Gwybodaeth am alergedd
Mae hylendid a diogelwch yn flaenoriaeth i’r Brifysgol. Rydym yn defnyddio Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP) i wirio bod yr holl weithdrefnau'n gweithio'n iawn, gan gynnwys archwilio ein cyflenwyr, cynnal archwiliadau hylendid rheolaidd yn ein ceginau, plismona cyson gan ein hymgynghorydd Iechyd yr Amgylchedd, a hyfforddi staff.
Ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym yn darparu gwybodaeth am alergenau ar gyfer bwydydd a diodydd sydd wedi'u pecynnu ymlaen llaw ac ar gyfer bwydydd a diodydd na chânt eu pecynnu. Rydym yn trin ac yn rheoli alergenau ac anoddefiadau bwyd yn effeithiol wrth baratoi ein holl fwydydd.
- Mae taflen wybodaeth ysgrifenedig am alergenau ar gael bob dydd.
- Gallwch hefyd siarad ag aelod o staff.
- Mynnwch air â’r cogydd sydd ar ddyletswydd i ofyn am y cynnyrch dan sylw.
- Mae taflen alergeddau ac anoddefiadau yn cael ei harddangos hefyd.
Diben hyn yw sicrhau bod yr holl wybodaeth yn gywir ac yn gyson.
- Glwten (Er enghraifft Haidd a Cheirch)
- Cramenogion (Corgimychiaid, Cranc, Cimychiaid)
- Molysgiaid (Cregyn Gleision ac Wystrys)
- Cnau Coed (Er enghraifft Almonau, Cnau Ffrengig, Cnau Cyll)
- Wyau
- Bysedd y Blaidd
- Llaeth
- Mwstard
- Pysgnau
- Seleri
- Sesame
- Soia
- Sylffadau
- Pysgod
Os oes gennych alergedd i gynhwysion nad ydynt wedi'u cynnwys yn yr 14 alergen a restrir uchod, gofynnwch a rhowch wybod i ni am eich alergenau bwyd penodol.
Gallwn eich sicrhau y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gyd-fynd â’ch gofynion. Rydym yn gwerthfawrogi’r ffaith bod rhai cwsmeriaid yn sensitif yngylch eu halergenau, a gallwn eich sicrhau bod yr holl wybodaeth yn cael ei thrin yn gynnil.
Dylech fod yn ymwybodol y gall olion o'r 14 alergen fod yn bresennol mewn cynhwysion eraill oherwydd amgylchedd y gegin
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cydymffurfio â’r rheolau a osodir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. www.food.gov.uk