Gwyliau Blynyddol

Gwyliau Blynyddol
Gofynion cyfreithiol y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith
Rheoli Gwyliau Blynyddol
Cyfrifoldebau Rheoli
Faint o wyliau y mae genych hawl iddynt
Pobl Aber (Hunanwasanaeth)
Sut mae Pobl Aber yn cyfrifo faint o wyliau y mae gennych hawl iddynt
Addasu’r gwyliau y mae gennych hawl iddynt

Gwyliau Blynyddol

Mae Prifysgol Aberystwyth yn hyrwyddo cydbwysedd cadarnhaol ac iach rhwng bywyd a gwaith, ac mae’n cydnabod pwysigrwydd gwyliau blynyddol i’r perwyl hwnnw. Nod y canllawiau hyn, sy’n berthnasol i bob aelod o’r staff, yw darparu dull teg, cyson a theg o gronni a chymryd gwyliau blynyddol, a chadw’r ddysgl yn wastad ar yr un pryd rhwng anghenion yr unigolyn a gofynion gweithredol.

Gofynion cyfreithiol y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith

O dan y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith mae’n rhaid i bawb a gyflogir gymryd o leiaf 28 (diwrnod) / 204.4 (awr) o wyliau bob blwyddyn ac ni cheir rhoi tâl yn gyfnewid am yr amser hwnnw (bydd hynny ar sail pro-rata i staff rhan amser).  At ddibenion y Gyfarwyddeb mae’r 28 diwrnod ar hyn o bryd yn cynnwys gwyliau banc a dyddiau cau’r Brifysgol, ond nid yw hyn yn lleihau faint o wyliau blynyddol y mae gan bobl hawl iddynt. Felly, dylai rheolwyr annog eu staff i gymryd yr holl wyliau blynyddol y mae ganddynt hawl iddynt yn ystod y flwyddyn wyliau, ond mae’n rhaid iddynt o leiaf sicrhau bod staff llawn amser sy’n elwa ar y gwyliau banc a dyddiau cau hefyd yn cymryd o leiaf 16 diwrnod1 / (116.8 awr) o’r gwyliau blynyddol y mae ganddynt hawl i’w cymryd, er mwyn bodloni’r gofyniad cyfreithiol i gymryd 28 diwrnod o wyliau.

Rheoli Gwyliau Blynyddol

Mae blwyddyn gwyliau blynyddol y Brifysgol yn para o 1 Ionawr tan 31 Rhagfyra 27 diwrnod (197.1 awr) yw uchafswm y gwyliau blynyddol a roddir.

Cyfrifoldebau Rheoli

Mae’n gyfrifoldeb ar y rheolwyr i sicrhau bod eu staff yn gallu cymryd cyfnodau rhesymol o wyliau blynyddol drwy gydol y flwyddyn, a’u bod yn gwneud hynny; bodloni gofynion y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith (yn seiliedig ar iechyd a lles yr unigolyn); sicrhau nad yw’r staff yn colli gwyliau blynyddol wrth symud o un flwyddyn wyliau i’r llall; ac osgoi gorfod talu costau gormodol am wyliau blynyddol sy’n ddyledus ar ddiwedd contractau cyflogaeth.

Os bydd aelod o’r staff yn cymryd gwyliau heb ganiatâd dylid trafod hyn yn fanwl â’r tîm Adnoddau Dynol perthnasol.

Yn ogystal, ar gyfer staff y mae angen fisa arnynt i weithio yn y DU, o dan Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 mae’n rhaid i’r Brifysgol roi gwybod i Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) am unrhyw gyfnod o absenoldeb heb ganiatâd sy’n para mwy na 10 diwrnod gwaith.  Mae’n rhaid i reolwyr roi gwybod i’w Tîm Adnoddau Dynol am unrhyw absenoldeb o’r fath ymhen 13 diwrnod gwaith o ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb er mwyn i’r Brifysgol allu cydymffurfio â’i rhwymedigaethau cyfreithiol.

Faint o wyliau y mae genych hawl iddynt

Cyfrifir gwyliau blynyddol fesul awr i’r holl staff er mwyn sicrhau cysondeb ymhlith staff llawn amser a rhan amser.

 
Hawl i wyliau blynyddol (Oriau)
Hawl i wyliau blynyddol (Diwrnodau)
Cyfwerth ag amser llawn (7.3 awr x 27 diwrnod)
197.10
27

Yn ogystal â’r hawl uchod, mae gan staff llawn amser hawl i gael wyth diwrnod o wyliau cyhoeddus a phedwar diwrnod cau’r Brifysgol yn dibynnu ar gyfnod eu cyflogaeth. Mae rhestr lawn ar wefan y Brifysgol.

 
Hawl (Oriau)
Hawl (Diwrnodau)
Gwyliau cyhoeddus
58.4
8
Dyddiau cau 
36.5
5
Cyfansymiau
94.9

13

Cyfrifir hawliau staff rhan amser ar sail pro-rata ac mae modd i chi eu cyfrif drosoch eich hun drwy ddefnyddio’r cyfrifwr gwyliau blynyddol.

