Polisi Absenoldeb Profedigaeth Rhieni

Cymhwystra Ar Gyfer Absenoldeb
Cymryd Absenoldeb Profedigaeth Rhiant (APR)
Hysbysiad
Hyd Y Gofynion Hysbysu
Tâl Profedigaeth Statudol Rieni
Hawl i ddychwelyd ar ôl APR

Mae Rheoliadau Absenoldeb Profedigaeth Rhieni 2020, yn cyflwyno absenoldeb a thâl profedigaeth statudol i rieni mewn perthynas â’r plant sy'n marw ar neu ar ôl 6 Ebrill 2020.

Prif fuddiolwyr absenoldeb profedigaeth rhiant statudol yw gweithwyr sy'n rhieni i blentyn marw o dan 18 oed.  Mae hyn yn cynnwys rhieni mabwysiadol, rhieni maeth a gwarcheidwaid a'r rhieni a fwriedir o dan gytundeb croth yn ogystal â grwpiau mwy anffurfiol megis perthnasau agos neu gyfeillion i'r teulu sydd wedi cymryd cyfrifoldeb am ofal y plentyn yn absenoldeb rhieni am gyfnod di-dor neu o leiaf 4 wythnos cyn y farwolaeth.

1. Cymhwystra Ar Gyfer Absenoldeb

Mae absenoldeb profedigaeth rhiant yn hawl cyflogaeth "diwrnod un", sy'n golygu nad oes angen lleiafswm cyfnod o wasanaeth ar y gweithwyr ar gyfer yr absenoldeb.

Mae cymhwysedd yn ymestyn i gynnwys unigolion sydd â chyfrifoldeb gofalu am blentyn ymadawedig sydd wedi marw ar yr amod bod yr unigolyn, am gyfnod parhaus o bedair wythnos o leiaf cyn i'r plentyn farw wedi bod yn byw gyda'r plentyn a'i fod yn cael chyfrifoldeb dros y plentyn.

Mae rhieni sy'n dioddef marw-enedigaeth 24 wythnos neu fwy yn y beichiogrwydd hefyd â hawl i absenoldeb profedigaeth rhiant.

2. Cymryd Absenoldeb Profedigaeth Rhiant (APR)

Gellir cymryd APR ar unrhyw adeg o fewn 56 wythnos i farwolaeth y plentyn.

Mae'r hawl statudol i bythefnos o wyliau. Rhaid cymryd yr absenoldeb hwn mewn blociau o un wythnos ac nid yw ar gael fel diwrnodau unigol.

Gall rhieni gymryd gwyliau mewn bloc unigol o 2 wythnos neu mewn dau floc ar wahân o un wythnos yr un.  Nid oes angen i'r wythnosau fod yn olynol.

Pan fydd mwy nag un plentyn yn marw, mae gan y gweithiwr yr hawl i gael pythefnos o absenoldeb profedigaeth rhiant mewn perthynas â phob plentyn.

Lle mae gweithiwr sydd wedi cael profedigaeth eisoes ar absenoldeb mamolaeth, yna gall ychwanegu'r absenoldeb profedigaeth rhiant hyd at ddiwedd ei gyfnod. Yna, rhaid cymryd y APR mewn un cyfnod olynol.

Yn yr achos lle mae'r gweithwr yn hysbysu'r brifysgol o'i fwriad i ddechrau absenoldeb profedigaeth rhiant a mae’r gweithwr eisoes yn y gwaith y diwrnod hwnnw, bydd y APR yn dechrau ar y diwrnod nesaf.

3. Hysbysiad

I gymryd absenoldeb profedigaeth rhiant, rhaid i’r gweithiwr gadarnhau i'r adran adnoddau dynol neu'r rheolwr llinell y byddant yn cymryd yr absenoldeb hwn a darparu'r wybodaeth ganlynol:

  • Dyddiad marwolaeth y plenty
  • Eu perthynas â'r plentyn ymadawedig sy'n rhoi hawl iddynt gael absenoldeb profedigaeth rhiant statudol
  • Y dyddiad y maent yn dechrau eu absenoldeb profedigaeth rhiant
  • Os ydynt yn bwriadu cymryd un neu ddwy wythnos o absenoldeb profedigaeth rhiant

D.S. Bydd yr adran adnoddau dynol neu'r rheolwr llinell wedyn yn cwblhau'r ffurflen APR ar gyfer y gweithiwr

4. Hyd Y Gofynion Hysbysu

Os yw'r gweithwr yn cymryd absenoldeb o fewn 56 diwrnod i farwolaeth y plentyn yna gall gymryd yr absenoldeb yn syth heb orfod rhoi cyfnod o rybudd.

I ganslo absenoldeb profedigaeth rhiant yr wythnos hon, rhaid i'r gweithwr roi rhybudd erbyn yr adeg ar ddiwrnod cyntaf yr wythnos honno pryd y byddai'r gweithwr wedi bod yn dechrau ar ei waith.

Os yw'r gweithwr yn cymryd gwyliau dros 56 diwrnod ar ôl marwolaeth y plentyn, mae angen o leiaf un wythnos o rybudd o'i fwriad i gymryd absenoldeb profedigaeth rhiant.

I ganslo absenoldeb profedigaeth rhiant yr wythnos hon, rhaid i'r gweithiwr roi rhybudd i'r cyflogwr o leiaf un wythnos cyn dechrau'r wythnos honno.

Ni chaiff gweithiwr ganslo unrhyw wythnos o absenoldeb profedigaeth rhiant sydd eisoes wedi dechrau.

5. Tâl Profedigaeth Statudol Rieni

I fod yn gymwys i gael tâl profedigaeth statudol ar gyfer rhieni, mae'n ofynnol i weithwyr sydd ar absenoldeb profedigaeth rhieni gael:

  • O leiaf 26 wythnos o gyflogaeth barhaus gyda'u cyflogwr yn bennu gyda'r wythnos cyn yr wythnos y mae eu plentyn yn marw ac yn dal i gael ei gyflogi gan y cyflogwr hwnnw ar y diwrnod y mae eu plentyn yn marw; 

A

  • Enillion wythnosol arferol yn yr wyth wythnos hyd at yr wythnos cyn marwolaeth y plentyn sydd ddim llai na'r terfyn enillion isaf at ddibenion cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Fodd bynnag, mae Grŵp Gweithredol y Brifysgol wedi penderfynu y gall pob gweithwr gymryd 10 diwrnod o absenoldeb ar gyflog llawn waeth beth fo hyd eu gwasanaeth.

6. Hawl i ddychwelyd ar ôl APR

Os ydych yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl wythnos neu bythefnos o absenoldeb APR mae gennych yr hawl i ddychwelyd i'r swydd a ddaliwyd gennych yn union cyn i'ch absenoldeb ddechrau, ar yr un telerau ac amodau cyflogaeth.

Os nad yw'n rhesymol ymarferol i chi ddychwelyd i'r un swydd, rhaid i chi gael cynnig gwaith addas arall os yw ar gael.

Adolygu’r Polisi

Bydd Adnoddau Dynol yn cydlynu adolygiad o’r polisi hwn er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r gyfraith ac ymarfer da. Bydd pob adolygiad yn cynnwys ymgynghori ag undebau llafur cydnabyddedig, a bydd unrhyw newidiadau a gynigir yn cael eu cyflwyno i’r pwyllgor perthnasol priodol, Grŵp Gweithredol y Brifysgol a’r Cyngor os bydd angen.  

Fersiwn 1.1

Dyddiad Adolygiad Diwethaf: Mawrth 2020

Dyddiad Adolygiad Nesaf: Mawrth 2021