Cytundeb Fframwaith / HESA

Cyflwyniad

Mae’r tudalennau hyn yn cyflwyno gwybodaeth am y newidiadau i’r trefniadau tâl a’r graddfeydd tâl ym Mhrifysgol Aberystwyth ac am newidiadau i rai telerau ac amodau.

Diben y newidiadau hyn yw rhoi ar waith y cytundeb cenedlaethol a wnaed yn 2003 i foderneiddio strwythurau tâl a’r Memorandwm Dealltwriaeth rhwng yr UCU a’r UCEA, sef corff y cyflogwyr.

Cafwyd cytundeb rhwng y Brifysgol a thair o undebau llafur y campws, sef UCU, Unite ac Unison trwy gyfrwng Pwyllgor Llywio’r Bartneriaeth ar Foderneiddio Strwythurau Tâl a’i weithgorau. Mae’r undebau llafur wedi cynnal pleidlais lwyddiannus ymhlith eu haelodau ac mae’r cytundeb yn cael ei roi ar waith ar hyn o bryd; 1 Mawrth yw’r dyddiad gweithredu.

Rhannau

  1. Dogfenni Fframwaith ac Apêl
  2. Proffil Academaidd
  3. Proffil Gweinyddol, Rheoli a Phroffesiynol (AMP)
  4. Proffil Gweithredwr Technegol a Chyfrifiadur (TCO)
  5. Proffil Clerigol (CS)
  6. Proffil Gwasanaethau Campws (CServices)
  7. Gweithdrefn Asesu Graddfa Swydd
  8. Graddio Rol Newydd