Rhaid cymryd gwyliau blynyddol yn ystod blwyddyn wyliau’r Brifysgol, sy’n rhedeg o 1 Ionawr i 31 Rhagfyr, trwy gytundeb â Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran / Pennaeth yr Adran (neu rywun a enwebir ganddo/ganddi) / Pennaeth y Gwasanaethau Proffesiynol (neu rywun a enwebir ganddo/ganddi). Fel arfer gall staff sy'n gweithio oriau amser-llawn gario 36.5 awr o wyliau blynyddol ymlaen (oriau pro rata cyfatebol i staff rhan-amser) i’r flwyddyn wyliau ganlynol. Os bydd achos busnes clir, gall Pennaeth yr Adran awdurdodi eithriadau, ar ôl ymgynghori â’r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol

Pobl Aber (Hunanwasanaeth)

Mae’n rhaid i holl absenoldebau aelodau o’r staff gael eu cofnodi, naill ai gan yr aelod o staff dan sylw, neu gan weinyddwr yr Athrofa neu’r Adran drwy Pobl Aber (Hunanwasanaeth), a hynny oherwydd nifer o ddyletswyddau cyfreithiol a chontractiol, megis:

  • Monitro’r Gwyliau Blynyddol a gymerwyd (at ddibenion iechyd a lles / y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith).
  • Monitro faint o wyliau blynyddol sy’n ddyledus ar ddiwedd y contract cyflogaeth.
  • Rhoi adroddiad am wyliau blynyddol sydd heb eu cymryd, at ddibenion y Rheoliadau Ariannol (IFRS 102).
  • Bodloni’r gofynion cyfreithiol i roi gwybod am absenoldebau unigolion a noddir.

Sut mae Pobl Aber yn cyfrifo faint o wyliau y mae gennych hawl iddynt

Bydd Pobl Aber yn cyfrifo yn awtomatig faint o wyliau blynyddol y mae gennych hawl iddynt fesul awr, ar sail oriau eich contract, hyd eich contract, a’ch Amserlen Waith (eich Patrwm Gweithio), gan dynnu’r gwyliau cyhoeddus a dyddiau cau’r Brifysgol o gyfanswm y gwyliau y mae gennych hawl iddynt.

Os newidiwch eich patrwm gweithio neu oriau eich contract neu os symudwch i swydd arall, mae’n bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr bod Pobl Aber wedi ei ddiweddaru’n briodol.

Bydd sgrin balansau eich gwyliau blynyddol yn dangos manylion ynglŷn â faint o wyliau blynyddol y mae gennych hawl iddynt gan gynnwys:

Dygwyd ymlaen Nifer yr oriau a ddygwyd ymlaen o’r flwyddyn gynt
Hawl i wyliau blynyddol = awr / 36.5 * 197.1 * hyd y dyddiau a weithiwyd yn ystod y flwyddyn
Addasiad gwyliau banc / dyddiau cau = addasiad a wneir os bydd unrhyw oriau a gofnodir ar yr amserlen waith (patrwm gweithio) yn cwympo ar ŵyl y banc /diwrnod cau bydd yr oriau’n cael eu cymharu â’r hawl lawn amser, sef 7.3 awr am bob gŵyl banc/diwrnod cau (rhan amser pro-rata)
Cyfanswm y gwyliau = Gwyliau blynyddol y mae gennych hawl iddynt + dyddiau a ddygwyd ymlaen + addasiad gwyliau banc
Cymerwyd Faint o wyliau blynyddol a gymerwyd yn ystod y flwyddyn wyliau
Balans = Cymerwyd – Cyfanswm y gwyliau

Gall pob aelod o’r staff ddefnyddio’r cyfrifwr gwyliau blynyddol i weld sut y mae Pobl Aber yn cyfrifo faint o ddyddiau y mae ganddynt hawl iddynt. Os ydych o’r farn bod eich cyfanswm wedi ei gyfrifo’n anghywir, lawrlwythwch ef a chysylltwch ag Adnoddau Dynol, a fydd yn falch o’ch helpu.

Sylwer bod y broses o addasu gwyliau blynyddol yn diweddaru’r balansau bob pum munud ac efallai y bydd oedi cyn i chi allu gweld absenoldebau newydd a gofnodir.

Mae canllawiau ynglŷn ag archebu gwyliau drwy’r system ar gael ar wefan Pobl Aber.

Addasu’r gwyliau y mae gennych hawl iddynt

O bryd i’w gilydd bydd angen addasu faint o wyliau y mae gan staff hawl iddynt

  • Absenoldeb mamolaeth: mewn amgylchiadau eithriadol mae’n bosib y bydd angen gwneud hyn ar gyfer staff sydd wedi cronni gwyliau yn ystod absenoldeb mamolaeth
  • Absenoldeb salwch: i staff sydd wedi cronni gwyliau yn ystod cyfnod o absenoldeb salwch
  • Amgylchiadau eithriadol eraill: er mwyn dwyn ymlaen wyliau o fwy na 36.5 awr (5 diwrnod) (neu pro-rata) bydd yn rhaid cael caniatâd priodol gan Bennaeth yr Adran neu’r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
  • Contractau oriau blynyddol

Nid yw hon yn rhestr gyflawn, felly cysylltwch â’r adran Adnoddau Dynol i gael gwybod mwy

116 diwrnod yn seiliedig ar 12 diwrnod o wyliau cyhoeddus/dyddiau cau; 15 diwrnod pan fo 13 diwrnod o wyliau cyhoeddus/diwrnodau cau

1 Ebrill i 31 Mawrth yw’r flwyddyn ar gyfer staff ar delerau ac amodau etgifeddol 

Adolygu’r Polisi

Bydd Adnoddau Dynol yn cydlynu adolygiad o’r polisi hwn er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r gyfraith ac ymarfer da. Bydd pob adolygiad yn cynnwys ymgynghori ag undebau llafur cydnabyddedig, a bydd unrhyw newidiadau a gynigir yn cael eu cyflwyno i’r pwyllgor perthnasol priodol, Grŵp Gweithredol y Brifysgol a’r Cyngor os bydd angen.  

Fersiwn 1.1

Dyddiad Adolygiad Diwethaf: Mai 2015

Dyddiad Adolygiad Nesaf: Mai 2016