Er mai'r aelod staff sy'n bennaf gyfrifol am wneud cais, bydd rhai cydweithwyr sydd naill ai'n aneglur bod yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni yn cwrdd â meini prawf y cynllun neu ddim yn teimlo'n ddigon hyderus efallai i wneud cais. hyd yn oed os ydynt wedi cyflawni rhagoriaeth.
Gyda phob sefyllfa ddatblygiadol, rydym yn disgwyl i reolwyr llinell drafod y cwestiynau hyn yn adeiladol â'u staff a lle bo hynny'n briodol, eu helpu i lunio’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni yn y ffurflen gais.
Mewn amgylchiadau eithriadol, gall rheolwr wneud cais ar ran ei gydweithwyr ond os felly, rhaid iddo fod yn glir ar y ffurflen gais.