwn ichi os gwelwch yn dda, i’n cynorthwyo gyda’n hymgyrch trwy wneud ymdrech ymwybodol i beidio â bwydo’r gwylanod. Mor ddeniadol ag yw, mae’n eu hannog i ddod yn rhy agos o lawer weithiau.

Diolch am eich cymorth!

Ionawr

Hoffai’r Adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ddymuno blwyddyn newydd hapus, diogel a llewyrchus i chi gyd.

I gyd-fynd â’r Flwyddyn Newydd ac unrhyw addunedau blwyddyn newydd, bydd digwyddiad Ffit ac Iach blynyddol y Ganolfan Chwaraeon yn rhedeg drwy fis Ionawr. Mae’r digwyddiad yn ceisio hyrwyddo a dathlu ffyrdd o wella iechyd a ffitrwydd drwy amrywiaeth o weithgareddau sydd yn cynnwys rhaglen lawn o ddosbarthiadau ‘Fit Together’, sesiynau galw heibio yn y gampfa i gael cyngor penodol ar gynllunio rhaglen, a chyfleoedd i fesur a phwyso gyda ‘Shape Up’.

Mae’r gweithgareddau eraill yn cynnwys rhoi gwybodaeth am faeth a heriau campfa lle bydd staff, myfyrwyr ac aelodau o’r gymuned leol yn gallu cystadlu mewn amrywiaeth o heriau.

Am ragor o wybodaeth am Ffit ac Iach 2015, cliciwch ar y ddolen ganlynol: http://www.aber.ac.uk/en/sportscentre/health/fitandwell/#d.en.77062

Mae’r NHS hefyd yn darparu gwybodaeth a chanllawiau ychwanegol am weithgareddau corfforol i oedolion, a cheir hyd i’r rhain ar: http://www.nhs.uk/Livewell/fitness/Pages/physical-activity-guidelines-for-adults.aspx

Ffit ac Iach yw’r diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau a gynhaliwyd ledled y Brifysgol i hyrwyddo Iechyd a Lles: http://www.aber.ac.uk/cy/supporting-staff/work/healthanddisability/health-wellbeing/