Hyby Iechyd Meddwl
Poeni am Iechyd Meddwl? Yn hystod eu bywyd, bydd 1 o bob 4 o bobl yn profi rhyw fath o broblem iechyd meddwl (NHS).
Siaradwch gyda rhywun am eu problemau iechyd meddwl
- Cymryd yr awenau: Os ydych yn gwybod fod rhywun wedi bod yn wael, peidiwch â bod ofn holi sut mae nhw.
- Osgoi ystrydebau: Peidiwch â defnyddio ymadroddion fel ‘Paid â bod yn ddigalon’, ‘Mae hyn yn sicr o basio’, ‘Rho drefn ar dy fywyd’ – fydd y rhain o ddim help i’r sgwrs! Byddwch yn feddwl-agored, peidiwch â barnu a byddwch yn barod i wrando.
- Holi sut y gallwch chi helpu: Bydd pobl angen cefnogaeth ar wahanol adegau a mewn gwahanol ffyrdd, felly holwch sut y gallwch chi helpu.
- Peidio osgoi'r mater: Os oes rhywun yn dod atoch i siarad, peidiwch â’u hanwybyddu, gan y gall hyn fod yn gam anodd i’w gymryd. Dylech gydnabod eu salwch a rhoi gwybod iddynt eich bod chi yno ar eu cyfer.
- Cadw mewn cysylltiad: Mae gweithredu’n bwysig hefyd, felly cadwch mewn cysylltiad gyda neges destun, e-bost neu gerdyn-post, a rhowch wybod i rywun eich bod chi’n meddwl amdanynt.
(o Gofal.pdf)
Am wybodaeth ar Faterion Iechyd Meddwl, gweler yr adnoddau defnyddiol isod.
Ar gyfer Weithdrefn y Brifysgol, ewch i: |
Adnoddau Defnyddiol
Cynghrair Iselder
Hunan-niweidio
MIND - Iechyd Meddwl yn y Gwaith
Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Prifysgol Aberystwyth
Iechyd a Lles
Mae maetheg, thrallod meddwl, gweithgaredd corfforol ac ystum corff yn elfennau pwysig yn nhermau lles corfforol a seicolegol.