Amserlen Waith (Patrwm Gweithio)

Beth yw amserlen waith?
Pam mae hi’n bwysig bod eich amserlen waith yn gywir?
Sut mae amserlen waith yn edrych?  
Sut mae gwneud yn siŵr bod fy mhatrwm gweithio’n gywir?
Patrymau gweithio nad ydynt yn safonol

Beth yw amserlen waith?

Mae eich amserlen waith yn dangos sut y mae eich oriau gwaith wedi eu rhannu dros ddyddiau eich wythnos waith.

Bydd aelod llawn amser o’r staff fel arfer yn gweithio 36.5 awr yr wythnos (heb gynnwys amser cinio ac amser coffi) o ddydd Llun i ddydd Iau, 9.00am tan 17:00, ac ar ddydd Gwener, 9.00 tan 16:00. 

Mae modd cynnwys amrywiadau ar yr wythnos waith safonol yn Pobl Aber, ond bydd yr un egwyddorion yn berthnasol.

Pam mae hi’n bwysig bod eich amserlen waith yn gywir?

Mae Pobl Aber yn defnyddio’r amserlen waith i ddyrannu gwyliau, gwyliau banc a dyddiau cau.  Os na fydd yr amserlen waith yn gywir gallai effeithio ar y cyfrifiadau hyn.

Yn ystod cyfnod y contract cyflogaeth, mae gan staff llawn amser a rhan amser yr un hawl pro-rata i wyliau banc a dyddiau cau, e.e mae gan aelod o staff 0.5 cyfwerth ag amser llawn hawl i wyliau blynyddol pro-rata.

Pan fo gŵyl y banc neu ddiwrnod cau’n cwympo ar ddiwrnod pan fyddech fel arfer yn gweithio (yn ôl eich amserlen waith yn Pobl Aber), caiff yr oriau y byddech wedi eu gweithio eu tynnu o gyfanswm y gwyliau y mae gennych hawl iddynt.

Mae’r rhan fwyaf o wyliau banc yn digwydd ar ddechrau’r wythnos, e.e. dydd Llun, dydd Mawrth, ac felly, i’r staff sy’n gweithio’n rhan amser, mae’n bosib y bydd mwy o’u gwyliau’n cael eu dyrannu’n awtomatig.

Sut mae amserlen waith yn edrych?  

Pan edrychwch ar Pobl Aber, bydd dwy elfen i’ch amserlen waith:-

1)   Oriau wythnosol

2)   Diwrnod yr wythnos, yr oriau a’r munudau a ddyrannwyd i chi.

Enghreifftiau

1)   Bydd aelod llawn amser o’r staff sy’n gweithio 36.5 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ymddangos fel hyn: 

36.5 M 7:30 T 7:30 W 7:30 T 7:30 F 6:30 S 0:00 S 0:00

2) Bydd aelod rhan amser o’r staff sy’n gweithio 11 awr yr wythnos, ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, yn ymddangos fel hyn:

 

11     M 0:00 T 5:00 W 6:00 T 0:00 F 0:00 S 0:00 S 0:00

Sut mae gwneud yn siŵr bod fy mhatrwm gweithio’n gywir?

Mewngofnodwch i Pobl Aber (Hunanwasanaeth), ac ewch i’r tudalennau Gwybodaeth > Fy amserlen waith (My Workschedule)

Patrymau gweithio nad ydynt yn safonol

Os oes gennych Daflen Amser:

Patrymau Dim Oriau:  mae rhai trefniadau gweithio mor afreolaidd nes ei bod yn well eu rheoli yn yr adran drwy drefniadau penodol.  Dim ond absenoldebau salwch y bydd yn rhaid i staff sy’n gweithio o dan drefniadau o’r fath eu cofnodi yn Pobl Aber.

Gwaith shifft:  Bydd Pobl Aber yn dynodi patrwm diofyn i chi yn seiliedig ar oriau eich contract. Cysylltwch â’ch tîm Adnoddau Dynol i gadarnhau hyn.

Tymor yn unig: mae’r rhan fwyaf o gontractau tymor yn unig yn tybio y cymerir gwyliau y tu allan i’r tymor. Er hynny, mae rhai pobl ar gontractau tymor yn unig yn defnyddio Pobl Aber i gofnodi eu gwyliau. Os digwydd hyn, dynodir patrwm diofyn i chi sy’n adlewyrchu eich patrwm gweithio mwyaf cyffredin. Cysylltwch â’ch tîm Adnoddau Dynol os bydd angen i chi gadarnhau hyn.

Oriau blynyddol:  Bydd eich tîm Adnoddau Dynol yn addasu cyfanswm y gwyliau y mae gennych hawl iddynt i adlewyrchu eich contract penodol chi a dynodir patrwm diofyn i chi sy’n adlewyrchu eich patrwm gweithio mwyaf cyffredin. Yna, bydd modd i chi drefnu gwyliau blynyddol gan ddefnyddio’r system.  Cysylltwch â’ch tîm Adnoddau Dynol os bydd angen i chi gadarnhau hyn.