Dr Eryn White

BA (Cymru) PhD (Cymru)

Dr Eryn White

Darllenydd

Adran Hanes a Hanes Cymru

Manylion Cyswllt

Proffil

Y mae Eryn White yn hanesydd Cymru yn y cyfnod modern cynnar, gyda diddordeb arbennig mewn crefydd, diwylliant a chymdeithas. Cyhoeddodd yn helaeth ar Gymru'r ddeunawfed ganrif yn enwedig, ond y mae hefyd wedi bwrw golwg yn fwy eang ar agweddau o'r diwylliant print yng Nghymru ac ar Anghydffurfiaeth gynnar. Ymhlith ei diddordebau eraill y mae hanes trosedd a thirfeddiannaeth, yn enwedig yn ne-orllewin Cymru, a hi yw golygydd Ceredigion, cylchgrawn Cymdeithas Hanes Ceredigion. Y mae'n aelod o nifer o fyrddau golygyddol, gan gynnwys 'Studies in Welsh History' ar gyfer Gwasg Prifysgol Cymru.

Dysgu

Module Coordinator
Lecturer
Tutor
Aspire Admin
Coordinator
Moderator

Prif ffocws Eryn White yw hanes Cymru yn y cyfnod modern cynnar, ond y mae hefyd yn cyfrannu at nifer o fodiwlau ar y cyfnod modern cynnar yn fwy cyffredinol. Y mae'n dysgu ar ystod o fodiwlau o'r flwyddyn gyntaf hyd at MA.

Arolygu PhD:

  • Agweddau ar hanes crefydd, addysg a diwylliant yng Nghymru'r cyfnod modern cynnar; tirfeddiannaeth a'r gymdeithas yn y ddeunawfed ganrif hir.

Ymchwil

Mae gan Eryn White ddiddordeb cyffredinol yn hanes Cymru yn y cyfnod modern cynnar, gyda diddordebau ymchwil arbennig mewn crefydd, llythrennedd, y diwylliant print, trosedd, moesoldeb, merched a chymdeithas yng Nghymru'r ddeunawfed ganrif. Astudiodd agweddau amrywiol ar y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru, gan gynnwys ei apêl, rôl merched, y cwestiwn o hunaniaeth, y berthynas â'r iaith Gymraeg ac addysg a'r agwedd tuag at wariant a busnes. Y mae wedi cyhoeddi'n ogystal ar hanes Anghydffurfiaeth gynnar yng Nghymru ac ar ddylanwad y Beibl yn Gymraeg ar gymdeithas a diwylliant.

Oriau Swydda (Amseroedd Cyswllt Myfyrwyr)

  • Dydd Mawrth 15.00-16.00
  • Dydd Gwener 11.00-11.50

Cyhoeddiadau

White, EM 2022, 'Reviews: DEVIANT MATERNITY: ILLEGITIMACY IN WALES, C. 1680-1800', Welsh History Review, vol. 31, no. 1, pp. 188-189. 10.16922/whr.31.1.8
White, E 2020, 'A Woman is stir'd up to speak': Pioneer Women Preachers of Eighteenth-century Welsh Methodism. in J Lenton, CM Norris & LA Ryan (eds), Women, Preachers, Methodists: Papers from two conferences held in 2019, the 350th anniversary of Susanna Wesley's birth. Oxford Centre for Methodism and Church History, Oxford, pp. 95-124.
White, E 2020, The Welsh Methodist Society: The Early Societies in South-west Wales 1737-1750 . Gwasg Prifysgol Cymru | University of Wales Press, Cardiff. <https://www.uwp.co.uk/book/the-welsh-methodist-society/>
White, E 2018, Protestant Dissent in Wales. in AC Thompson (ed.), Oxford History of Protestant Dissenting Traditions: The Long Eighteenth Century c. 1689-c. 1828. 1 edn, vol. 2, Oxford University Press, Oxford, pp. 160-182.
White, E 2015, Religious Revivals in the Eighteenth, Nineteenth and Twentieth Centuries. in Religion and Society in the Diocese of St Davids, 1485-2011. Taylor & Francis, pp. 129-56.
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil