Hyfforddiant
Sut i ofyn am absenoldeb (gwyliau blynyddol) a gweld eich papur tâl electronig ar Pobl Aber People
Trosolwg: Sesiwn ragarweiniol yw hon a fydd yn dangos ichi sut i ofyn am absenoldeb (gwyliau blynyddol) trwy Pobl Aber People a gweld eich papur tâl electronig.
Pwy ddylai ddod?: Gweithwyr cyflogedig ym Mhrifysgol Aberystwyth
Angenrheidiol cyn y sesiwn: Mewngofnod a chyfrinair cyfredol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dyddiadau’r Cwrs: Dydd Mercher 3 Mehefin
Hyfforddiant Polisi Urddas a Pharch yn y Gweithle
Trosolwg: Bydd y cwrs yn rhoi cyfarwyddyd er mwyn i gydweithwyr yn deall sut y mae sicrhau urddas a pharch yn y gweithle; i roi gwybodaeth i gydweithwyr am eu hawliau os ydynt yn teimlo nad ydynt yn cael eu trin ag urddas a pharch; yn dangos i gydweithwyr y dulliau sydd ar gael i’w defnyddio os oes sefyllfaoedd o’r fath yn codi; annog ymddygiad cadarnhaol a dangos sut i ddefnyddio dulliau anffurfiol i ddatrys materion os oes sefyllfa’n codi.
Dyddiad y Cwrs: Dydd Iau 11 Mehefin