Ie. Ar gyfer gwladolion yr UE a oedd yn preswylio cyn y dyddiad gadael (31 Ionawr 2020), mae eich hawliau preswylio yn aros yr un fath a gallwch barhau i weithio yn y Brifysgol heb gyfyngiad.
Rhaid i chi wneud cais am naill ai statws ‘statws preswylydd cyn-sefydlog’ neu ‘statws preswylydd sefydlog’, trwy gynllun statws setliad yr UE, cyn 31 Rhagfyr 2020. Mae cynllun statws setliad yr UE yn fyw ac yn agored ar gyfer ceisiadau, sydd bellach yn rhad ac am ddim.
Os ydych chi'n cael eich cyflogi gan y Brifysgol ar hyn o bryd ac yn gweithio dramor, ond yn preswylio yn y DU cyn 31 Ionawr 2020, byddwch yn dal i allu gwneud cais am naill ai statws preswylydd cyn-sefydlog neu statws preswylydd sefydlog ar yr amod nad ydych wedi bod yn absennol am fwy na phum mlynedd yn barhaus (am unrhyw reswm) ac yn dychwelyd i'r DU cyn 31 Rhagfyr 2020.
Mae arweiniad pellach ar gynllun Statws Setliad yr UE, sydd hefyd yn cwmpasu canllawiau ar gyfer aelodau'ch teulu, ar gael ar dudalennau gwe'r llywodraeth https://www.gov.uk/settled-status-eu-citizens-families/applying-for-settled-status