Pensiynau

Mae cyfrannu at eich pensiwn yn caniatáu i chi gronni pot o arian i ddarparu ar eich cyfer chi a'ch teulu ar ôl ymddeol. Yn ogystal â’ch cyfraniadau, mae’r Brifysgol yn cyfrannu hefyd, a byddwch yn derbyn gostyngiad treth. Mae buddion hefyd yn cynnwys marwolaeth mewn darpariaeth gwasanaeth a buddion teuluol eraill sy’n benodol i gynllun pensiwn.

Gofynnir i aelod o staff sydd angen rhagor o wybodaeth gysylltu â'r Adran Gyflogres a Phensiynau ar estyniadau 2033/8706 neu drwy e-bost: pensions@aber.ac.uk 

AUPP

Mae staff Gradd 5 ac is yn gymwys, o’r adeg pan ddechreuant ar eu cyflogaeth, i ymuno â Chynllun Pensiwn Prifysgol Aberystwyth (AUPP), y cynllun pensiwn galwedigaethol a ddarperir gan y Brifysgol.

Bydd gweithwyr Gradd 5 ac is yn cael eu cofrestru ar gyfer AUPP yn unol â’u contract: 

  • Os oes ganddynt gontract cyflogaeth am 3 mis neu fwy
  • Os ydynt rhwng 18 a 65 oed 
  • Os yw eu henillion blynyddol yn fwy na £5,876.

Os yw'r gweithiwr yn bodloni'r meini prawf uchod, byddant yn cael eu hystyried yn awtomatig yn aelod o AUPP o ddyddiad cychwyn eu contract a bydd cyfraniadau'n cael eu didynnu yn unol â hynny.

Gall y gweithiwr ddewis peidio â bod yn rhan o AUPP drwy ofyn am Ffurflen Eithrio gan is-adran Cyflogres a Phensiynau yr adran Adnoddau Dynol.

Gofynnir i aelodau o staff sydd angen rhagor o wybodaeth gysylltu â'r is-adran Cyflogres a Phensiynau ar estyniadau 2033 / 8706 neu drwy e-bost: pensions@aber.ac.uk

Ceir gwybodaeth hefyd gan:

USS

Mae staff Gradd 6 ac uwch yn gymwys, o’r adeg pan ddechreuant ar eu cyflogaeth, i ymuno â Chynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS), y cynllun pensiwn galwedigaethol a ddarperir gan y Brifysgol.

Bydd gweithwyr Gradd 6 ac uwch yn cael eu cofrestru ar gyfer USS yn unol â’u contract: 

  • Os oes ganddynt gontract cyflogaeth am 3 mis neu fwy
  • Os ydynt rhwng 18 a 65 oed 
  • Os yw eu henillion blynyddol yn fwy na £5,876.

 Os yw'r gweithiwr yn bodloni'r meini prawf uchod, byddant yn cael eu hystyried yn awtomatig yn aelod o USS o ddyddiad cychwyn eu contract a bydd cyfraniadau'n cael eu didynnu yn unol â hynny.

Gall y gweithiwr ddewis peidio â bod yn rhan o USS drwy ofyn am Ffurflen Eithrio gan is-adran Cyflogres a Phensiynau yr adran Adnoddau Dynol.

Gofynnir i aelodau o staff sydd angen rhagor o wybodaeth gysylltu â'r is-adran Cyflogres a Phensiynau ar estyniadau 2033 / 8706 neu drwy e-bost: pensions@aber.ac.uk

Mae gwybodaeth ar gael hefyd o wefan USS: www.uss.co.uk

Cynllun Pensiwn a Sicrwydd Prifysgol Aberystwyth (AUPAS) (Ar gau i aelodau newydd)

Mae'r cynllun hwn ar gau i aelodau newydd ar 31 Mawrth 2015. Gofynnir i aelodau staff sydd angen rhagor o wybodaeth gysylltu drwy e-bost: aupstaff@aber.ac.uk 

Gellir cael gwybodaeth hefyd gan: